Cyllid

Cyfleoedd Cyllido PhD i Ddechreuwyr yn 2027

Ysgoloriaethau Cyffredinol DTP Cymru yr ESRC

Mae’n bleser gan Ysgol Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystywth gynnig ysgoloriaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) sydd wedi’u hariannu’n llawn yn Llwybr Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Ardal fydd yn dechrau ym mis Hydref 2027.   

Am fanylion pellach am sut i ymgeisio i astudio doethuriaeth yn Aberystwyth cysylltwch â Dr Charalampos Efstathopoulos, (che15@aber.ac.uk), Cyfarwyddwr Astudiaethau i Raddedigion yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Meini Prawf Mynediad  

I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae’n rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.  

 

Hyd yr astudiaeth  

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 (PhD) i 4 (MSc + PhD) blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser).    

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.  

 

Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio

Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.   

 

Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys 

Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol.

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.   

 

Asesu

Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad.

 

Sut i wneud cais

Dylai ceisiadau ddod i law erbyn 14/12/2026 fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.   

Dylai pob cais gael ei gyflwyno drwy'r porth derbyn myfyrwyr.

 

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais: 

  · Ffurflen Gais yr WGSSS

· CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen).

· Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.

· Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)  

· Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad) 

 

Mae'n ofynnol i YGGCC adrodd ar ddata Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i'r ESRC, cyngor ymchwil y llywodraeth sy'n ariannu YGGCC. Cyn i chi gyflwyno'ch cais, cwblhewch y Ffurflen Data Cydraddoldeb ac Amrywiaeth YGGCC gysylltiedig. Efallai y bydd gofyn i chi lenwi ffurflen ar wahân wrth gyflwyno'ch cais i'ch sefydliad cynnal.

 

Cyllid

Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£21,805 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.   

Partneriaeth Hyfforddi Doethuriaethol Cymru ESRC

Mae’r ysgoloriaethau yn cychwyn ym mis Hydref 2022 a byddant yn talu am eich ffioedd dysgu yn ogystal â grant cynhaliaeth (£ 15,609 y flwyddyn yn 2021/22 ar gyfer myfyrwyr amser llawn, a ddiwedderir bob blwyddyn); ac mae’n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil ychwanegol, er y gall elfen o’r gronfa hon gael ei ‘chyfuno’ gan alw am geisiadau ar wahân o 2022 ymlaen. Mae cyfleoedd a buddion eraill ar gael i ddeiliaid ysgoloriaeth, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw'n berthnasol), cyfleoedd ar gyfer interniaethau, ymweliadau sefydliadol tramor a grantiau bach eraill.

Am wybodaeth bellach, ewch i'r dudalen we bwrpasol yma.

Ysgoloriaethau PhD AberDoc

Mae’n bleser gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wahodd ceisiadau ar gyfer ysgoloriaethau PhD AberDoc i ddechrau yn 2021.

Bydd y rhai sy’n ennill Ysgoloriaeth AberDoc yn derbyn grant am am hyd at dair blynedd a fydd yn cynnwys eu ffioedd dysgu (hyd at gyfradd y Deyrnas Unedig o £4,407 y flwyddyn*), lwfans cynhaliaeth sydd o ddeutu £15,285 y flwyddyn* a mynediad at gronfa deithio/ymchwil (uchafswm o £500 y flwyddyn*). Bydd yr ysgoloriaethau’n dechrau ym mis Medi 2021.

Byddai’n rhaid i ddeiliaid y dyfarniad o’r UE a thu allan i’r UE dalu’r gwahaniaeth rhwng ffioedd dysgu’r Deyrnas Unedig a ffioedd dysgu i fyfyrwyr o’r UE neu du allan i’r UE o’u hysgoloriaeth. Fodd bynnag bydd 3 Ysgoloriaeth Llywydd ychwanegol ar gael a fyddai’n talu’r gwahaniaeth hwn yn y ffioedd dysgu. Byd yr ysgoloriaethau hyn yn cael eu dyfarnu i’r tri ymgeisydd gorau o’r UE/rhyngwladol yng nghystadleuaeth AberDoc.

Yn ogystal, mae modd i fyfyrwyr ymchwil doethurol yn aml wneud gwaith dysgu. Byddant yn cael eu talu’n unol â’r gyfradd a delir i staff dysgu fesul awr. Mae posibilrwydd o gyfleoedd gwaith cyflogedig eraill hefyd, megis cynorthwyo gwaith ymchwil, marcio, dennu myfyrwyr a gweithgareddau cymorth.

Cysylltwch â Chyfarwyddwr Astudiaethau i Raddedigion, Dr Charalampos Efstathopoulos (che15@aber.ac.uk) gydag unrhyw ymholiadau.

Y dyddiad cau i ymgeisiadau AberDoc i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw 31 Ionawr 2022.

Noder mai dyddiad cau penodol i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw hwn.

*Mae gwerth y dyfarniad yn amodol ar gadarnhad ar gyfer 2022-2023.

Gwybodaeth bellach ynghylch sut i gyflwyno cais.

Gwybodaeth bellach ynghylch ysgoloriaethau AberDoc.

Sut i Ymgeisio

Gellir cyflwyno ceisiadau i astudio am PhD ar-lein neu gellir lawrlwytho ac argraffu’r ffurflenni. Gweler Wefan y Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion am fanylion llawn. Hefyd rhaid cyflwyno cynnig ymchwil nad yw’n fwy na 1,500 o eiriau, dau dystlythyr a thrawsgrifiadau academaidd. Nid oes ffurflenni cais ar wahân ar gamau cyntaf cyllido.

Noder bod dyddiadau cau gwahanol ar gyfer y gystadleuaeth AberDoc a’r cystadleuthaeu ESRC ac AHRC. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno cais cyflawn cyn y dyddiad cau.