Trosolwg

‌‌Drwy weithio gydag adrannau eraill o fewn y Brifysgol, mae’r Adran Fathemateg yn cynnig astudiaethau Uwchraddeddig unigryw.

Cyrsiau MSc a Addysgir

Mae’r Adran Fathemateg yn Aberystwyth yn cydweithio gyda’r Adran Gyfrifiadureg ac Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig er mwyn darparu cwrs MSc mewn Ystadegaeth ar gyfer Bioleg Cyfrifiannol. Mae’r cynllun wedi’i ddylunio i gyflwyno sgiliau allweddol ac ymarferol mewn ystadegaeth a bydd o ddiddordeb i fyfyrwyr sy’n edrych am gymhwyster sylfaenol lefel mynediad ar gyfer cyfleon cyflogaeth gwych mewn deunyddiau fferyllol, amaethyddiaeth flaengar ac yn iechyd y cyhoedd. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ar ein Rhaglen MSc Addysgedig.

Graddau Ymchwil (PhD, MPhil)

Mae’r Adran Fathemateg wedi sefydlu enw da mewn ymchwil cydweithredol a rhyngddisgyblaethol blaengar.  Mae ymchwil eang yn cael ei gynnal mewn modelu mathemategol o solidau a strwythurau, rheoleg llifyddion cymhleth ac ewynnau, dadansoddiad a theori mesur, dadansoddiad ffwythiannol, algebrâu gweithredydd a systemau cwantwm agored. Gweler y tudalennau ar y grwpiau canlynol am fwy o wybodaeth: Modelu Mathemategol o Strwythurau, Llifyddion a Solidau, Strwythurau Cwantwm, Gwybodaeth a Rheolaeth. Cynigir cyfleusterau i fyfyrwyr eu darllen ar gyfer Graddau ymchwil PhD ac MPhil yn y pynciau uchod. Rydym yn aml yn gallu cynnig ysgoloriaethau ymchwil llawn ar gyfer PhD (gan EPSRC neu’r Undeb Ewropeaidd er enghraifft) i fyfyrwyr sydd â gradd anrhydedd da neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc addas. Yn ychwanegol, mae bwrsarïau ar gael yn aml i fyfyrwyr Uwchraddedig o du allan yr Undeb Ewropeaidd er mwyn talu am y gwahaniaethau rhwng ffioedd dramor a’r rhai yn y DU/UE. Bydd ymholiad anffurfiol i’r adran yn rhoi gwybod beth sydd ar gael ar unrhyw amser penodol. Mae rhestr o brosiectau PhD posib ar gael yma

Sut i wneud cais

Dylai darpar fyfyrwyr uwchraddedig gyflwyno cais ffurfiol i’r Swyddfa Derbyn Graddedigion. Ar ôl gwneud hyn, bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i ymweld â’r adran i gael blas ar ein gweithgareddau ymchwil, i gyfarfod staff ac i weld y cyfleusterau sydd ar gael. Rydym yn croesawu ymholiadau anffurfiol am fwy o wybodaeth cyn gwneud cynnig. E-bostiwch ni ar maths@aber.ac.uk, neu ysgrifennwch atom i’n cyfeiriad cyswllt. Mae gwybodaeth am ffynonellau ariannu, ffioedd, a chostau byw ar gyfer myfyrwyr o’r DU, UE a thu allan i’r UE hefyd ar gael.