Gwobrau 2017

                                 

Am y tro cyntaf yn 2017 dathlwyd Gŵyl Dewi ym Mhrifysgol Abeystwyth gyda seremoni wobrwyo yn yr Hen Goleg i gydnabod cyfraniad eithriadol aelodau o staff a myfyrwyr i’r Gymraeg yn y Brifysgol.

Y gŵr gwadd oedd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Materion Cyhoeddus FA Wales a meistres y seremoni oedd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones.  Diddanwyd y gynulleidfa gan Gôr Aelwyd Pantycelyn, Côr CYD, y delynores Eleri Turner a Gwawn (sef Iestyn Tyne ac Alun Williams).

Yr Enillwyr

Derbyniodd pob enillydd dystysgrif ac englyn wedi’i chyfansoddi  yn benodol ar eu cyfer hwy gan y prifardd Eirug Salisbury.

Gwobr Dysgwr Rhagorol (staff)

Aelod o staff sydd wedi dysgu’r Gymraeg a sy’n gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio’r iaith wrth ei gwaith bob dydd. –

  • Faaeza Jasdanwalla-Williams - Adran Hanes a Gwasanaethau Gwybodaeth

Gwobr Pencampwr y Gymraeg (staff)

Aelod o staff sydd wedi bod yn neilltuol o gefnogol i’r Gymraeg yn y gweithle.

  • Mair Daker - Gwasanaethau Gwybodaeth - Llyfrgell Thomas-Parry

Gwobr Astudio trwy’r Gymraeg (myfyriwr)

Myfyriwr sydd wedi goresgyn rhwystrau neu sydd wedi gwneud ymdrech arbennig ac yn gwbl ymroddedig i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

  • Owen Lloyd Howell - Cymraeg a Daearyddiaeth

Gwobr Pencampwr y Gymraeg (myfyriwr)

Myfyriwr sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i Gymreictod y gymuned a/neu’r Brifysgol drwy wirfoddoli yn y gymuned leol neu drwy drefnu digwyddiadau yn Gymraeg i gyd-fyfyrwyr. 

  • Jeff Smith - Yr Adran Ffiseg

Cyflwynwyd tair gwobr ychwanegol  am gyfraniad eithriadol yn ystod y seremoni hefyd sef

Gwobr Cyfraniad Oes

  • Felicity Roberts - Cymraeg i Oedolion a'r Adran Gymraeg
  • Jaci Taylor - Cymraeg i Oedolion

Gwobr Cyfraniad Arbennig i’r Gymraeg

  • Jamie Holder - Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cliciwch yma i weld sioe sleidiau o’r seremoni