Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd yr ap hwn

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei apiau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r ap hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Nid oes testun amgen ar gyfer rhai lluniau yn yr ap. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth ynddynt ar gael i ddefnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun) CHCG 2.1.

Nid oes labeli gan rai meysydd ar ffurflenni yn yr ap. Gall hyn olygu nad yw'n glir i'r defnyddwyr sy'n llenwi'r ffurflen pa ddata y dylid ei roi yn y maes. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Ar rai dyfeisiau (Android), nid oes modd darllen rhywfaint o'r testun yn yr ap gyda darllenydd sgrin. Golyga hyn na fydd defnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gallu cael mynediad i'r wybodaeth hon. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1..

Nid oes gan y rhan fwyaf o'r botymau yn yr ap gyferbyniad digonol rhwng lliw'r testun a lliw'r cefndir.  Golyga hyn fod y testun yn anodd ei ddarllen i ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG 2.1.

Nid oes gan rai botymau a dolenni yn yr ap enwau na thestun dolen. Golyga hyn nad yw defnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gwybod beth mae pob un o'r botymau neu'r dolenni yn ei wneud. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1.

Nid oes enwau gan rai botymau yn yr ap. Golyga hyn na fydd defnyddwyr sy'n defnyddio lleferydd i destun yn gallu cael mynediad iddynt. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.5.3 (Labelu Enw) CHCG 2.1.

Mae rhai botymau a meysydd ffurflen yn yr ap yn rhy fach. Golyga hyn y gallai fod yn anodd i rai defnyddwyr eu hysgogi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.5.5 (Maint Targed (AAA)) CHCG 2.1.

Ar rai tudalennau a rhai dyfeisiau (iOS), nid yw'r botwm nôl yn gweithio wrth ddefnyddio darllenydd sgrin. Gall hyn olygu ei bod yn anos i'r defnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol fynd yn ôl i dudalen flaenorol. Mae hefyd yn anghyson oherwydd mae'r botymau nôl ar rai tudalennau'n gweithio ond nid ar eraill. Mae hyn y gysylltiedig â maen prawf llwyddo 3.2.3 (Llywio Cyson) CHCG 2.1.

Mae rhai teils yn yr ap wedi'u marcio fel botymau ond nid oes gweithred yn gysylltiedig â hwy. Mae hyn yn ddryslyd i'r holl ddefnyddwyr oherwydd maent yn disgwyl gweithred wrth ysgogi'r botwm.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth) CHCG 2.1.

Nid oes enwau gan rai blychau dewis ar ffurflenni yn yr ap. Golyga hyn nad yw defnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gwybod beth mae'r blwch dewis yn ei wneud. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth) CHCG 2.1.

Beth rydym yn ei wneud i wella Hygyrchedd

Byddwn yn ystyried newid y lliwiau a ddefnyddir yn yr ap ac yn gweithio gyda'r darparwr i wneud gwelliannau eraill.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 10 Mehefin 2021. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 10 Mehefin 2021.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 10 Mehefin 2021. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw ac awtomataidd.