Arddangosfa yn y Senedd yn adrodd hanesion ffoaduriaid

02 Mawrth 2023

Mae arddangosfa sy'n adrodd hanesion ffoaduriaid yng Nghymru o'r gorffennol a'r presennol yn cael ei harddangos yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Academydd o Aberystwyth yn datblygu ap i bobl sy’n dysgu Sbaeneg

06 Mawrth 2023

Mae academydd entrepreneuraidd o Aberystwyth wedi cael cymorth ariannol a mentora i ddatblygu ap newydd ar gyfer dysgu Sbaeneg.

Lansio ysgoloriaeth newydd ym maes Hanes Cymru

07 Mawrth 2023

Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru wedi lansio ysgoloriaeth uwchraddedig newydd, diolch i rodd hael gan gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

Ethol daearyddwr Aberystwyth yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol

07 Mawrth 2023

Mae daearyddwr blaenllaw ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ei ethol yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Anrhydeddu’r parasitolegydd arloesol Gwendolen Rees ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

08 Mawrth 2023

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 (ddydd Mercher 8 Mawrth), mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei bod yn ailenwi un o’i phrif adeiladau academaidd i anrhydeddu’r Gymraes gyntaf i gael ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS).

Y Gweinidog Newid Hinsawdd yn agor datblygiad solar trydan gwyrdd y Brifysgol

09 Mawrth 2023

Mae arae solar sy’n cynhyrchu o leiaf chwarter y trydan sydd ei angen ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth wedi’i hagor yn swyddogol heddiw (ddydd Iau 9 Mawrth 2023) gan Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James AS.

Gallai pori alpacaod helpu taclo newid hinsawdd - ymchwil

15 Mawrth 2023

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio a allai pori alpacaod ochr yn ochr ag anifeiliaid eraill helpu ffermwyr i fynd i’r afael â newid hinsawdd. 

Mae pobl sydd ag anhwylderau personoliaeth yn fwy tebygol o gofrestru ar gyfer astudiaethau seicoleg – dyma pam mae hyn yn broblem

15 Mawrth 2023

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Pennaeth yr Adran Seicoleg, yr Athro Nigel Holt, yn trafod sut y gallai astudiaethau seicolegol â thâl gael eu heffeithio gan y ffaith bod pobl sy'n cofrestru ar eu cyfer yn fwy tebygol fod ag anhwylder personoliaeth.

Archif Ddarlledu Cymru: Archif ddarlledu genedlaethol gyntaf y Deyrnas Unedig yn dangos pwysigrwydd cadw ein hanes clyweledol

20 Mawrth 2023

Mae'r Athro Jamie Medhurst o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi ysgrifennu ar gyfer The Conversation  am lansiad Archif Ddarlledu Cymru a sut mae'n codi cwestiynau pwysig am fynediad at ein hanes clyweledol fel cenedl.

Cadeirydd Newydd Genomeg Cnydau ym Mhrifysgol Aberystwyth

24 Mawrth 2023

Mae’r Athro Gancho Slavov wedi’i benodi’n Gadeirydd Genomeg Cnydau Germinal yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mwy o achosion llys ar-lein yn bosib yn dilyn profiad Covid - adroddiad

27 Mawrth 2023

Gellid cynnal rhagor o achosion llys ar-lein er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch ac effeithlon, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan academyddion Aberystwyth sy'n edrych ar y gyfundrefn gyfiawnder yn ystod y pandemig. 

Prosiect adfer tir mawn i daclo newid hinsawdd yn dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth

27 Mawrth 2023

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cychwyn ar brosiect i adfer tir mawn fel rhan o ymdrech i dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer.

Ymchwil ar gefnogaeth wledig i wleidyddiaeth aflonyddgar yn ennill grant Ewropeaidd sylweddol

30 Mawrth 2023

Bydd y berthynas rhwng anfodlonrwydd etholwyr mewn ardaloedd gwledig a chefnogaeth i symudiadau gwleidyddol aflonyddgar yn Ewrop a’r Unol Daleithiau, yn destun astudiaeth o bwys gan athro o Brifysgol Aberystwyth, yn sgil dyfarnu grant uchel ei fri.

Penodi academydd o Brifysgol Aberystwyth i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru

29 Mawrth 2023

Mae’r Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth wedi’i benodi i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

Mererid Hopwood yn ennill Medal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli

30 Mawrth 2023

Mererid Hopwood, Athro Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd wedi ennill Medal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli eleni.

Adnoddau newydd i ddysgu am ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

31 Mawrth 2023

Diolch i waith gan Brifysgol Aberystwyth, mae gan athrawon Cymru gyfres o adnoddau dwyieithog newydd i’w defnyddio wrth ddysgu am ffoaduriaid a cheiswyr lloches.