Ysgoloriaeth PhD Leverhulme: Integreiddio Ieithyddol yng Nghrymu a Lloegr

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 14 Mehefin 2024

Hyd y rhaglen: 3 mlynedd llawn amser (gan mai 3 mlynedd yn unig yw hyd y prosiect nid yw astudio’n rhan amser yn bosib)

Dyddiad cychwyn tebygol: 23 Medi 2024

Blwyddyn academaidd: 2024/25

 

Disgrifiad o’r prosiect

Mewn oes o fudo cynyddol, mae iaith yn aml yn bwnc trafod allweddol mewn dadleuon ynglŷn â integreiddio mewn cymdeithasau democrataidd. Er gwaetha’r ymdeimlad cyffredinol y dylai newydd-ddyfodiaid ddysgu iaith y wlad y maent yn symud iddi, ychydig o sylw a roddwyd i oblygiadau ymarferol a moesegol integreiddio, gan gynnwys mewn lleoliadau lle gall mwy nag un iaith weithredu fel y cyfrwng ar gyfer integreiddio.

Gan ffurfio prosiect annibynnol yn ei hawl ei hun, bydd y ddoethuriaeth hon yn cyfrannu at brosiect ymchwil ehangach sy’n dadansoddi moeseg integreiddio ieithyddol trwy ddatblygu dadansoddiad cymharol o natur dadleuon ynglŷn â integreiddio ieithyddol yng Nghymru a Lloegr. Bydd cymharu’r ddau gyd-destun hwn yn arwain at fewnwelediadau diddorol o ystyried statws fwyafrifol y Saesneg ochr yn ochr a’r Gymraeg ond hefyd yn sgil ymdrechion diweddar Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei grymoedd datganoledig i ddatblygu dull o integreiddio ieithyddol sy’n wahanol i’r un a gaiff ei arddel gan Lywodraeth y DU yn Lloegr.

Gan adeiladu ar drafodaethau damcaniaethol ar bwnc integreiddio ieithyddol mewn disgyblaethau megis cymdeithaseg iaith ac athroniaeth wleidyddol, bydd y PhD yn mynd i’r afael â’r cwestiynau ymchwil canlynol:

 

  • Sut mae integreiddio ieithyddol yn cael ei ddehongli, ei ymarfer a'i brofi gan wahanol actorion yng Nghymru a Lloegr? Sut mae'r dehongliadau a'r profiadau hyn yn cymharu â'i gilydd?
  • Pa ddisgwyliadau ieithyddol sy'n deillio o'r cysyniadau a'r profiadau hyn?
  • Pa mor ddilys yw’r disgwyliadau hyn o’u cloriannu ar sail gwerthoedd ac egwyddorion democrataidd rhyddfrydol (e.e. cyfiawnder, cydraddoldeb, cynwysoldeb, undod)?

 

Disgwylir i’r dulliau ymchwil a ddefnyddir er mwyn astudio’r cwestiynau hyn gynnwys dadansoddi deunydd dogfennol perthnasol (e.e. deddfwriaeth, dogfennau polisi, dadleuon yn y cyfryngau, areithiau, pamffledi ymgyrchu) a chynnal cyfweliadau lled-strwythuredig neu grwpiau ffocws gyda llunwyr polisi, athrawon ail iaith a dysgwyr iaith yn y ddau achos

 

Beth fydd yr ysgoloriaeth yn ei ariannu?

Ariennir yr ysgoloriaeth gan Ymddiriedolaeth Leverhulme a bydd yn cychwyn ym mis Medi 2024; bydd yn rhedeg am 3 blynedd a bydd yn talu ffioedd dysgu cartref yn ogystal â grant cynhaliaeth di-dreth blynyddol a fydd yn cyfateb i gyfraddau UKRI (£19,237 ar hyn o bryd ar gyfer 2024/25 ar gyfer myfyrwyr amser llawn ond yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn). Yn sgil cyfyngiadau ariannu, yn anffodus dim ond ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd gartref y DU all ymgeisio am yr ysgoloriaeth hon. Bydd arian ychwanegol ar gael i dalu am waith maes angenrheidiol yn ystod yr ail flwyddyn yn ogystal â rhywfaint o gyllid i gefnogi mynychu rhai cynadleddau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.

 

Cymwysterau

Dylai fod gan ymgeiswyr gefndir academaidd rhagorol, gyda gradd israddedig dosbarth 1af neu 2il uchaf cryf. Byddai rhywfaint o ddealltwriaeth o ddulliau ymchwil ansoddol (e.e. dadansoddi cynnwys, dadansoddi thematig, dadansoddi disgwrs, technegau cyfweld) yn fanteisiol. Mae'r gallu i siarad Cymraeg hefyd yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Yn sgil cyfyngiadau ariannu, yn anffodus dim ond ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd gartref y DU all ymgeisio am yr ysgoloriaeth hon.

 

Goruchwylwyr

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn cael ei oruchwylio gan Dr Huw Lewis o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ogystal â Dr Gwennan Higham o’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe.

 

Gan fod y PhD yn rhan o brosiect ymchwil ehangach ar bwnc moeseg ac integreiddio ieithyddol a gaiff ei ariannu gan Leverhulme bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cael y cyfle i gyfrannu at weithgareddau eraill y prosiect (e.e. cyfarfodydd chwarterol, grwpiau darllen, cymryd rhan mewn cynadleddau, cyhoeddiadau ar y cyd) . Mae’r ysgoloriaeth felly yn cynnig cyfle unigryw i fod yn rhan o brosiect ymchwil arloesol a chydweithredol sy’n ceisio hybu dulliau rhyngddisgyblaethol o astudio gwleidyddiaeth iaith.

 

Sut i ymgeisio?

Dylid cyflwyno ffurflen gais ar gyfer mynediad i astudio am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth trwy’r system ymgeisio ar-lein erbyn y dyddiad cau, sef 12.00pm GMT 14 Mehefin  2024. Ni fydd modd ystyried ceisiadau anghyflawn neu geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau.

Dylai’r cais gynnwys y dogfennau canlynol:

  1. Llythyr cais: Dylai’r llythyr nodi’n glir beth yw teitl yr ysgoloriaeth PhD y gwneir cais amdani. Dylai hefyd nodi eich rhesymau a'ch cymhellion dros wneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth; eich dealltwriaeth, a'ch disgwyliadau o astudio ar gyfer doethuriaeth; a'ch diddordebau academaidd yn gyffredinol, ac yn arbennig sut mae'r rhain yn berthnasol i'r prosiect ymchwil hwn. Ni ddylai'r llythyr fod yn hirach na dwy dudalen a dylid ei gyfeirio at Dr Jan Ruzicka, Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

 

  1. Cymwysterau Academaidd / Proffesiynol: Os yn berthnasol, dylid hefyd cynnwys prawf o’ch Cymhwysedd Iaith Saesneg (gweler y gofynion mynediad sefydliadol).

 

  1. Dau lythyr geirda: Dylid cynnwys dau lythyr geirda academaidd sy’n cefnogi eich cais. Dylai ymgeiswyr gysylltu â’r canolwyr ei hunain a chynnwys y geirdaon gyda’r cais.

 

  1. CV: ni ddylai fod yn hirach na dwy dudalen.

 

  1. Cynnig ymchwil: Dylai’r cynnig ymchwil adeiladu ar yr amlinelliad o’r prosiect a ddarparwyd. Dylai’r cynnig ymchwil fod yn ddim mwy na 1000 o eiriau o hyd, heb gyfri cyfeiriadau llyfryddiaethol. Awgrymir y dylid rhoi sylw i’r nodau canlynol yn y cynnig ymchwil:

 

  • Eich dehongliad o deitl, amcanion a phwrpas y prosiect ymchwil;
  • Trosolwg cyffredinol o lenyddiaeth academaidd sy’n berthnasol i’r prosiect;
  • Eich syniadau ynghylch sut gellid cynllunio’r prosiect a’r math o ddulliau ymchwil y gellid eu defnyddio fel rhan o’r astudiaeth;
  • Disgrifiad o ganlyniadau posibl y prosiect boed o ran dealltwriaeth, gwybodaeth academaidd neu o ran polisi ac arfer ymarferol (fel sy’n berthnasol i’r prosiect)
  • Cyfeiriadau

 

Manylion cyswllt

I wneud ymholiadau anffurfiol ynglŷn â’r cyfle hwn, cysylltwch â Dr Huw Lewis (hhl@aber.ac.uk). Os oes gennych gwestiynau cyffredinol ynglŷn ag astudio ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth gallwch hefyd gysylltu â Dr Jan Ruzicka (jlr@aber.ac.uk), Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.