GG: Mae'ch Llais Chi'n Cyfrif Adborth 2023/24

Ewch i'r fersiwn testun

Eich adborth, ein hymateb 

Eich adborth

  • Roeddech chi'n ffeindio rhai o fannau astudio tawel ar Lefel E a Lefel F y Llyfrgell yn rhy swnllyd

  • Fe wnaethoch ofyn pam na allwch ddod â bwyd poeth i mewn i'r Llyfrgell i'w fwyta wrth astudio

  • Rydych wedi holi am gael dŵr poeth yn y Llyfrgell ar gyfer gwneud eich diodydd poeth eich hunain

  • Roedd rhai ohonoch yn teimlo'n oer yn Ystafell Iris de Freitas

  • Gofynnoch chi am gael hybiau monitor yn y Ganolfan Uwchraddedig

Ein hymateb

  • Sŵn - Ar hyn o bryd mae staff yn cerdded drwy'r holl fannau astudio yn y Llyfrgell mor aml â phosibl i fonitro lefel y sŵn.

    Rydym yn ymwybodol y gall y sŵn ailddechrau ar ôl i staff adael, felly rhowch wybod inni drwy ein gwasanaeth neges destun rhybuddio am sŵn os oes sŵn yn tarfu arnoch.

    Byddwn hefyd yn annog myfyrwyr i ddweud wrth eu cyd-fyfyrwyr os ydynt yn tarfu arnoch chi – os ydynt yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny. Mae cael gwybod gan gyfoedion eich bod yn tarfu arnyn nhw yn gallu bod yn neges lawer mwy pwerus na chael staff yn dod i orfodi tawelwch.

    Rydyn ni'n gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod Lefel F Llyfrgell Hugh Owen yn aros mor dawel â phosib ar yr un pryd â chynnig amryw o ofodau astudio eraill.

 

  • Bwyd a diod poeth - Rydym yn caniatáu diodydd poeth a diodydd oer mewn poteli/cwpanau gyda chaeadau a bwydydd oer (nad yw'n ddrewllyd nac yn seimllyd) yn y Llyfrgell. Nid ydym yn caniatáu bwydydd poeth, bwyd tecawe sydd wedi oeri nac alcohol.

    Mae angen inni sicrhau bod y Llyfrgell yn lle dymunol i bawb. Mae bwyd poeth yn peri sawl problem o ran hynny:

  • Mae'n tueddi i gynhyrchu arogleuon sy’n gallu tarfu ar eraill.

  • Mae'n tueddi i fod yn anniben.

  • Gall gweddillion bwyd ddifrodi eiddo’r llyfrgell ac fe allai ddenu llygod a phryfed.

     

    Rydych hefyd wedi gofyn am gael dŵr poeth er mwyn ichi wneud eich diodydd poeth eich hunain.

    Rydym yn gobeithio gallu cynnig dŵr poeth yn ein peiriannau gwerthu diod cyn hir. Yn y cyfamser gallwch chi gael dŵr poeth am ddim o'r cownter Starbucks yn yr Undeb - ewch â chwpan neu fflasg gyda chi.

 

  • Tymheredd - Mae'r ffenestri yn Ystafell Iris de Freitas Llyfrgell yn agor yn awtomatig ar sail y tymheredd a lefelau C02. Mae hyn yn cael ei reoli gan dîm Ystadau'r Brifysgol.

    Mae Lefel D yn ofod cynnes. Os ydych chi'n ei chael hi'n oerach i astudio ar Lefel F, Lefel E neu Ystafell Iris de Freitas, yn enwedig os ydych chi'n gweithio'n hwyrach i'r nos neu'n gynnar yn y bore, ystyriwch wisgo dillad cynhesach yn yr ardaloedd hyn neu symud i Lefel D.

 

  • Hybiau Monitor - Ar ôl treialu hybiau monitor yn hynod llwyddiannus yn y Llyfrgell, rydych wedi gofyn a fyddai'n bosibl i gael rhai mewn mannau astudio eraill ar y campws. Mewn partneriaeth â'r Ysgol Raddedigion, rydym wedi gosod dau ohonynt yn y Ganolfan Uwchraddedig.

 Cysylltwch â ni