Rheolaeth a Busnes
Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?
Yn ogystal â’ch sgiliau sy’n seiliedig ar ymarfer, a’r wybodaeth y byddwch yn ei dysgu, bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys datrys problemau, hunan-reoli, cyfathrebu a gwaith tîm. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth, ac eto nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o hyn, neu cânt eu dylanwadu gan ffeithiau di-sail ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.
Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?
Mae eich gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o lwybrau gyrfaol.
Mae nifer fawr o bosibiliadau’n agored i raddedigion, mwy o bosibl nag a sylweddolwch ar y cychwyn. Weithiau, y gwaith anoddaf sy’n wynebu myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a graddedigion newydd yw penderfynu sut i ddewis o blith y dewisiadau niferus sydd ar gael i chi. Ceir swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phynciau gradd, swyddi lle gall pynciau penodol fod yn ddefnyddiol a hefyd ystod gyflawn o swyddi sy’n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth.
Pa gymorth sydd ar gael?
Mae gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig sy’n gweithio’n agos â’ch adran i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau gyrfaoedd yn eich adran i hyrwyddo cyfleoedd profiad gwaith, eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, ac sydd hefyd yn gyfle i rwydweithio gyda phobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cyflwynir rhaglen addysg gyrfaoedd yn ganolog hefyd, a gall uwchraddedigion fanteisio ar y rhaglen Hyfforddi Sgiliau Uwchraddedig. Mae croeso i chi alw heibio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd unrhyw bryd i gael cymorth neu wybodaeth bellach.
Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion? – Adnoddau defnyddiol
Mae’r dolenni isod yn fan cychwyn i chi pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc; mae mwy o adnoddau cyffredinol ar gael yn ein hadran profiad gwaith. Cofiwch fod cymorth ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Gyrfaoedd pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi a phrofiad gwaith.
DU
- Inside Careers (gwybodaeth am sawl maes gyrfa - yn cynnwys adrannau am swyddi i raddedigion a lleoliadau gwaith)
 - Bank of England
 - Government Economic Service - lleoliadau i fyfyrwyr
 - Office for National Statistics
 - Institute for Fiscal Studies - yn cynnig lleoliadau haf bob blwyddyn
 - Bubble Jobs - swyddi arlein, e-fasnach a chyfyngau cymdeithasol
 - Deloitte
 - EY
 - KPMG
 - PricewaterhouseCoopers
 - CampaignLive Jobs - swyddi hysbysebu, creadigol, marchnata a'r cyfryngau
 - ProjectManagerJobs
 
Cymdeithasau a chyrff proffesiynol
Mae'r cyrff hyn yn hyrwyddo diddordebau pobl sy'n gweithio mewn galwedigaethau penodol. Mae gan rai ohonynt restrau o gyflogwyr sy'n aelodau o'r gymdeithas ac a allai hysbysebu swyddi tra bod eraill yn ffynonellau defnyddiol o wybodaeth wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer gwneud ceisiadau neu ystyried ceisiadau ar hap.
- Association of British Travel Agents
 - Association of Chartered Certified Accountants (ACCA)
 - Association of Taxation Technicians
 - Chartered Institute of Management Accountants (CIMA)
 - Chartered Institute of Marketing
 - Chartered Institute of Personnel and Development
 - Chartered Institute of Public Finance and Accountancy (CIPFA)
 - Chartered Institute of Public Relations
 - Chartered Institute of Purchasing and Supply
 - Chartered Management Institute
 - Direct Marketing Association
 - Institute of Actuaries
 - Institute of Chartered Accountants in England and Wales (ICAEW)
 - Institute of Chartered Accountants of Scotland
 - Institute of Chartered Secretaries and Administrators
 - Institute of Hospitality
 - Institute of Practitioners in Advertising
 - Institute of Travel and Tourism
 - Management Consultancies Association
 - Market Research Society
 - Pensions Management Institute
 - Royal Economic Society
 - Royal Statistical Society
 - Society of Business Economists
 - Tourism Society
 - World Tourism Organisation
 - World Travel and Tourism Council
 
Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?
Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan ein Graddedigion:
- Archwiliwr Cynorthwyol
 - Athro/Athrawes
 - Cydlynydd Marchnata
 - Cyfreithiwr Cynorthwyol
 - Cyfrifydd
 - Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol
 - Cyfrifydd Costau
 - Cyfrifydd dan Hyfforddiant
 - Cyfrifydd Graddedig dan Hyfforddiant
 - Cyfrifydd Siartredig dan Hyfforddiant
 - Cyhoeddwr Cylchgrawn
 - Dadansoddwr
 - Dadansoddwr Cyllid Graddedig
 - Dadansoddwr Cynllunio
 - Dadansoddwr Data Gwybodaeth Busnes
 - Dadansoddwr Prisio
 - Dadansoddwr y Farchnad
 - Dadansoddwr y Farchnad (Graddedig dan Hyfforddiant)
 - Dadansoddwr Ymchwil
 - Dadansoddwr Ymchwil Marchnad
 - Darlithydd
 - Datblygwr Meddalwedd
 - Gweithredwr Datblygu Busnes
 - Gweithredwr Datblygu Cyfrif
 - Gweithredwr Gwerthiant
 - Gweithredwr Hysbysebu
 - Gweithredwr Marchnata
 - Gwerthwr Siopau
 - Hyfforddedig Logisteg Graddedig
 - Hyfforddedig Trethi
 - Masnachwr (Cwmni Cyllid)
 - Rheolwr Brand a Digwyddiadau
 - Rheolwr Cwsmeriaid (Graddedig dan Hyfforddiant)
 - Rheolwr Cyfrifon
 - Rheolwr Cyllid - Buddsoddi Cyfalaf
 - Rheolwr Cynorthwyol, Adran Pwrcasu
 - Rheolwr dan Hyfforddiant Graddedig
 - Rheolwr Graddedig dan Hyfforddiant
 - Rheolwr Gwasanaethau Masnachol
 - Rheolwr Gwesty
 - Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
 - Rheolwr Masnachol Graddedig
 - Rheolwr Masnach Rhyngwladol
 - Rheolwr Prosiect Marchnata Ewropeaidd
 - Swydog Bancio Preifat
 - Swyddog Cyllid
 - Swyddog Datblygu'r Iaith Gymraeg
 - Swyddog Gweithredol Uwch
 - Trefnydd Gweithgareddau
 - Ymgynghorydd Busnes
 - Ymgynghorydd Graddedig
 - Ymgynghorydd Recriwtio
 - Ymgynghorydd Ynni
 
Enghreifftiau o'r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion rheolaeth a busnes Aberystwyth i weithio iddynt:
- Amryw Gynghorau Sir
 - Amryw Sefydliadau Addysg Uwch
 - Amryw Ysgolion
 - AXA
 - Bennets of Malvern
 - BT
 - Canolfan Mileniwm Cymru
 - CFFI Wales
 - Champion Accountants
 - Cobra Group
 - Coleg Prifysgol Harper Adams
 - Cymdeithas Adeiladu'r Principality
 - Davies and Lewis Accountants
 - Debenhams
 - First Choice
 - Grant Thornton
 - Gwasanaeth Iechyd Gwladol
 - Heddlu Llundain
 - KPMG
 - Llu Awyr Brenhinol
 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
 - Machbrook Cyf
 - Morrisons
 - National Express
 - Network Rail
 - Newmans a Phartneriaid
 - Post Brenhinol
 - PricewaterhouseCoopers
 - Prifysgol Aberystwyth
 - Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
 - Tesco
 - Virgin Mobile
 - WH Smiths
 - Whittingham Riddell LLP
 - Yr Heddlu
 
