Pam fo'r hynod gyfoethog o bosibl yn cymryd mwy o risgiau na'r gweddill ohonom

03 Gorffennaf 2023

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Nigel Holt, Athro mewn Seicoleg yn awgrymu os ydyn ni eisiau llai o ddamweiniau, efallai y dylen ni ystyried rheoliadau diogelwch a sut yr ydyn ni fel cymdeithas yn gwerthfawrogi cymryd risgiau, yn hytrach na beio unigolion.

Rhewlifoedd bregus wedi’u gorchuddio gan gerrig yn destun ymchwil gan wyddonwyr Aberystwyth

04 Gorffennaf 2023

Mae gwyddonwyr yn ymchwilio i’r cynnydd yn y cerrig sy’n gorchuddio rhewlifoedd sy’n gallu effeithio ar ba mor gyflym maent yn dadmer wrth i’r hinsawdd newid.

Mae pryfed sy'n cnoi yn cael eu denu at drapiau glas - defnyddion ni ddeallusrwydd artiffisial i ddarganfod pam

04 Gorffennaf 2023

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Roger Santer (Darlithydd mewn Sŵoleg) yn esbonio sut y gwnaeth tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth fanteisio ar rym deallusrwydd artiffisial i ddarganfod pam fo pryfed yn methu gwrthsefyll temtasiwn y lliw glas.

Coleddu technolegau efelychu digidol i addysgu’r genhedlaeth nesaf o nyrsys - symposiwm

05 Gorffennaf 2023

Cafodd rôl technoleg efelychu arloesol wrth chwyldroi hyfforddiant gofal iechyd proffesiynol sylw mewn symposiwm arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw.

Hwb i ymchwil trafnidiaeth gyda phartneriaeth rhwng Aberystwyth a De Korea

10 Gorffennaf 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu partneriaeth newydd gyda Phrifysgol Konkuk yn Ne Korea fel hwb mawr i’w hymchwil trafnidiaeth a symudedd.

Gall ffermydd gwynt ar y môr gynnig cynefinoedd newydd i gimychiaid – ymchwil

12 Gorffennaf 2023

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Harry Thatcher a Dr David Wilcockson o’r Adran Gwyddorau Bywyd yn trafod manteision posibl ffermydd gwynt ar y môr wrth greu cynefinoedd newydd ar gyfer cimychiaid ar hyd arfordiroedd y Deyrnas Gyfunol.

Arweiniodd ymddygiad ymosodol Sofietaidd at sefydlu cynghrair NATO - dyma pam fod hynny'n bwysig nawr

12 Gorffennaf 2023

Wrth i arweinwyr NATO gwrdd i drafod dyfodol Wcrain o fewn y gynghrair, mae Dr Jan Ruzicka a Dr R Gerald Hughes o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ysgrifennu yn The Conversation am sut mae'r trafodaethau presennol yn cymharu â dechreuad y sefydliad.

Ffermydd gwynt ar y môr yn gynefinoedd da i gimychiaid – ymchwil

13 Gorffennaf 2023

Gall ffermydd gwynt ar y môr gynnig cynefinoedd newydd i gimychiaid a buddion bioamrywiaeth posibl, yn ôl ymchwil newydd sydd wedi cael ei arwain gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth.

Yr heriau'n wynebu Rhun ap Iorwerth cyn yr etholiadau nesaf

17 Gorffennaf 2023

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod rhai o’r tasgau pwysig sydd o’u blaenau i Blaid Cymru ac arweinydd newydd y blaid Rhun ap Iorwerth.

Rhyfel Wcráin: Mae pennaeth Grŵp Wagner ac arlywydd Belarus yn parhau i chwilio am rym

18 Gorffennaf 2023

Yn ei herthygl ddiweddaraf ar y rhyfel yn Wcráin ar gyfer The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod sut mae pennaeth Grŵp Wagner ac arlywydd Belarus yn parhau gyda'u hymgais i gael grym.

Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Diwtor Dysgu Cymraeg

18 Gorffennaf 2023

Mae Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Tina Evans, y ‘Bod Dynol ar Olwynion’, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

18 Gorffennaf 2023

Blogwraig sy’n ysbrydoli, areithwraig sy’n ysgogi, a chyflwynydd teledu, mae Tina Evans yn dod yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y seremonïau graddio eleni.

Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Ben Thompson o Ŵyl Tribeca

18 Gorffennaf 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Ben Thompson, gwneuthurwr ffilmiau ac Is-Lywydd Rhaglennu Ffilmiau Byrion yng Ngŵyl Tribeca, Efrog Newydd.

Cyflwyno Ann Griffith gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd

18 Gorffennaf 2023

Ann Griffith, sydd wedi byw ar bum cyfandir dros y pedwar degawd diwethaf ond wastad wedi meithrin ei gwreiddiau cadarn yng Nghymru, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth. 

Pydru yn y gwely: y chwiw ar y cyfryngau cymdeithasol y byddai'r Fictoriaid wedi dotio arno, yn enwedig yr awdur Elizabeth Gaskell

18 Gorffennaf 2023

Gan ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Alice Vernon, Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth y 19eg Ganrif, yn cymharu’r chwiw ddiweddaraf ar TikTok o ‘bydru yn y gwely’ i ramantu menywod sâl gan artistiaid ac awduron y 19eg ganrif.

Cymrodoriaeth er Anrhydedd i ysgolhaig nodedig o Malaysia ym maes y Gyfraith

19 Gorffennaf 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i’r Athro Dato’ Dr Rahmat Mohamad, ysgolhaig o Malaysia sy’n flaenllaw ym maes y gyfraith, yn rhan o ddathliadau graddio blynyddol y brifysgol.

Blas ar fywyd myfyrwyr milfeddyol i ddysgwyr o Gymru

19 Gorffennaf 2023

Mae dysgwyr ysgol uwchradd sydd â diddordeb mewn gyrfa fel milfeddyg wedi cael blas ar fywyd coleg wedi i Brifysgol Aberystwyth gynnal ei Hysgol Haf Milfeddygol Seren gyntaf.

Cymrodoriaeth er Anrhydedd i filfeddyg adnabyddus, Dr Kate O’Sullivan

20 Gorffennaf 2023

Mae Cyfarwyddwr Milfeddygfa Ystwyth yn Aberystwyth, Dr Kate O’Sullivan, wedi’i gwneud yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Milfeddyg Aberystwyth, Phil Thomas, yn cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd

20 Gorffennaf 2023

Mae Phil Thomas, Cyfarwyddwr Milfeddygfa Ystwyth yn Aberystwyth wedi’i gwneud yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Ian Gwyn Hughes

20 Gorffennaf 2023

Mae Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus a Diwylliant Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyn ddarlledwr y BBC, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Sioe Fawr: Dathlu unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru, ‘hyfforddi at anghenion y genedl’

24 Gorffennaf 2023

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn dathlu dwy flynedd ers sefydlu unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru ar faes y Sioe Fawr heddiw (11:30yb, dydd Llun, 24 Gorffennaf).

Ffisegwyr o Aberystwyth yn cydweithio ar brosiect telesgop solar

26 Gorffennaf 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o gydweithrediad rhyngwladol i adeiladu'r telesgop solar mwyaf a adeiladwyd yn Ewrop erioed.

Daearyddwyr yn dringo i’r entrychion i godi arian

27 Gorffennaf 2023

Mae tîm o staff ac uwchraddedigion o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi cwblhau her a ysbrydolwyd gan un o’u cydweithwyr, ac wedi codi dros £2,000 i’r Uned Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.

Cyhoeddi Meri Huws yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth

28 Gorffennaf 2023

Mae cyn Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi ei phenodi’n Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth.