Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau

Nid yw bob delwedd mewn rhai o'r dogfennau sydd ar gael ar ein rhith-amgylchedd dysgu yn cynnwys testun amgen. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth ynddynt ar gael i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (CHCG) 2.1.

Nid yw rhai o'r dogfennau ar ein gwefan wedi eu strwythuro'n gywir gyda phenawdau. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn edrych ar y tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Dim ond ar ffurf PDF y mae rhai dogfennau ar gael. Gall hyn olygu nad oes modd i ddefnyddwyr chwyddo'r testun yn y ddogfen heb fod angen sgrolio o'r chwith i'r dde i'w ddarllen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.10 (Ail-lifo) CHCG 2.1.

Nid yw'r lliw yn cyferbynnu ddigon mewn rhannau o rai dogfennau ar ein gwefan.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG 2.1.

Delweddau

Nid oes testun amgen i'w weld ar gyfer rhai delweddau. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth ynddynt ar gael i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun) CHCG 2.1.

Dewislenni

Mae rhai dewislenni cwrs sydd wedi eu haddasu i gynnwys cefndiroedd gweadog (textured) neu gyferbynnedd lliw sâl Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG 2.1.

Fideo

Nid oes capsiynau ar y rhan fwyaf o recordiadau Panopto o ddarlithoedd. Golyga hyn fod posibilrwydd na fydd defnyddwyr sydd â nam ar eu clyw yn gallu deall y fideo. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.2.2 (Capsiynau (Parod)) CHCG 2.1.

Dim ond capsiynau a grëwyd yn awtomatig sydd i rai o'r fideos ar ein tudalennau.  Golyga hyn fod posibilrwydd na fydd defnyddwyr sydd â nam ar eu clyw yn gallu deall y fideo os nad yw'r capsiynau awtomatig yn gywir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.2.2 (Capsiynau (Parod)) CHCG 2.1.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau

Mae llawer o'n dogfennau PDF a Word hŷn nad ydynt yn bodloni'r safonau hygyrchedd - er enghraifft mae'n bosib nad ydynt wedi eu strwythuro fel bod modd eu defnyddio gyda darllenydd sgrin. Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyweirio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 oni bai eu bod yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau.

Fideo

Nid oes capsiynau ar rai o'n fideos. Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyweirio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018.

Sut mae gwneud Blackboard yn fwy hygyrch?

Mae dwy ran i'r dasg o wneud Blackboard yn fwy hygyrch:

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 23/6/2020. Byddwn yn adolygu’r datganiad hwn bob blwyddyn ac yn ei adolygu nesaf ym 12 Mai 2022.

Cafodd y system ei phrofi yn fwyaf diweddar ym Mehefin 2020. Cynhaliwyd y profion yn fewnol drwy samplo rhannau o'r system a pherfformio gwiriadau ymarferol.