Gweithgareddau Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) i fyfyrwyr newydd

Yn ystod y Croeso Mawr a'r Wythnos Ymgartrefu, rydym yn darparu amrywiaeth o weithgareddau i groesawu myfyrwyr newydd a chyflwyno ein gwasanaethau er mwyn i chi allu manteisio i’r eithaf arnynt yn ystod eich amser yma.

Yr ydym yn cynnig teithiau llyfrgell drwy'r flwyddyn yn ôl yr galw. Cysylltwch â'n llyfrgellwyr pwnc i drefnu.

Teithiau Llyfrgell

Mae taith rithiol Llyfrgell Hugh Owen ar gael i'w gweld ar unrhyw adeg

 

Casglu eich Cerdyn Aber

  • Bydd myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sydd yn byw yn Neuaddau Preswyl yn derbyn eu Cerdyn Aber wrth gofrestru yn eu llety.
  • Gall myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sydd mewn llety preifat gasglu eu Cerdyn Aber o Lyfrgell Hugh Owen yn ystod ein Horiau Agor.

 

Cymorth i ysgogi eich cyfrif e-bost a chysylltu eich dyfeisiau â rhwydwaith y Brifysgol

Mae ein staff ar gael i'ch helpu chi:

  • yn bersonol wrth y ddesg ymholiadau yn Llyfrgell Hugh Owen
  • dros y ffôn 01970 622 400
  • trwy e-bostio gg@aber.ac.uk
  • trwy ddefnyddio'r ddolen sgwrsio ar-lein ar ein tudalennau gwe
  • trwy Microsoft Teams

Gweler ein tudalen cysylltu â ni i gael manylion llawn 

Croeso i’ch canllaw ar-lein ar gyfer y Llyfrgell a TG

Croeso i’ch canllaw ar-lein ar gyfer y Llyfrgell a TG! I fyfyrwyr newydd, mae’r canllaw yn rhoi cyflwyniad pwysig i wasanaethau’r Llyfrgell a’r gwasanaethau TG ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cymrwch olwg nawr yn https://libguides.aber.ac.uk/rhagarweiniad ac wedyn rhowch dro ar y cwis byr sydd ar y diwedd.  

Rydyn ni’n cynnig sesiynau cynefino â’r Llyfrgell a TG yn rhan o raglen yr Wythnos Ymgartrefu yn eich adran – edrychwn ymlaen i gyfarfod â chi bryd hynny.