Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu unigolion am eu cyfraniad at y Gymraeg. 

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2023 mewn seremoni wobrwyo ym mis Hydref, wedi iddynt gael eu henwebu gan staff a myfyrwyr.  

(O’r chwith i’r dde) - Yr Athro Mererid Hopwood, Dr Eurig Salisbury, Nia Ellis (ar ran Abigail Crook), Dr Hywel Griffiths, Kate Barber, Ffion King, Dr Rhodri Llwyd Morgan, Yr Athro Elizabeth Treasure, Chris Stewart, Julie Roberts, Colin Nosworthy a Lowri Jones.


Yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf, yn fyfyrwyr ac yn staff, gwobrwywyd pum enillydd ar gyfer y gwobrau canlynol: 

  • Dysgwr Disglair (Staff) – Kate Barber a Martine Garland
  • Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle – Abigail Crook
  • Astudio trwy’r Gymraeg (Myfyriwr) – Ffion King
  • Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr) – Cai Phillips

Dyfarnwyd Gwobr Arbennig y Panel i’r Athro Elizabeth Treasure am ei chefnogaeth allweddol i’r Gymraeg yn ystod ei chyfnod fel Is-ganghellor yn y Brifysgol.

Derbyniodd pob un o’r enillwyr englyn personol gan yr Athro Mererid Hopwood, Dr Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd neu Dr Hywel Griffiths o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol.

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwyr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol:

“Mae’n fraint unwaith eto i gydnabod a dathlu cyfraniadau unigolion sydd wedi disgleirio wrth hyrwyddo’r Gymraeg yn y Brifysgol. Braint arbennig hefyd oedd cydnabod cyflawniadau sylweddol yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, cyn ei hymddeoliad. Mae cyfraniad yr enillwyr a’r sawl sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth yn y Gwobrau eleni yn dangos y dylanwad cadarnhaol y gall unigolion ei gael i fod yn ysbrydoliaeth i’w cyd-fyfyrwyr a’u cydweithwyr.”   

Yr Enillwyr 

Kate Barber (Dysgwr Disglair):  Wedi ei geni yn Nottingham a’i magu yn Swydd Henffordd, symudodd Kate i Aberystwyth yn 2021 i astudio Cwrs Meistr Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth. Wrth astudio’r cwrs, dechreuodd ddysgu’r Gymraeg gyda ‘Duo Lingo’ cyn cofrestru ar gwrs Lefel Mynediad.  Ddwy flynedd yn ddiweddarach mae Kate yn gweithio fel Cynorthwyydd Desg Gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen yn y Brifysgol. Mae’n swydd ble mae’r Gymraeg yn hanfodol ac mae Kate yn mwynhau cyfathrebu gyda myfyrwyr, staff ac ymwelwyr â’r Llyfrgell yn hyderus yn y Gymraeg.  Mae hefyd yn mwynhau cymdeithasu yn yr iaith yn y gymuned leol. 

Dr Martine Garland (Dysgwr Disglair):
Yn wreiddiol o Lundain, symudodd Martine i Aberystwyth ar ôl cael ei phenodi’n ddarlithydd yn yr Ysgol Fusnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2020. Gan ei bod yn symud i Gymru, teimlai ei bod yn bwysig iawn dysgu Cymraeg er mwyn gallu ei siarad yn y gymuned leol ac aeth ati i gofrestru ar gwrs Blasu.  Bellach mae Martine yn mynychu nifer o gyrsiau gan gynnwys cwrs Cymraeg Gwaith a chwrs Cymunedol ac mae newydd ddychwelyd ar ôl cwblhau cwrs yn Nant Gwrtheyrn ac yn gallu sgwrsio’n hyderus yn y Gymraeg gyda chydweithwyr, myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol.

Abigail Crook (Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle):
Daeth Abigail i Aberystwyth yn 2009 i astudio gradd mewn Llyfrgellyddiaeth gan gael cyfle i weithio yn llyfrgelloedd y Brifysgol ar y pryd. Yn dilyn cyfnodau i ffwrdd yn y gogledd a’r de, dychwelodd yn ôl i Aberystwyth yn 2018 i astudio gradd meistr mewn cyfieithu. Yn dilyn hynny, bu’n gweithio gyda’r Ysgol Fusnes yn y Brifysgol cyn dychwelyd i weithio unwaith eto fel aelod o dîm Gwasanaethau Gwybodaeth. A hithau’n gweithio fel aelod o’r tîm gwasanaethau cwsmeriaid, mae’n darparu, datblygu ac yn hyrwyddo gwasanaethau llyfrgell a thechnoleg gwybodaeth y Brifysgol. Mae’r Gymraeg yn chwarae rhan flaenllaw iawn ym mhob elfen o’i gwaith.  Yn ei swydd, mae Abigail yn awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffyrdd creadigol wrth lunio deunydd marchnata a thestun, i sicrhau fod yr iaith yn glir a dealladwy wrth greu adnoddau gwybodaeth ac wrth ei defnyddio yn ddyddiol gyda defnyddwyr y gwasanaethau ac â chydweithwyr.  

Ffion King (Astudio trwy’r Gymraeg):
Mae Ffion yn fyfyrwraig yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Fe’i ganwyd yn Lloegr ac yn ystod ei phlentyndod bu’n byw ym Mhapua Gini Newydd cyn dychwelyd gyda’r teulu i fyw yng Nghaerloyw yn 12 mlwydd oed. Yn ystod ymweliad â Chymru i ymweld â ffrindiau prynodd gopi o’r Mabinogion yng Nghastell Caernarfon a sbardunodd ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth Geltaidd. Mae Ffion yn teimlo’n angerddol dros y Gymraeg a dechreuodd ddysgu’r iaith ar ei phen ei hun chwe mis cyn mynychu’r Brifysgol ym mis Medi 2021. Mae’n fyfyrwraig cwiar ac awtistig, ac yn teimlo bod dysgu’r iaith wedi agor drws i’w diwylliant ac wedi creu byd newydd yn y Gymraeg.

Cai Phillips (Pencampwr y Gymraeg): Mae Cai yn fyfyriwr gradd anrhydedd cyfun mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Cyfryngau. Fe’i magwyd ar fferm laeth ym Mlaenycoed, Sir Gaerfyrddin ac aeth i’r ysgol gynradd leol cyn mynychu Ysgol Uwchradd Bro Myrddin.  Mae’r Gymraeg yn holl bwysig i Cai a dewisodd ddod i Brifysgol Aberystwyth er mwyn gallu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd i gael cyfle i fyw bywyd yn y Gymraeg fel myfyriwr. Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr mae wedi bod yn weithgar iawn yn hybu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg fel Swyddog y Gymraeg ar gyfer Cymdeithas Gerdded ‘Aberhike’ y Brifysgol yn ogystal â chynorthwyo UMCA i gynnal sesiynau sgwrs a phaned ar gyfer myfyrwyr sy’n dysgu’r Gymraeg yn wythnosol. Wedi iddo gwblhau ei gwrs, mae Cai yn awyddus i ddilyn gyrfa mewn newyddiaduriaeth neu wleidyddiaeth. 

Yr Athro Elizabeth Treasure (Gwobr Arbennig y Panel):
Daeth Elizabeth Treasure i Brifysgol Aberystwyth yn Is-Ganghellor ym mis Ebrill 2017. Yn ystod ei chyfnod fel Is-ganghellor mae wedi dysgu’r Gymraeg ac wedi bod yn flaenllaw yn ysgogi ac yn annog datblygiad a defnydd o’r Gymraeg gan sicrhau ei bod yn rhan ganolog o Gynllun Strategol y Brifysgol.  Mae hyn yn cynnwys datblygu cyrsiau newydd megis y Cwrs Milfeddygol a’r Cwrs Nyrsio sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r buddsoddiad sylweddol i atgyweirio Neuadd Pantycelyn sydd wedi galluogi i genhedlaeth newydd o fyfyrwyr ddechrau ar bennod newydd gyffrous yn hanes y neuadd breswyl Gymreig eiconig.

Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig

Yn ogystal â dyfarnu’r gwobrau uchod, cyflwynwyd Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig gan y panel i’r myfyrwyr Gareth Tuen Griffiths, Adran Ffiseg, Lowri Bebb, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac i’r aelodau o staff Chris Stewart, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Colin Nosworthy, Tîm Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus a Julie Roberts Adran Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd am eu hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.