Dadansoddi ac Ymateb

Neidiwch i fersiwn testun o'r ffeithlun

Arolwg Defnyddwyr Gwasanaethau Gwybodaeth 2022 Adborth

Rydym yn gofyn i'n defnyddwyr gwblhau ein Harolwg Defnyddwyr ym mis Tachwedd bob blwyddyn.

  • Beth sy'n cael ei wneud yn dda?
  • Beth sydd angen ei wella?

Rydym yn defnyddio'r canlyniadau i ddatblygu'n gwasanaethau.

 

Ymatebwyr yr Arolwg

Roedd y nifer o ymatebion i'r Arolwg ar i fyny yn 2022 o'i chymharu â'r flwyddyn gynt.

Cawsom 236 yn rhagor o ymatebion eleni na'r llynedd:

  • 534 o atebwyr yn 2022
  • 298 o atebwyr yn 2021

Staff y Brifysgol, myfyrwyr is-raddedig, myfyrwyr ôl-raddedig, myfyrwyr dysgu o bell a myfyrwyr dysgu gydol oes a gwblhaodd ein harolwg

Myfyrwyr Is-raddedig (279) Myfyrwyr Uwchraddedig Ymchwil (59) Myfyrwyr Uwchraddedig a ddysgir (89) Dysgu o bell (35) Staff proffesiynol (38) Staff academaidd (34) 

  

Gwasanaethau sy'n Rhagori

Gwasanaethau ebost

Roedd mwy nag 81% o'r ymatebwyr yn fodlon neu'n fodlon iawn ar wasanaethau ebost y Brifysgol

Oriau Agor Llyfrgell Hugh Owen

Roedd mwy nag 74% o'r ymatebwyr yn fodlon neu'n fodlon iawn ar oriau agor y llyfrgell
Roedd yr ymatebwyr yn arbennig o hapus gyda'r oriau agor 24/7 Llyfrgell Hugh Owen a chadw mannau astudio ar agor yn ystod y gwyliau

Gwasanaeth cwsmeriaid a chymorth staff GG

Roedd mwy nag 78% o'r ymatebwyr yn nodi eu bod yn fodlon neu'n fodlon iawn ar barodrwydd staff Gwasanaethau Gwybodaeth i helpu
Roedd mwy nag 72% o'r ymatebwyr yn fodlon neu'n fodlon iawn ar ansawdd y gwasanaethau cwsmeriaid a gafwyd gan ein staff

Mannau astudio yn y llyfrgell a'r ystafelloedd cyfrifiaduron

Roedd mwy nag 73% o'r ymatebwyr yn nodi eu bod yn fodlon neu'n fodlon iawn ar y mannau astudio yn y llyfrgell
Roedd mwy nag 66% o'r ymatebwyr yn fodlon neu'n fodlon iawn ar yr ystafelloedd cyfrifiaduron yn y llyfrgell, ar draws y campws ac yn y dref

Eich Sylwadau


"Mae staff Gwasanaethau Gwybodaeth yn broffesiynol ac yn amyneddgar. Maent yn barod iawn i roi cymorth - a gwerthfarogir hynny. Hefyd, mae'n braf bod desg gymorth ar gael mewn man amlwg iawn yn Llyfrgell Hugh Owen lle mae'n bosibl gofyn am gymorth"

"Mae'r llyfrgell yn adnodd gwych. Rydym yn falch iawn i cael lle llawn llyfrau sydd yn galluogi ni i ddysgu mwy ac hefyd defnyddio fel man cwrdd i trafod y bynciau rydym yn astudio"

"- yn ddiolchgar iawn am y gwasanaeth rhagorol!"

 

Dadansoddiad o'r bylchau

Boddhad - Rydym yn gofyn i'n defnyddwyr ystyried eu boddhad gyda'n gwasanaethau
Pwysigrwydd - Rydym yn gofyn i'n defnyddwyr ystyried pwysigrwydd ein gwasanaethau iddynt

Wedyn, rydym yn defnyddio'r canlyniadau i flaenoriaethu gwelliannau.
Os yw'r cyfraddau boddhad yn is na'r cyfraddau pwysigrwydd, mae'n bosibl nad yw'r gwasanaeth yn cwrdd â disgwyliadau.

Gwasanaeth  
Cyfrifiaduron 3.13
Clicio a Chasglu 5.97
Oriau agor -1.28
Argraffu .17
Swn yn y llyfrgelloedd -9.99
Cwestiynau Cyffredin -2.71

Ein Blaenoriaethau ar gyfer 2023

Gwella arwyddion yn y llyfrgell a chyflwyno system mapio newydd
Byddwn yn edrych ar yr arwyddion sydd eisoes yn y llyfrgell a gwneud gwelliannau lle bo modd

Byddwn hefyd yn lansio ein system mapio llawr llyfrgell newydd cyn yr haf 2023. Bydd y system yn integreiddio gyda chatalog y llyfrgell, Primo, i ddangos union leoliad y llyfrau rydych yn chwilio amdanyn nhw

Bydd hefyd ar gael i'ch helpu i ganfod ystafelloedd astudio, toiledau a chyfleusterau eraill yn y llyfrgell


Meddalwedd sydd ar gael ar gyfrifiaduron y llyfrgelloedd a'r ystafelloedd cyfrifiaduron
Rydym wrthi'n ymchwilio i'r problemau a godwyd gennych gyda gosod a defnyddio rhai meddalwedd ar gyfrifiaduron Gwasanaethau Gwybodaeth

Blackboard
Ym mis Ionawr 2023, gwnaethom gyflwyno Blackboard Ultra mewn ymateb i'ch adborth. Mae Ultra yn cynnig profiad gwell i ddefnyddwyr dyfeisiau symudol. Bydd y newid i Ultra yn rhoi’r cyfle inni ailwerthuso sut rydym ni’n creu a threfnu ein cynnwys yn ein modiwlau Blackboard yn ogystal â sicrhau dull mwy cyson o drefnu cynnwys.

System archebu ystafelloedd astudio
Rydym yn gweithio ar gyflwyno newidiadau i'n system archebu ystafelloedd astudio o ganlyniad i'ch adborth adeiladol

Tudalennau gwe Gwasanaethau Gwybodaeth
Rydym yn gweithio'n ddiwyd ar ein tudalennau gwe i'w diweddaru a'u cadw'n gyfredol yn ogystal â chadw trefn arnyn nhw i hwyluso dod o hyd i wybodaeth
Byddwn yn ymchwilio i'r peiriant chwilio ar y safle a'i wella lle bo modd

 

Cysylltu â Ni

Rydym am glywed gennych