Gwobrau 2021

Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu unigolion am eu cyfraniad i’r Gymraeg. 

Cyhoeddwyd mai enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth am 2021 yw Kate Wright, Annette Edwards, Llŷr Tomos ac Elen Roach ar ôl iddynt gael eu henwebu gan staff a myfyrwyr y Brifysgol. 

Yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf, yn fyfyrwyr ac yn staff, dewiswyd y pedwar enillydd ar gyfer y gwobrau canlynol:

  • Dysgwr Disglair (Staff) – Kate Wright
  • Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle – Annette Edwards
  • Astudio trwy’r Gymraeg - Llŷr Tomos
  • Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr) – Elen Roach


Bydd pob un o’r enillwyr yn derbyn englyn personol gan yr Athro Mererid Hopwood neu gan y Darlithydd Eurig
Salisbury, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol.  

https://youtu.be/WhuGCteFuYw

 

Yr Enillwyr


Kate Wright (Dysgwr Disglair):  Clywodd Kate y Gymraeg gyntaf pan yn blentyn wrth ddysgu’r iaith gyda’i thad cyn mynd ar wyliau teuluol i Gymru. Yn wreiddiol o Tamworth, Canolbarth Lloegr, daeth Kate i Aberystwyth yn fyfyrwraig yn 1992 i astudio Hanes yn y Brifysgol. Wrth astudio, dechreuodd fynychu dosbarthiadau dysgu Cymraeg. Ar ôl graddio, cafodd swydd yn y Brifysgol yn gweithio yn Llyfrgell Thomas Parry a pharhaodd i ddysgu’r iaith. Bellach hi yw Rheolwr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu y Brifysgol ac mae Kate yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol yn ei gwaith ac yn dal i fynychu Dosbarth Cymraeg Gwaith yn rheolaidd. Ei dymuniad yw cwblhau arholiad Canolradd Cymraeg i Oedolion yn 2022. 

Annette Edwards (Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle): Yn hanu yn wreiddiol o ardal Pontrhydfendigaid, mae gwreiddiau Annette yn ddwfn yng Ngheredigion. Ar ôl mynd i Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid, cwblhaodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Uwchradd Tregaron cyn cymryd cwrs ysgrifenyddol dwyieithog yng Ngholeg Ceredigion.  Dechreuodd weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Awst 1994 ac mae hi bellach yn Arweinydd Datblygu Staff Academaidd yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Bu’n hyrwyddo’r Gymraeg yn frwdfrydig yn y Brifysgol ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys bod yn fentor i ddysgwyr Cymraeg yn y Brifysgol. Mae hi’n teimlo’n ffodus iddi gael y cyfle i gynnig cyfleoedd i uwchraddedigion a staff i ddatblygu eu sgiliau academaidd Cymraeg trwy gynlluniau sy’n cynnwys Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (AUMCA) a Thystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU). Gwnaeth Annette ymdrechion diflino i alluogi rhaglenni dwyieithog, gan gynnwys Gwobr Gydweithrediadol Advance HE am Ragoriaeth Addysgu a Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da UKCGE. Cydweithiodd â UKCGE a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu strwythur Cymraeg i’w rhaglenni Cenedlaethol. Mae Annette yn awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg gymaint ag sy’n bosib ac yn parhau i greu mwy o gyfleoedd i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle.

Llŷr Tomos (Astudio Trwy’r Gymraeg): Bu Llŷr yn fyfyriwr yn Adran y Gyfraith a Throseddeg yn astudio Troseddeg a Seicoleg Ychwanegol, a graddiodd yn yr haf 2021. Fe’i magwyd yn ardal Cydweli ac aeth i Ysgol Gynradd Gwenllian ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Oherwydd ei fod yn ymwybodol o’r cyfleoedd ac am mai’r Gymraeg yw ei iaith gyntaf, penderfynodd ddewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Roedd hefyd yn awyddus i ddatblygu ei sgiliau yn y Gymraeg a bod yn fwy hyderus i gyfathrebu yn y Gymraeg.  Mae’r Gymraeg yn holl bwysig i Llŷr, ac ar hyn o bryd mae’n ystyried cwblhau cwrs Meistr ac yn awyddus i gael gyrfa gyda’r Heddlu yn gweithio yng Nghymru.   

Elen Roach (Pencampwr y Gymraeg): Yn wreiddiol o ardal Pont Pelcwm, Sir Benfro, mae Elen newydd gwblhau ei chwrs gradd yn astudio Cymraeg Proffesiynol. Wedi ei hysbrydoli gan athrawes yn Ysgol y Preseli, penderfynodd ddod i Brifysgol Aberystwyth i astudio’r Gymraeg. Yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol, mae Elen wedi bod yn weithgar yn hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Bu’n llysgennad brwdfrydig gan fod yn gyswllt â darpar fyfyrwyr mewn digwyddiadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Frenhinol Llanelwedd yn ogystal â Dyddiau Agored. Bu’n mentora myfyrwyr Cymraeg yn rhan o gynllun y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan weithio gyda disgyblion blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Aberaeron. Yn ei hail a’i thrydedd flwyddyn bu hefyd yn mentora myfyrwyr blwyddyn 1 yn ogystal â bod yn Gadeirydd UMCA 2020-2021. Cydweithiodd Elen hefyd ag Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a’r Adran Farchnata a Denu Myfyrwyr i gynnal cyfres o weminarau i ddisgyblion ysgol yng Nghymru. Bydd cyfres newydd o’r gweminarau yn cael eu cynnal o ddiwedd Medi tan y Gwanwyn. Mae Elen bellach yn gweithio fel Cynorthwyydd Denu Myfyrwyr gyda’r Adran Farchnata yn y Brifysgol, yn hybu a hyrwyddo’r Brifysgol i ysgolion Cyfrwng Cymraeg Cymru.

Yn ogystal â dyfarnu enillwyr y gwobrau, cyflwynodd y panel Dystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig i’r staff canlynol yn y Brifysgol, sef Yr Athro Emyr Lewis, y Darlithydd Ben Ó Ceallaigh, Emily Bennett, a Roger Stone am eu hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.