Pam Aberystwyth?

 

Pam Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol?

  • Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf y byd, a sefydlwyd yn 1919.
  • Dyma le eithriadol i astudio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
  • Rydym yn un o'r deg uchaf ym Mhrydain am fodlonrwydd myfyrwyr ym maes gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol (94% yn NSS 2020) ac mae ein rhagoriaeth ymchwil yn ein rhoi yn y deg adran ymchwil uchaf ym Mhrydain (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
  • Ar y brig ym Mhrydain am gyrsiau sy'n ysgogi myfyrwyr yn ddeallusol gyda 99% o'n myfyrwyr yn cytuno (NSS 2020).
  • Yn y 5 uchaf ym Mhrydain am Ansawdd y Dysgu (2il) a Phrofiad Myfyrwyr (3ydd) ym maes Gwleidyddiaeth, a'r deg uchaf am Ansawdd Ymchwil (Canllaw Prifysgolion Da y Times a'r Sunday Times 2021).
  • Yn y 5 uchaf ym Mhrydain am foddhad myfyrwyr â'r dysgu ar y cwrs Gwleidyddiaeth (NSS 2020 a Chanllaw Prifysgolion Da y Guardian)
  • Yn y deg uchaf ym Mhrydain am fodlonrwydd myfyrwyr ym maes Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (4ydd) ac ansawdd ymchwil (7fed) (Complete University Guide 2021)
  • Y gorau yng Nghymru a'r 7fed ym Mhrydain am ragoriaeth ymchwil (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
  • Ysbrydoli a chefnogi myfyrwyr i gwestiynu a herio'r ffordd yr ydym yn meddwl am wleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
  • Mynd i'r afael â heriau byd eang, o'r ardal leol i’r blaned gyfan, o safbwyntiau amrywiol.
  • Dewis da a hyblygrwydd o ran modiwlau er mwyn i chi allu teilwra eich gradd yn unol â'ch diddordebau.
  • Rhwydweithiau dros bedwar ban byd a chysylltiad ag ymarferwyr.
  • Gweithgareddau cyffrous fel ein Gemau Argyfwng, Cynlluniau Cyfnewid Rhyngwladol a Lleoliadau Gwaith Seneddol.
  • Cymuned fywiog, gyfeillgar, ddeallusol sy’n cynnal llawer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn.

Pam Prifysgol Aberystwyth?