Gweminarau Cymraeg

Croeso i'r Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yr adran fwyaf sefydledig o'i math yng Nghymru!

Manteisiwch ar y cyfle i gofrestru ar gyfer y gweminarau yma sydd wedi cael ei chreu er mwyn gyfoethogi myfyrwyr lefel-A ar wahanol agweddau llenyddiaeth Cymraeg. Yn ogystal â hyn bydd yr gweminarau yn rhoi blas i chi ar sut mae dysgu a thrafodaethau yn cymryd lle mewn amgylchedd addysg uwch.

Mewn partneriaeth â Channel Talent, mae Adran Cymraeg Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn cynnal gweminarau fyw. Mae'r gweminarau yma yn trafod amryw o agweddau cysylltiedig â llenyddiaeth Cymraeg. Mae recordiadau o'r trafodaethau hyn yn cael eu cadw ar y tudalen yma.

Recordiadau Blaenorol

Cymraeg: Trafferth Mewn Tafarn - Cerdd Enwocaf Dafydd Ap Gwilym

Dafydd ap Gwilym yw un o feirdd mwyaf cyffrous Cymru. Er bod canrifoedd lawer wedi mynd heibio ers iddo deithio’r wlad yn canu ei gerddi, mae ei eiriau’n dal i’n swyno heddiw. Ef yw ein bardd enwocaf, a’i gerdd enwocaf, mae’n siŵr, yw ‘Trafferth mewn Tafarn’.

Yn y gerdd honno, mae Dafydd yn adrodd stori ysgafn amdano’n ceisio caru â merch un noson, ac yn cael trafferthion lu wrth ymbalfalu tuag ati yn y tywyllwch, gan ddeffro pawb, yn cynnwys tri Sais blin!

Ond a oeddet ti’n gwybod nad mewn ‘tafarn’ oedd Dafydd, mewn gwirionedd, a bod ergyd lawer mwy difrifol i’r stori?

Bydd y sesiwn hon yn dod â geiriau Dafydd yn fyw ac yn galluogi inni glywed ei lais eto, agos saith canrif ar ôl canu ei gerdd enwocaf am y tro cyntaf.

 

Cyrsiau Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Cyrsiau Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Dewch i weld y rhestr gyflawn o gyrsiau Cymraeg (ac Astudiaethau Celtaidd) sydd ar gael yn Aberystwyth: https://www.aber.ac.uk/cy/cymraeg/astudio-gyda-ni/israddedig/

Ffilm Diwedd Tymor Adran y Gymraeg

Ffilm Diwedd Tymor Adran y Gymraeg