Byw yn Aberystwyth

Cymuned heb ei hail

Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gartref i gymuned arbennig iawn. Ond caiff ei diwylliant ymchwil rhagorol a’r synnwyr o gymuned ddeallusol ei hatgyfnerthu gan safon uchel o fywyd a geir yn yr ardal o’i chwmpas.

Mae lleoliad Prifysgol Cymru Aberystwyth gydag un o’r harddaf ym Mhrydain, ar fryn yn edrych dros y dref a Bae Ceredigion, mewn ardal o harddwch naturiol arbennig. Mae’r Brifysgol yn rhan o gymuned fywiog a chyfeillgar a diogel, yn cyfuno nodweddion traddodiadol tref glan môr gyda nodweddion tref prifysgol. Mae Aberystwyth hefyd yn naturiol ‘wyrdd’; mae mor hawdd cerdded neu feicio yn ôl ac ymlaen o’r dref i’r Brifysgol fel nad oes angen defnyddio ceir o gwbl.

Cyfleusterau Chwaraeon

Ceir cyfleusterau chwaraeon ardderchog yn y Brifysgol ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae’r Ganolfan Chwaraeon wedi ei lleoli ar y campws ychydig gamau o’r Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac yn gartref i’r cyfleusterau  campfa diweddaraf a nifer o ddosbarthiadau ffitrwydd. Ceir hefyd 48 o aceri o gyrtiau chwaraeon, cyrtiau badminton, pêl-fasged a sboncen a chae chwarae â llifoleuadau ar gyfer pob tywydd.

Hamdden ac Adloniant

Mae yn Aberystwyth draethau, adfeilion castell, a golygfeydd cefn gwlad gyda’r harddaf yn y DG. Daw nifer uchel o gerddwyr, brigdonwyr a theuluoedd i gerdded y clogwyni a mwynhau dyddiau ar y traeth. Gellir mwynhau cerdded mynyddoedd y Cambria gerllaw ac nid yw Parc Cenedlaethol Eryri ymhell.

Ceir yn Aberystwyth ddigon o leoliadau ar gyfer nosweithiau difyr hefyd. Mae Canolfan y Celfyddydau yn ganolbwynt y gymuned ac yn cynnig rhaglen artistig o ddrama, dawns, cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol. Mae yma dros 20 o dafarndai amrywiol, a digon o le i staff a myfyrwyr barhau’r sgwrs wedi seminarau a digwyddiadau eraill.