Uwchraddedigion

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn brofiadol iawn wrth helpu uwchraddedigion i adnabod yr opsiynau mwyaf addawol sydd iddynt ac i weithredu arnynt. Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth pwrpasol o safon i chi fel myfyriwr uwchraddedig, boed eich gofynion yn rhai penodol neu'n ansicr ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd, cawn fod y rhan helaeth o uwchraddedigion yn elwa o gael trafodaeth un-i-un ag ymgynghorydd gyrfaoedd ynghylch eu sefyllfa bresennol a'u cynlluniau yn y dyfodol.

 

Yn gwybod beth rydych am ei wneud?

 

  • Os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod, ymchwiliwch i'r yrfa sydd gennych dan sylw ar wefan Prospects
  • Chwiliwch drwy ein cronfa ddata swyddi gyrfaoeddABERam swyddi perthnasol. Er bod llawer o gyflogwyr, gan gynnwys cyflogwyr bach a chanolig eu maint (SMEs), yn recriwtio drwy'r flwyddyn, mae rhai swyddi gwag â dyddiadau cau mor gynnar â'r Nadolig neu'r Pasg.
  • Gwnewch y gorau o'r adnoddau gyrfa sydd ar gael i chi - a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cymorth wrth lunio CV, llythyrau cyflwyno a ffurflenni cais a pharatoi ar gyfer cyfweliadau a chanolfannau asesu. Rydym yn cyfrannu gweithdai i'r Rhaglen Ymchwilwyr Aberystwyth canolog ac rydym hefyd yn rhedeg digwyddiadau a gweithdai. I weld beth sy'n rhedeg ar hyn o bryd ewch i gyrfaoeddABER.
  • Dewch i siarad ag ymgynghorydd gyrfaoedd ynghylch eich syniadau gyrfaoedd. Gellir archebu apwyntiadau ar gyrfaoeddABER neu dewch i ymweld â ni yn yr Hwb Gyrfaoedd, Llyfrgell Hugh Owen am sgwrs.

Ddim yn siŵr beth rydych am ei wneud?

Os nad oes gennych unrhyw syniad, neu ddim yn siŵr, peidiwch â dychryn; does dim amser cywir nac anghywir i ddechrau arni. Bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn hapus i helpu.

  • Edrychwch ar Prospects Planner i gael help wrth benderfynu beth yr hoffech ei wneud. Edrychwch hefyd ar gwybodaeth pwnc penodol i gael syniadau i ble y gallai eich gradd fynd â chi.
  • Dewch i siarad ag ymgynghorydd gyrfaoedd cyn gynted ag y bo modd er mwyn i chi gael digon o amser i feddwl am eich opsiynau a dechrau cynllunio ar gyfer eich dyfodol.

Ewch i Cysylltwch a Ni i gael gael mwy o wybodaeth. Mae croeso cynnes i chi ymweld â ni neu ebostio gyrfaoedd@aber.ac.uk