Datblygu Cysylltiadau Rhyngwladol o Hanes Amgylcheddol yr Amazon ac ar gyfer yr Amazon

Arolygwyr

Diana Valencia-Duarte (Adran Hanes a Hanes Cymru) a Hannah Hughes (Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol)

Bydd y prosiect hwn yn cael ei arolygu ar y cyd yn Adran Hanes a Hanes Cymru (Dr Diana Valencia-Duarte) a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol (Dr Hannah Hughes). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o gymuned ôl-raddedig y ddwy Adran ac fe ddarperir adnoddau swyddfa yn yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Ariannwr

Prifysgol Aberystwyth

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

1 Mawrth 2024

Dyddiad dechrau disgwyliedig

Medi 2024

A yw'n brosiect PhD sy’n cael ei ariannu?

Ariennir y prosiect hwn gan Ysgoloriaeth EDI AberDoc

Sut i wneud cais

Cysylltwch â Hannah Hughes (hah60@aber.ac.uk) a/neu Diana Valencia-Duarte (div5@aber.ac.uk) i gael rhagor o fanylion am y prosiect a ffurflen gais.

Gwybodaeth am y prosiect

Nod y prosiect hwn yw cyfrannu at ymdrechion cysylltiadau rhyngwladol y byd a dad-drefedigaethu Hanes trwy archwilio sut mae cysylltiadau rhyngwladol yn cael eu hastudio a’u hymarfer trwy hanesion amgylcheddol dad-drefedigaethol yr Amazon a’r rhai sy’n deillio o’r Amazon. Y cwestiwn allweddol sy'n arwain yr astudiaeth hon yw: Sut y gall hanesion amgylcheddol cyfranogol o'r Amazon gyfrannu at ddad-drefedigaethu’r modd y mae Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cael eu hastudio a’u hymarfer?

Mae'r prosiect hwn yn cydnabod y berthynas sy'n cydblethu rhwng ysgrifennu hanes a threfnu cysylltiadau rhyngwladol yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol, a'i nod yw datblygu hanesion amgylcheddol o'r Amazon i ddarparu tir newydd ar gyfer archwilio arferion amgen ar gyfer diplomyddiaeth ryngwladol a threfnu ar y cyd.  Ar y cychwyn, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn casglu ac yn adolygu’r testunau a’r ysgrifennu perthnasol ar hanesion amgylcheddol yr Amazon. Gall yr ymgeisydd fod yn ymwneud ag ymchwil archifol, rhai agweddau ar hanes llafar, gan gynnwys paratoi a dadansoddi data, a datblygu'r fframweithiau cysyniadol rhyngddisgyblaethol priodol i ymgymryd â methodoleg yr ymchwil a'i llywio.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cymorth ar gyfer cynnal ymchwil hanesyddol annibynnol yng Nghoedwig Law yr Amazon, gydag ystod amrywiol o randdeiliaid os bydd eu prosiect ymchwil yn datblygu i’r cyfeiriad hwnnw. Byddai medru’r Bortiwgaleg yn rhugl yn ddefnyddiol ar gyfer cynnal gwaith maes ond nid yw'n hanfodol.