Gwybodaeth Pwnc-benodol

Mae ein tudalennau adrannol yn cynnwys gwybodaeth a dolenni cyswllt sy'n benodol i'ch pwnc. Mae'n bosibl y byddwch hefyd am edrych yn fwy manwl ar bosibiliadau eraill nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â phwnc eich gradd. Gall Prospects Planner, sydd ar gael ar wefan Prospects, fod o gymorth ichi adnabod a blaenoriaethu eich sgiliau a'r hyn sydd o ddiddordeb i chi, cyn awgrymu nifer o feysydd gyrfa posibl yn seiliedig ar y dewisiadau hynny.

Mae'n werth cael cipolwg ar y rhan o wefan TARGETjobs ar opsiynau gyrfa sy'n cyd-fynd â'ch gradd.

Wrth i chi benderfynu ar eich gyrfa, gall fod o gymorth i chi weld beth y mae myfyrwyr eraill wedi ei wneud ar ôl graddio. Mae gwybodaeth am yr hyn y mae graddedigion yn ei wneud chwe mis ar ôl iddynt raddio yn cael ei chasglu'n genedlaethol a gallwch weld trosolwg o'r ystadegau hyn yn y cyhoeddiad HECSU/AGCAS 'What do graduates do'. Gallwch hefyd gael cip ar yr adran 'Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud', ar bob tudalen pwnc.