Gwneud Cais am PhD

 

Gwneud cais Ar-lein

Rhaglenni Amser Llawn a Rhan-amser

Dylid gwneud ceisiadau am astudiaethau ôl-raddedig ar-lein drwy'r Porth Ceisiadau Derbyn Ôl-raddedig.

I wneud cais, ewch i dudalennau'r Cwrs yn gyntaf a dod o hyd i fanylion y cwrs yr hoffech wneud cais amdano.  Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'r Dudalen Cwrs o'ch dewis, dewiswch y botwm "Ymgeisio Nawr" i ddechrau eich cais.

Bydd y Porth Ceisiadau Derbyn Ôl-raddedig yn gofyn i chi roi eich manylion personol i ni, cadarnhau eich dewis(au) cwrs a lanlwytho dogfennau i gefnogi eich cais.  Sicrhewch eich bod wedi cadw dogfennau ategol ar ffurf PDF ac yn barod i'w lanlwytho i'ch cais ar-lein.

Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs penodol yr hoffech wneud cais amdano, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Ôl-raddedig (derbyn-uwchraddedig@aber.ac.uk) i gael cyngor pellach.