Croeso i'ch llyfrgell newydd

Cafodd Ystafell Iris de Freitas ei ailwampio yn ystod haf 2019 a’i ailagor ar y 23ain Hydref 2019. Gwnaethom ofyn am eich adborth am y llawr newydd drwy hysbysfwrdd, ffurflenni awgrymiadau papur ac arolwg arlein.

Allan o gyfanswm o 228 o ymatebion, roedd 195 wedi’u gadael ar yr hysbysfwrdd.

Ychydig o'ch adborth...

Derbyniwyd llawer o sylwadau cadarnhaol, ac rydym yn falch iawn bod cynllun newydd Ystafell Iris de Freitas wedi ennyn ymateb mor frwdfrydig gan y mwyafrif o fyfyrwyr:

"CARU!"

"Cymaint yn well. Allwch chi wneud y gweddill plis?"

"Mae o jyst yn anghredadwy"

"Neis iawn. Hoffi'r holl socedi ar gyfer defnyddwyr gliniaduron!"

"Hollol ysblenydd, Dwi'n teimlo'n ysbrydoledig yma!"

"Mae'r desgiau uchel yn fendith!"

"Edrych cymaint yn fwy a llawer mwy o olau"

"Defnydd llawer gwell o'r gofod. Caru'r carelau"

"Goleuadau cŵl!"

O'r adborth a gasglom ar y gwaith adnewyddu roedd y mwyafrif helaeth yn gadarnhaoll: rhoddodd 29% adborth negyddol, tra rhoddodd 71% adborth cadarnhaol.

 

Mannau astudio

Rydym hefyd wedi cynyddu'r nifer o fannau astudio sydd ar gael ar Lefel D o'r llyfrgell.

Mannau astudio grŵp tawel

  • mannau seddi hyblyg
  • mannau astudio cyfrifiadurol

Mannau astudio grŵp tawel

  • Ardal newydd gyda mannau astudio
  • Hydrochill, peiriant byrbrydau, peiriant diodydd poeth

Ystafelloedd Astudio Grŵp y gellir eu llogi

Mae cyfrifiadur, teledu, bwrdd gwyn a bwrdd ar gael ym mhob ystafell i'ch helpu gyda eich astudiaethau.

 

Cwestiynau?

Yn ogystal â'r sylwadau cadarnhaol, gwnaethoch ofyn rhai cwestiynau defnyddiol, ac wedi wneud awgrymiadau eich hun ar gyfer datblygu...

Gwnaeth un ar bymtheg ohonoch ofyn i ni droi'r gwres i fyny

Yr ydym wedi troi'r tymheredd i fyny ac yn parhau i fonitro'r gwres yn yr ystafell. Mae'r ffenestri yn agor eu hunain, nid yn unig i gadw'r gwres i lawr, ond hefyd i wella ansawdd yr aer yn yr ystafell.

Dywedodd un deg pedwar ohonoch fod angen llenni ar y ffenestri

Mae ffilm gwrth-lacharedd yn cael ei hychwanegu at y ffenestri. Yn anffodus, mae bleindiau'n tueddu i dorri.

Gofynnodd saith ohonoch am fwy o finiau sbwriel

Yr ydym wedi cynyddu'r nifer o finiau sbwriel yn yr ystafell.

Gofynnodd saith ohonoch am fwy o blanhigion

Yr ydym wedi ychwanegu mwy o blanhigion i'r ystafell.

Awgrymodd pedwar ohonoch y byddai cael popty ping neu degell yn y llyfrgell yn ddefnyddiol

Gall defnyddwyr brynu a bwyta byrbrydau a diodydd o beiriannau bwyd a diod yn y llyfrgell. Rydym yn cydnabod bod ein myfyrwyr angen lleoliad i baratoi prydau bwyd neu ddiodydd poeth - yn arbennig yn ystod sesiynau adolygu hir. Nid ydym yn caniatáu bwyd poeth yn y llyfrgell, ond rydym wedi rhoi gwybod i Ystadau  bod angen lle canolog ble gall myfyrwyr paratoi prydau bwyd a diodydd a fyddai’n hawdd a diogel o'r llyfrgell.

Roedd pedwar ohonoch o'r farn ei bod hi'n rhy swnllyd

Mae Ystafell Iris de Freitas yn ardal astudio dawel i grwpiau sy’n golygu ein bod yn caniatáu sgwrsio tawel. Yn ein llyfrgelloedd rydym yn ceisio cael cydbwysedd rhwng ardaloedd astudio tawel a chydweithrediadol.Yr ydym yn monitro'r lefelau swn ac yn annog pawb i fod yn feddylgar tuag at eraill. Gallwch ddefnyddio'r Gwasanaeth Rhybuddio am Sŵn os ydych am roi gwybod i staff am lefelau sŵn annerbynniol.

 

Sylwadau neu awgrymiadau? Cysylltwch â ni!

Trydar: http://twitter.com/prfysgolaber_gg

Facebook: https://www.facebook.com/aberuni.gg 

e-Bost: adborth-gg@aber.ac.uk