Canolfan Hanes y Cyfryngau

Mae’r Ganolfan Hanes y Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ganolfan ymchwil newydd a leolir yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru ac sy’n cydnabod ac yn datblygu un o gryfderau’r Brifysgol, sef ymchwilio i hanes y cyfryngau torfol o fewn i’r Adran Hanes a Hanes Cymru ei hun, ac mewn Adrannau eraill (yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn bennaf).              

Mae tri nod i waith y Ganolfan:        

  • Hyrwyddo ymchwil i’r cyfryngau mewn cyd-destun hanesyddol penodol      
  • Hyrwyddo dysgu ac ymchwil ym maes hanes y cyfryngau              
  • Poblogeiddio a thynnu sylw at ddefnydd o’r cyfryngau a ffynonellau sy’n gysylltiedig â’r cyfryngau fel adnodd ymchwil allweddol ar gyfer ystod eang o astudiaethau hanesyddol.

Mae arbenigedd ymchwil Aberystwyth yn y maes hwn yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ac mae’r cyfnodolyn Media History wedi’i leoli yn y Brifysgol. Rydym hefyd yn elwa o adnoddau helaeth archifau a llyfrau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yn enwedig Archif Sgrîn a Sain Genedlaethol Cymru. Rydym yn ystyried hanes y cyfryngau yn ei gyd-destun ehangaf, o’r cyfnod modern cynnar (ac yn gynharach, lle bo hynny’n bosibl) hyd at heddiw, ac yn cwmpasu’r ystod ehangaf posibl o gyfryngau, o’r diwylliant print, sinema a darlledu i ffotograffiaeth, hysbysebu ac ati.