gyrfaoeddABER a Gweithgareddau

gyrfaoeddABER yw’ch porth ar-lein i’n holl wasanaethau a gweithgareddau, a llawer mwy, megis:

  • Rhaglen o weithgareddau gan gyflogwyr – archebwch le ar y porth
  • Cyfres gynhwysfawr o weminarau datblygu gyrfa a sgiliau – archebwch le ar y porth
  • Cronfa ddata o dros 7,000 o gyfleoedd gwaith o bob lliw a llun led-led y byd
  • Apwyntiadau gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd
  • System ymholiadau i ymateb i’ch holl gwestiynau
  • Cynlluniau blwyddyn mewn gwaith, integredig ai peidio, a lleoliadau
  • Adnoddau a gwybodaeth i’ch helpu i ddewis a chynllunio’ch gyrfa

Mewngofnodwch wrth ddefnyddio’ch enw defnyddiwr a chyfrinair prifysgol. Os ydych wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth, gallwch parhau i ddefnyddio gyrfaoeddABER. Welwch ein dudalen Graddedigion am fwy o manylion ar sut i gofrestru ar gyfer gyrfaoeddABER.

Cewch fraslun byr o’r system gyrfaoeddABER ar ein fideo .

Bellach mae’r mwyafrif o’n gweithdai yn cael eu cynnig fel gweminarau, boed rheiny’n fyw neu wedi eu recordio, gan gynnwys recordiadau o bigion o’n gweminarau byw yn dilyn rhai o’r sesiynau hynny.  Gwelwch beth sydd ar gynnig isod, a weler ein cylchlythyr misol hefyd am y digwyddiadau diweddaraf.

Gweminarau Datblygu Gyrfa a Sgiliau - Byw

Gweithdai a Gweminarau Gyrfa a Sgiliau 2023/24

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu cyfres o weithdai'n fyw (drwy gyfrwng Saesneg) i hybu eich sgiliau cyflogadwyedd. Hyd pob gweithdy yw tua 30 munud gyda sesiwn holi ac ateb 10 munud. Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich lle ar www.aber.ac.uk/gyrfaoeddABER

Gwanwyn 2024

07/02/2024 2.10yp Dechrau menter fach ar yr ochr Teams
13/02/2024 11.10yb Ysgrifennu CV (sesiwn a gyflwynir yn Gymraeg)  HO C64
15/02/2024 12.10yp Sut i sicrhau lleoliadau/swyddi i raddedigion yn y DU os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol GR 1.32 (enw newydd adeilad IBERS)
20/02/2024 2.10yp GŵylGyrfaoedd - CV Circle - Saesneg Llyfrgell HO - Ystafell Astudio 1
21/02/2024 11.10yb GŵylGyrfaoedd - Cylch CV - Cymraeg Llyfrgell HO - Ystafell Astudio 1
22/02/2024 2–4yp GŵylGyrfaoedd - Lluniau LinkedIn Llyfrgell HO - Ystafell Astudio 1
27/02/2024 2.10yp Sut i lwyddo mewn Canolfannau Asesu Teams
04/03/2024 10.10yb Astudiaethau Uwchraddedig Teams
07/03/2024 2.10yp Interniaethau, Profiad Gwaith a Gweithio Dramor dros yr Haf Teams
07/03/2024 2.10yp Sut i lwyddo mewn cyfweliadau (sesiwn a gyflwynir yn Gymraeg) Ystafell i’w chadarnhau
11/03/2024 11.10yb CV Circle - Saesneg Llyfrgell HO - Ystafell Astudio 1
12/03/2024 11.10yb Canfod swydd yn y sector gwyrdd Teams
12/03/2024 12.10yp Addasiadau a datgelu Teams
14/03/2024 3:10yp Cylch CV - Cymraeg Llyfrgell HO - Ystafell Astudio 1
19/03/2024 2.10yp Sut i lwyddo mewn Cyfweliadau Teams
20/03/2024 3:10yp Creu proffil LinkedIn (sesiwn a gyflwynir yn Gymraeg) Ystafell i’w chadarnhau
21/03/2024 12.30yp Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i Hyrwyddo Gyrfa - Manteision ac Arferion Gorau Teams

Gall y dyddiadau a’r amseroedd newid felly cofiwch edrych ar gyrfaoeddABER i gael y wybodaeth ddiweddaraf ac i archebu'ch lle.

Recordiadau Gweminarau Datblygu Gyrfa a Sgiliau

Cynigiwn gyfres o weminarau wedi eu recordio fel y gallwch cael gafael arnynt pan fo hynny'n gyfleus i chi.  Cysylltwch â ni os hoffech gael mynediad i recordiad

Gwanwyn 2024

Astudiaethau Uwchraddedig - Mae'r sesiwn hon yn cynnig gwybodaeth ac yn ymchwilio i’r rhesymau dros astudio ar lefel Meistr ac yn gofyn sut mae hyn yn cyd-fynd â’ch dyheadau chi ar gyfer eich gyrfa. Bydd canllawiau ymarferol hefyd yn cael eu rhoi i’ch helpu â’r broses o ymgeisio.

 

Interniaethau, Profiad Gwaith a Gweithio Dramor dros yr Haf - Chwilio am brofiad gwaith? Ymunwch â'r gweminar hwn i gael cipolwg ar y camau y gallwch eu cymryd i ddod o hyd i brofiad gwaith perthnasol, ac i gael awgrymiadau a chyngor ar ganfod adnoddau a defnyddio'ch rhwydwaith.

 

Sesiynau gyda Chyflogwyr

Digwyddiadau Cyflogwyr

Mae mynychu digwyddiad cyflogwr yn ffordd ardderchog o gael gwybodaeth am fyd gwaith yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol y diwydiant. Mae hefyd yn gyfle amhrisiadwy i feithrin eich hyder wrth gwrdd â chyflogwyr, a datblygu sgiliau pwysig megis ymwybyddiaeth fasnachol a rhwydweithio. Mae llawer o wahanol fformatau digwyddiadau, a rhywbeth i bawb!

Os ydych yn fyfyriwr neu'n raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, ewch i adran 'digwyddiadau' gyrfaoeddABER yn rheolaidd i gael manylion am yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill.

Entreprenwriaeth a Menter

Erioed wedi ystyried cychwyn busnes eich hunan?  

Heb ystyried gallai hunan-gyflogaeth fod yn opsiwn?

Fe synnech faint o sectorau gwaith sydd bellach yn chwilio am bobl sy'n fodlon fod yn fwy creadigol yn y modd maent yn gweithio.  Mae gweithio'n llawrydd yn opsiwn naturiol erbyn hyn, ac o fewn galwediagaethau tu hwnt i'r celfyddydau creadigol a pherfformio traddodiadol, megis cyfrifiadureg, peirianneg, yr amgylchfyd, gwyddorau anifeiliaid a cheffylau, addysg, ieithoedd modern, ymchwil, a llawer mwy. 

Cewch llawer mwy o wybodaeth am weithredu mewn dull entreprenwraidd ac yn fentergarol, a'r gefnogaeth sydd ar gynnig ichi i wenud hyn, ar ein tudalen we AberPreneurs.