Ysgoloriaeth PhD: Menywod o liw o Gymru – Datgelu canrif o Ymgyrchu Gwleidyddol

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais am yr ysgoloriaeth PhD hon yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd y prosiect, a ddatblygwyd ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cael ei oruchwylio gan Dr Jenny Mathers, sy’n arbenigo ym maes dadansoddi rhywedd a dadansoddi ffeministaidd, a Dr Elin Royles, arbenigwr blaenllaw ar gymdeithas sifil yng Nghymru.

Mae’r ysgoloriaeth ymchwil yn cynnwys ffioedd dysgu’r DU (Myfyriwr Cartref) a grant cynnal. Mae myfyrwyr y tu allan i’r DU yn gymwys i wneud cais, ond os ydynt yn llwyddiannus mae’n rhaid iddynt dalu’r gwahaniaeth rhwng ffioedd dysgu’r DU a ffioedd dysgu y tu allan i’r DU. Mae’n rhaid i fyfyrwyr y tu allan i’r DU gael sgôr o 7.0 ar IELTS neu safon gyfwerth cyn diwedd mis Mawrth 2024 fan bellaf.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 1 Mawrth 2024

Dyddiad dechrau: Medi 2024

Disgrifiad o’r prosiect: Mae Cymru yn gartref i gymunedau o bobl o liw ers canol y 19eg ganrif, ond megis dechrau mae’r ymchwil academaidd i’w hymgyrchu gwleidyddol. Mae lleisiau lleiafrifoedd ethnig, ac yn enwedig lleisiau menywod, wedi cael eu gwthio i gyrion strwythurau llywodraethu ffurfiol. Bydd y prosiect hwn yn cyfoethogi dealltwriaeth o amrywioldeb cymdeithas sifil Cymru drwy edrych ar ymgyrchu gwleidyddol menywod o liw o Gymru dros y ganrif ddiwethaf.

Bydd y prosiect yn trafod y cwestiynau ymchwil canlynol:

  • Sut mae menywod o liw o Gymru wedi cymryd rhan mewn ymgyrchu gwleidyddol sy’n ymwneud â heddwch a chyfiawnder cymdeithasol rhyngwladol ar lefelau lleol, is-wladwriaethol, gwladwriaethol a rhyngwladol dros y ganrif ddiwethaf?
  • Beth yw’r prif rwystrau sy’n effeithio ar gyfranogiad menywod o liw yng nghymdeithas sifil Cymru o safbwynt heddwch ac ymgyrchu o ran cyfiawnder cymdeithasol rhyngwladol?

Bydd y prosiect yn ymchwilio i gyfraniadau menywod o liw o Gymru at enghreifftiau allweddol o ymgyrchoedd cymdeithas sifil dros heddwch a chyfiawnder cymdeithasol rhyngwladol. Bydd y rhain yn cynnwys ymgyrchoedd Cymru gyfan (e.e. Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24, Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham) a  gweithredu lleol (e.e. cefnogi ffoaduriaid o ryfel cartref Somalia). Bydd gwaith ymchwil gwreiddiol yn cyfuno hanesion llafar â gwaith archifol, yn enwedig casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chasgliadau lleol yn ne Cymru.

Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb gysylltu â Dr Jenny Mathers (zzk@aber.ac.uk) i gael rhagor o fanylion am y prosiect ac i gael ffurflen gais. Gall yr arolygwyr helpu i lunio cais i’w gyflwyno’n ffurfiol. Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu CV a dau eirda academaidd.

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld a bydd hyd at ddau ymgeisydd yn cael eu cyflwyno i gael eu hystyried gan Ysgol y Graddedigion.