1. Sicrwydd Ansawdd yn Aberystwyth
Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Mae'r adran hon wrthi'n cael ei datblygu.
-
1.1 Ynglŷn â’r Llawlyfr
1. Mae’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd (LlAA) yn ffynhonnell hwylus ar gyfer y polisïau, y rheoliadau a’r gweithdrefnau sy’n cefnogi rheolaeth Prifysgol Aberystwyth dros safonau ac ansawdd academaidd. Fe’i bwriedir i’w ddefnyddio gan aelodau staff y Brifysgol, arholwyr allanol, adolygwyr allanol a phartneriaid cydweithredol. Cyhoeddir y Llawlyfr ar-lein ond gellir hefyd lawrlwytho ei adrannau unigol ar ffurf pdf a’u hargraffu. Mae’r Llawlyfr hefyd yn cynnwys dolen i Reolau a Rheoliadau a Chonfensiynau Arholiadau’r Brifysgol.
2. Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am sicrhau bod enw da Prifysgol Aberystwyth yn cael ei gynnal a’i wella lle bynnag y bo hynny’n bosibl, a bod ein trefniadau sicrhau ansawdd yn parhau i fod yn drwyadl ac yn eglur.
3. Gellir lawrlwytho gwybodaeth ychwanegol a chopïau electronig o ffurflenni a thempledau (yn cynnwys ffurflenni ar gyfer arholwyr allanol) o’r adran berthnasol o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Gan fod ffurflenni’n cael eu diweddaru’n gyson, dylid eu cyrchu o’r Llawlyfr ym mhob achos, yn hytrach na chadw ac ailddefnyddio fersiynau’r blynyddoedd cynt.
-
1.2 Systemau Sicrwydd Ansawdd
1. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn safon uchel y cyfleoedd dysgu ac addysgu y mae’n eu cynnig i’w myfyrwyr. Yn sail iddynt ceir systemau sicrhau ansawdd effeithiol a ddatblygwyd dros flynyddoedd lawer ac a fireiniwyd ar sail canllawiau a fframweithiau yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA). Mae pedair prif swyddogaeth i systemau sicrhau ansawdd y Brifysgol:
(i) Sicrhau safon ac ansawdd ein cynlluniau astudio, eu bod yn ddilys ac yn gyfredol, a’u bod yn cael eu cynllunio, eu dysgu, eu haddasu a’u monitro mewn modd priodol
(ii) Cynnal y safonau uchaf mewn ansawdd academaidd a gwelliant parhaus, gan gydymffurfio â’r disgwyliadau a amlinellir yng Nghod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch
(iii) Gwella ansawdd trwy annog hunanfyfyrio beirniadol yn barhaus, fel ein bod yn chwilio o hyd am ffyrdd o wella ansawdd y profiad a gynigiwn i fyfyrwyr
(iv) Bod yn sail i ddatblygiad strategol y cynlluniau a’r disgyblaethau academaidd yr ydym yn eu cynnig.
2. Mae Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch yn rhoi man cychwyn cyffredin i’r holl ddarparwyr addysg uwch o ran gosod, disgrifio a sicrhau safonau academaidd eu dyfarniadau a’u rhaglenni addysg uwch, ynghyd ag ansawdd y cyfleoedd dysgu y maent yn eu darparu. Y Cod yw’r cyfeirbwynt craidd a ddefnyddir yn holl weithgarwch adolygu’r ASA: https://www.qaa.ac.uk/quality-code
3. Mae’r Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau yn y DU yn darparu cyfeirbwyntiau pwysig ar gyfer darparwyr addysg uwch, ac yn eu cynorthwyo wrth iddynt osod a chynnal safonau academaidd. Mae’r fframweithiau yn ganolog i’r Disgwyliad ym Mhennod A1, ‘The National Level’, o God Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch fod cyrff dyfarnu graddau yn defnyddio cyfeirbwyntiau allanol ar lefel y DU ac yn Ewropeaidd er mwyn sicrhau safonau academaidd trothwy ledled y sector addysg uwch: https://www.qaa.ac.uk/docs/qaa/quality-code/qualifications-frameworks.pdf
4. Mae Datganiadau Meincnodi Pwnc yn rhan o’r Cod Ansawdd. Maent yn amlinellu disgwyliadau o ran safonau graddau mewn amrywiaeth o feysydd pwnc. Maent yn disgrifio’r hyn sy’n rhoi unoliaeth a hunaniaeth i ddisgyblaeth, ac yn diffinio’r hyn y gellir ei ddisgwyl gan raddedigion o ran y medrau a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn meithrin dealltwriaeth neu allu yn y pwnc: https://www.qaa.ac.uk/quality-code/subject-benchmark-statements
5. Mae’r ASA hefyd yn darparu nifer o ganllawiau eraill, er enghraifft yn ymdrin â meysydd megis dyfarnu credydau academaidd, cyfwerthedd cymwysterau ym mhob un o wledydd y DU, a sut mae oriau cyswllt ac asesu yn cyfrannu tuag at ansawdd eich addysg.
-
1.3 Pwyllgorau Academaidd
1. Yn unol â Siarter Frenhinol Atodol Prifysgol Aberystwyth, y Senedd yw awdurdod academaidd y Brifysgol a bydd yn atebol i’r Cyngor am swyddogaethau academaidd y Brifysgol mewn addysgu ac ymchwil ac am reoli buddiannau academaidd y myfyrwyr. Mae’r Ordinhadau yn amlinellu cyfansoddiad, pwerau a swyddogaethau’r Senedd. Ceir mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau, aelodaeth a phenderfyniadau’r Senedd ar yr is-dudalennau perthnasol.
2. Y Senedd sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod y Brifysgol yn glynu at God Ansawdd y DU, ac mae’n dirprwyo’r cyfrifoldeb am adrannau unigol i’r pwyllgorau academaidd canlynol: y Pwyllgor Ansawdd a Safonau, y Pwyllgor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr, y Pwyllgor Astudiaethau Cyfrwng Cymraeg a’r Pwyllgor Darpariaeth Gydweithredol. Mae cylch gorchwyl ac aelodaeth y cyrff hyn yn cael eu cyhoeddi ar-lein, ynghyd â siart o strwythurau’r pwyllgorau academaidd: https://www.aber.ac.uk/cy/governance/sub-committees/ Gall staff yn Aberystwyth hefyd gael mynediad i gylch gorchwyl y pwyllgorau, templedau ar gyfer cofnodion a phapurau pwyllgor, a manylion cyfarfodydd pwyllgor trwy dudalennau gwe’r Gofrestrfa Academaidd.
-
1.4 Swyddogion y Brifysgol gyda chyfrifoldebau Sicrwydd Ansawdd
1. Yr Is-Ganghellor yw prif swyddog academaidd a gweinyddol y Brifysgol ac mae’n gyfrifol am berfformiad cyffredinol y Brifysgol. Yr Is-Ganghellor yw Cadeirydd y Senedd.
2. Mae’r Dirprwy Is-Gangellorion, Dysgu ac Addysgu ac Ymchwil, yn aelodau allweddol o Grŵp Gweithredol y Brifysgol ac maent yn adrodd i’r Is-Ganghellor ar feysydd penodol eu cyfrifoldeb.
3. Dirprwy Is-Ganghellor pob Cyfadran sy’n gyfrifol am arwain y Gyfadran honno, ac mae’n atebol i’r Cyngor, trwy’r Is-Ganghellor. Mae’r Cyfadrannau yn hwyluso trefniadaeth a gwaith academaidd y Brifysgol.
Mae Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau yn gwneud gwaith cydlynu allweddol rhwng yr adrannau sy’n gweithredu yn eu meysydd diddordeb penodol hwy. Mae ganddynt hefyd y grym i weithredu ar faterion sy’n peri pryder, ar yr amod eu bod yn adrodd ynghylch hynny i’w cyfadrannau, pwyllgor(au) y gyfadran, y Dirprwy Is-Gangellorion Dysgu ac Addysgu ac Ymchwil, a’r Is-Ganghellor fel y bo’n briodol. Mae Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau yn cydweithio’n agos yn eu meysydd cyfrifoldeb ac yn trefnu, trwy gyfrwng y Gofrestrfa Academaidd, i drafod a gwneud argymhellion ar eitemau sy’n gyffredin i’r cyfadrannau. Yn hyn o beth cânt lawer o gymorth gan aelodau allweddol o staff cymorth y Gofrestrfa. Maent hefyd yn cwrdd yn rheolaidd i sicrhau bod y cyfadrannau’n ymdrin â materion sy’n ymwneud â myfyrwyr mewn modd cyson. Maent yn cael eu cefnogi yn eu swyddi gan Ddirprwy Is-gangellorion Cynorthwyol y Gyfadran, sydd â chyfrifoldebau penodol am Ddysgu ac Addysgu, Ymchwil a darpariaeth Gymraeg.
Bydd gan bob adran academaidd o fewn cyfadran Bennaeth sydd â swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol, gan gynnwys goruchwylio rhaglenni a strwythurau academaidd. Mae Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran a Dirprwy Is-Gangellorion Cynorthwyol y Gyfadran yn cael cymorth Rheolwr Cyfadran ac yn cael eu cynghori gan Bwyllgor Gweithredol, sy’n cynnwys aelodau o staff sy’n gyfrifol am feysydd allweddol megis Dysgu ac Addysgu, a Sicrhau a Gwella Ansawdd. Mae’n ofynnol i bob cyfadran gael pwyllgor ar lefel cyfadrannol sy’n ystyried materion academaidd. Amlinellir hyn yn Ordinhadau a Rheoliadau’r Brifysgol.
Penaethiaid Adrannau sy’n gyfrifol am reoli’r addysgu a’r ymchwil yn eu hadrannau o ddydd i ddydd, o fewn y canllawiau a bennwyd ar lefel y Brifysgol, gan gynnwys y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Mae gan yr Adrannau Gyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu a Chyfarwyddwyr Ymchwil penodedig sy’n adrodd i Bennaeth yr Adran ar y materion hyn. Mae’n ofynnol i bob adran gynnal cyfarfodydd adrannol sy’n cynnwys yr holl staff academaidd o leiaf unwaith y tymor i drafod materion academaidd. Ymhlith dibenion y cyfarfod mae:
(i) Bod yn gyfrwng ymgynghori â, a chynghori, Pennaeth yr Adran ar y modd y gweinyddir materion yr adran
(ii) Trafod y materion canlynol er mwyn hybu’r uchod:
- i’w gilydd natur a chynnwys cyrsiau
- dyrannu dyletswyddau addysgu a dyletswyddau eraill o fewn yr adran
- dyrannu arian ac ystafelloedd o fewn yr adran
- y defnydd o gymorth ysgrifenyddol, ymchwil a thechnegol.
Yn rhan o’r uchod, maent yn cael adroddiadau gan Bwyllgor Dysgu ac Addysgu yr Adran ac adroddiadau ar y monitro ffurfiol ar raglenni a gynhelir yn yr adran yn flynyddol, ac maent hefyd yn cofnodi’n ffurfiol adroddiadau Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr yr adran, sy’n fodd defnyddiol i’r staff a’r myfyrwyr roi adborth i’w gilydd.
4. Mae Pennaeth yr Academi Ddoethurol yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant Datblygu Ymchwilwyr trwy’r Brifysgol gyfan; y mae hefyd yn cydlynu’r gwaith o ddatblygu polisi ar faterion uwchraddedig, darparu cyfleusterau ar gyfer uwchraddedigion, a monitro recriwtio a chynnydd academaidd myfyrwyr uwchraddedig. Mae Pennaeth yr Academi Ddoethurol hefyd yn cymeradwyo enwebiadau ar gyfer arholwyr allanol ar raddau ymchwil.
5. Mae nifer o aelodau staff hŷn y Gofrestrfa Academaidd yn ymwneud â chynnal y gweithdrefnau sicrhau ansawdd, gan adrodd i Bennaeth y Gofrestrfa Academaidd. Mae’r Gofrestrfa Academaidd hefyd yn darparu cymorth ar lefel cyfadrannau.
-
1.5 Lefelau cyfrifoldeb ar lefel Prifysgol ac Athrofa
1. Er mwyn adlewyrchu strwythur y Brifysgol, ac i gydnabod swyddogaeth y cyfadrannau o ran sicrhau a gwella ansawdd, dirprwyir rhai swyddogaethau ansawdd i’r cyfadrannau, tra bod eraill yn cael eu cadw ar lefel y Brifysgol.
Prosesau ar lefel y Brifysgol
2. Mae Senedd y Brifysgol, y Pwyllgor Ansawdd a Safonau ac is-bwyllgorau eraill yn cadw’r cyfrifoldeb am y prosesau a’r gweithdrefnau sicrhau ansawdd canlynol:
(i) Datblygu a chymeradwyo fframweithiau, rheoliadau a gweithdrefnau academaidd
(ii) Adolygiad adrannol cyfnodol, gan gynnwys ailddilysu cyfnodol ar y ddarpariaeth
(iii) Adolygiadau cyfnodol o gynlluniau
(iv) Cymeradwyo penodiadau arholwyr allanol.
Prosesau ansawdd ar lefel y Cyfadrannau
3. Dirprwyir y cyfrifoldeb am y gweithdrefnau a’r prosesau canlynol i gyfadrannau, a’i gyflawni trwy weithdrefnau a phwyllgor y cyfadrannau:
(i) Gweithredu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau a gwella ansawdd o fewn cynlluniau astudio, gan gynnwys eu cynllunio, eu cymeradwyo, eu monitro a’u hadolygu
(ii) Ystyried y Monitro Blynyddol ar Gynlluniau trwy Gwrs
(iii) Atal cynlluniau, eu tynnu’n ôl a newid eu teitlau
(iv) Cymeradwyo modiwlau (goruchwylir y broses gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau)
(v) Ystyried adborth gan fyfyrwyr (trwy brosesau adborth a chynrychiolaeth myfyrwyr)
(vi) Achredu cynlluniau gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB).
-
1.6 Perthynas Deuluol a Phersonol a/neu Broffesiynol
1. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw berthynas bersonol a/neu broffesiynol a allai effeithio, neu y gellid credu ei bod yn effeithio, ar uniondeb cysylltiadau gwaith yn y Brifysgol.
2. Pan fo myfyriwr neu ymgeisydd:
(i) Yn frawd neu’n chwaer, yn rhiant, yn blentyn neu yn perthyn mewn ffordd arall i aelod o'r staff
neu
(ii) Yn bartner i neu mewn perthynas gydag aelod o'r staff
Ni chaiff yr aelod o'r staff fod yn unrhyw ran o’r dasg o dderbyn, goruchwylio nac asesu'r ymgeisydd/myfyriwr hwnnw. Y rheswm pennaf am hyn yw er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd/myfyriwr yn cael ei drin yn ddiduedd, gan gynnwys y posibilrwydd y byddai'r ymgeisydd/myfyriwr yn cael ei asesu yn fwy llym er mwyn pwysleisio'r bwriad o beidio â dangos ffafriaeth. Mae'n ffordd hefyd o amddiffyn aelodau o’r staff rhag cael eu cyhuddo o ddangos ffafriaeth ac yn osgoi unrhyw amheuaeth o ffafriaeth gan drydydd parti.
3. Rhaid i aelodau o staff ddatgan unrhyw berthynas o'r fath wrth eu rheolwr llinell cyn gynted ag y daw gwrthdaro posibl i'r amlwg, fel y gellir gwneud trefniadau i sicrhau nad ydynt yn ymwneud ag unrhyw weithgareddau lle ceir gwrthdaro buddiannau. Yn y cyd-destun hwn, mae 'aelodau o'r staff' yn cynnwys unrhyw un sydd dan gontract i wneud gwaith dysgu a gweithgareddau cysylltiedig, gan gynnwys myfyrwyr sydd â chytundebau rhan-amser, ac mae 'ymgeiswyr/myfyrwyr' yn cynnwys pob lefel astudiaeth hyd at, ac yn cynnwys, myfyrwyr ymchwil.
4. Caiff aelodau o'r staff hefyd ymgynghori â'r Rheolwyr ynglŷn â Pholisi Rheoli Gwrthdaro Buddiannau yn y Gweithle https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/managingofconflict/
-
1.7 Monitro ac Adolygu
1. Y Pwyllgor Ansawdd a Safonau sydd â’r awdurdod cyffredinol dros adolygu effeithiolrwydd prosesau sicrhau a gwella ansawdd y Brifysgol yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghod Ansawdd yr ASA. Mae’n bosibl y bydd y cyfrifoldeb dros gynnal ystyriaeth fanwl o’r prosesau hyn yn cael ei ddirprwyo i is-bwyllgorau’r Senedd fel y bo’n briodol. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn cyhoeddi fersiwn diwygiedig o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd ar ddechrau pob sesiwn academaidd.
2. Mae’r Gofrestrfa Academaidd yn croesawu sylwadau gan bob defnyddiwr ar gynnwys a diwyg y Llawlyfr hwn, a hynny er mwyn ei wella’n barhaus a datblygu fersiynau i’r dyfodol. Dylid anfon unrhyw sylwadau at: sicrhau-ansawdd@aber.ac.uk
-
1.8 Llawlyfr Ansawdd Academaidd 2025/2026: Crynodeb o’r Newidiadau Allweddol
Mae’r tabl canlynol yn rhestru’r newidiadau a wnaed ers cyhoeddi fersiwn 2024/25 o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd ym mis Medi 2024.
Adran Newid Dyddiad Rhan A a Rhan B LlAA wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu strwythurau diwygiedig pwyllgorau a chyfadrannau
Medi 2025 2. Datblygu ac Adolygu Diweddarwyd y broses cymeradwyo cynlluniau i adlewyrchu strwythur y pwyllgor newydd (2.3-2.8) Adran newydd ar gyfer cymeradwyo darpariaeth Dysgu Ar-lein/Dysgu o Bell a DPP (2.9)
Ebrill 2025 2. Datblygu ac Adolygu AMTS – AMTS1 ac AMTS2 wedi'u disodli gan Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR) sydd bellach yn cynnwys crynodeb o Adroddiadau Arholwyr Allanol, a 2.10 wedi'i ddiweddaru yn unol â hynny.
Medi 2025 Wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu cyflwyno Aber Ar-lein
3.2. 7. Ac eithrio lle pennir yn wahanol, ni ddylai traethawd hir neu gyflwyniad cyfatebol a gymeradwyir ar gyfer cwrs Meistr Uwchraddedig drwy Gwrs fod yn hwy na 15,000 o eiriau. Yn achos cynlluniau ar-lein gyda thraethawd hir 30 credyd, neu’r hyn sy’n cyfateb ac yn gymeradwyedig, rhaid iddo beidio â bod yn hwy na 10,000 o eiriau.Pwyllgor Ansawdd a Safonau Mai 2025
3. Asesu Cynlluniau trwy Gwrs 3.8 Amgylchiadau Arbennig ac Addasiadau Rhesymol
Pennod wedi'i diweddaru i adlewyrchu gweithdrefn newydd a chyflwyno trwy’r cofnod myfyriwr.
27. Dolen i'r Polisi Addasiadau Rhesymol wedi'i diweddaru: https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/theuniversity/policies/studentsupport/Policy-on-reasonable-adjustments-to-examinations---Welsh-(Tachwedd-'24).pdf
Medi 2025 3. Asesu Cynlluniau trwy Gwrs 3.9 Estyniad Gwaith Cwrs
Wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu man cyflwyno'r gyfadran ganolog estyniadau@aber.ac.uk, a therfyn amser ymateb o dri diwrnod
Medi 2025 4. Confensiynau Arholiadau 4.8 BSc Nyrsio (Oedolion) a BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl)
Diwygiad i drefniadau ailsefyll i ddileu'r cyfyngiad ar nifer y credydau y gellir eu hailadrodd yn y cyfnod asesu atodol ar gyfer myfyrwyr Nyrsio, ac eglurhad bod yr elfen Ymarfer Proffesiynol yn fodiwl pasio/methu, gyda dim ond un cyfle i ail-sefyll ac nid yw wedi'i chynnwys yn nosbarthiad y dyfarniad
Pwyllgor Ansawdd a Safonau Chwefror 2025 4. Confensiynau Arholiadau 4.10 Cynlluniau gradd Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng/MEng)
- adran newyddPwyllgor Ansawdd a Safonau Mai 2025 4. Confensiynau Arholiadau 4.12 Nyrsio Milfeddygol FDSC: Rheolau Cynnydd
Diweddarwyd y rheolau ar gyfer symud ymlaen i godi'r cyfyngiad ar nifer y credydau y gellid eu hail-sefyll yn y cyfnod asesu atodol (ar waith ar unwaith).
Eglurwyd y geiriad o ran nifer y cyfleoedd ail-sefyll.
Cyfeiriad at ddileu Drws Trugaredd Amgylchiadau Arbennig (yn unol â'r penderfyniad a wnaed yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol).Pwyllgor Ansawdd a Safonau Mai 2025 4. Confensiynau Arholiadau 4.18 Llechen Lân – dileu'r adran gan ei bod ond yn berthnasol i fyfyrwyr a ddechreuodd eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth fel myfyriwr cofrestredig CYN Medi 2016 ac a ymunodd â Rhan Dau CYN Medi 2017 yn unig.
Medi 2025 5. Arholi Allanol ar gyfer Cynlluniau trwy Cwrs Mân newidiadau i'r derminoleg
Medi 2025 6. Cymorth Myfyrwyr a Chynrychiolaeth Myfyrwyr Wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu cyflwyno Aber Ar-lein
6.5.6. Ni chaniateir i fyfyrwyr dynnu’n ôl y tu allan i’r cyfnod dysgu fel arfer. Bydd pob cais i dynnu’n ôl y tu allan i’r cyfnod dysgu yn cael ei ystyried a gall y dyddiad a ddefnyddir fel y dyddiad ar gyfer tynnu’n ôl amrywio o’r dyddiad a nodwyd gan y myfyriwr. Hyd at 10 diwrnod gwaith ymlaen llaw yn unig y gellir cofrestru dyddiadau tynnu’n ôl neu fe ellir eu hôl-ddyddio hyd at 10 diwrnod gwaith ar ôl cwblhau’r ffurflen Hysbysiad i Dynnu’n ôl ar lein. Dylai myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau Dysgu o Bell, gan gynnwys Aber Ar-lein, ofyn am arweiniad gan eu hadran os ydynt yn dymuno tynnu'n ôl dros dro neu gymryd cyfnod o absenoldeb.
Pwyllgor Ansawdd a Safonau Mai 2025 9. Dysgu ac Addysgu Adrannau 9.3 a 9.7 wedi'u diweddaru i adlewyrchu adolygiad o Drosglwyddo Credydau a Chydnabod Polisi
Dysgu Blaenorol mewn ymateb i Gyhoeddiad yr ASA: Achieving credit transfer at scale: An analysis of
UK university policies.
Pwyllgor Ansawdd a Safonau Mai 2025 Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol Modiwlar Cynlluniau gradd Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng/MEng)
Paragraffau 22b (dolen i Gonfensiynau Arholi pwrpasol), 30 (trosglwyddo credyd) a 34 (dyfarniadau ymadael) wedi'u diweddaru ar ôl cyflwyno Confensiynau Arholi pwrpasol ar gyfer cynlluniau gradd Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng/MEng).
Pwyllgor Ansawdd a Safonau Mai 2025 Rheoliadau ar gyfer Dyfarniadau Uwchraddedig Modiwlar trwy Gwrs Wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu cyflwyno Aber Ar-lein
9. Oni phennir i'r gwrthwyneb yn Rheoliad 21 isod, bydd y modiwlau a ddysgir yn cwmpasu gwerth 120 o gredydau a gymeradwyir gan y Brifysgol. Hefyd gall fod yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau cyfnod, neu gyfnodau, o hyfforddiant proffesiynol neu brofiad ymarferol. 60 credyd fydd gwerth elfen traethawd hir y cynllun, neu’r hyn sy’n cyfateb i hyn ac sy’n gymeradwyedig (gweler Rheoliad 21 isod). Yn achos rhai o’r cynlluniau ar-lein, gall modiwlau a addysgir gynnwys 150 o gredydau a gymeradwywyd gan y Brifysgol a bydd yr elfen traethawd hir, neu’r hyn sy’n cyfateb ac yn gymeradwyedig, yn werth 30 credyd. Amlinellir y trefniadau ar wahân ar gyfer MRes yn Rheoliad 22 isod.
13. Rhaid i'r traethawd hir neu'r dewis arall cymeradwyedig (gweler Rheoliad 21 isod) ymgorffori dulliau a chanlyniadau prosiect ymchwil. Rhaid iddo beidio â bod yn hwy na 15,000 o eiriau (neu 30,000 o eiriau ar gyfer ymgeisyddiaethau am radd MRes). Yn achos cynlluniau ar-lein gyda thraethawd hir 30 credyd, neu’r hyn sy’n cyfateb ac yn gymeradwyedig, rhaid iddo beidio â bod yn hwy na 10,000 o eiriau.
21. Gall y modiwl astudio annibynnol 60 credyd fod ar ffurf traethawd hir ond gellir ei gymeradwyo hefyd mewn ffurfiau eraill sy’n bodloni canlyniadau dysgu’r cynllun gradd ym marn Panel Cymeradwyo’r Cynllun. Er enghraifft, gall cynlluniau’r Celfyddydau Creadigol a Pherfformiadol fod ar ffurf arteffact, sgôr, portffolio o weithiau gwreiddiol, perfformiad neu arddangosiad, ynghyd â sylwebaeth ysgrifenedig sy’n ei osod yn ei gyd-destun academaidd, ac unrhyw eitemau eraill a all fod yn ofynnol (e.e. catalog neu recordiad sain neu weledol). Mae enghreifftiau cymeradwyedig eraill yn cynnwys cyflwyno dau adroddiad a/neu gyflwyniadau a asesir yn seiliedig ar bwnc y traethawd hir.
Atodiad
Tystysgrifau a Diplomâu Uwchraddedig
2. Gall ymgeiswyr hefyd ymgofrestru ar gyfer Tystysgrifau a Diplomâu Uwchraddedig amser llawn, rhan-amser neu trwy ddysgu o bell, pan fo hyn ar gael. Gall fod y rhain yn deillio o gynlluniau Meistr sy’n bodoli eisoes ac sy’n dwyn yr un teitl, neu fe allant fod wedi’u cymeradwyo yn ddyfarniadau annibynnol a enwir ar wahân.
3. Ni ddylai’r traethawd hir na’r hyn sy’n cyfateb iddo yn gymeradwyedig o raglen Meistr ffurfio Tystysgrif gyfan na rhan o Ddiploma. Os bydd Tystysgrif neu Ddiploma yn dwyn yr un teitl â chynllun Meistr ac yn seiliedig ar fodiwlau sydd ar gael fel rhan o’r cynllun Meistr, dylai strwythur y cynllun ddynodi pa fodiwlau y mae’n rhaid eu dilyn ac ym mha drefn.
Pwyllgor Ansawdd a Safonau Mai 2025 Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Gradd PhD (drwy Weithiau Cyhoeddedig) Gwneud cais
5. Bydd darpar ymgeiswyr am Radd PhD (drwy Weithiau Cyhoeddedig) yn nodi'r Adran fwyaf priodol yn y Brifysgol ar gyfer cofrestru, ac yn cyflwyno cais i'r Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion i ddatgan y pwnc y mae eu cyfraniadau at ysgolheictod wedi’u cysylltu agosaf ag ef, gan roi manylion y gwaith neu’r gweithiau cyhoeddedig y seilir eu cais am y radd arnynt. Wrth bwyso a mesur y cais, bydd yr Adran yn gofyn am farn staff a chanddynt arbenigedd perthnasol yn y pwnc, gan gynnwys darpar gynghorydd yr ymgeisydd, i ystyried y gweithiau a gyflwynwyd er mwyn penderfynu a oes achos prima facie, ai peidio, o blaid cyfeirio'r gweithiau i'w harholi, cyn derbyn yr ymgeisydd. Wrth ystyried y penderfyniad hwn, rhaid i adrannau fod ynargyhoeddedig, ymysg pethau eraill, y gellir asesu'r deunydd a gyflwynir (e.e. bod cofnod fideo llawn ar gyfer gweithiau celf perfformio) ac, yn achos deunyddiau a ysgrifennwyd ar y cyd, y gellir pennu union gyfraniad yr ymgeisydd. Rhaid ystyried materion o'r fath yn llawn cyn derbyn yr ymgeisydd a rhaid cyfeirio unrhyw geisiadau sy'n codi pryderon ynghylch dilysrwydd deunyddiau ar sail o'r fath at Bennaeth Ysgol y Graddedigion i gael penderfyniad terfynol ar dderbyn yr ymgeisydd.
Pwyllgor Ansawdd a Safonau Mai 2025 Rheoliadau Doethuriaethau Hŷn Rheoliadau wedi'u tynnu'n ôl
Pwyllgor Ansawdd a Safonau Mai 2025 Rheol Sefydlog 22 Rheoliadau wedi'u tynnu'n ôl
Pwyllgor Ansawdd a Safonau Mai 2025 Rheoliadau Cymeradwyo Cymwysterau a/neu Profiad Perthnasol Ar Gyfer Mynediad i Raddau Uwch, Diplomâu a Thystysgrifau Prifysgol Aberystwyth Adolygwyd a diwygiwyd yr adran ym Mehefin 2025 i sicrhau ei bod yn gyfredol ar ôl tynnu'r Polisïau a'r Telerau ac Amodau Derbyn Myfyrwyr o’r LlAA i'r tudalennau gwe Derbyn Myfyrwyr.
Pwyllgor Ansawdd a Safonau Mai 2025 Rheoliad ynghylch Ymddygiad Annerbyniol Diweddarwyd y bennod ar ôl adolygiad blynyddol o'r broses, a diweddarwyd y tabl o gosbau i adlewyrchu dull addysgol yn hytrach na chosbol ar gyfer achosion cyntaf / achosion bach. Mae'r bennod yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd gan gynrychiolydd TRACE a bydd yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir.
I’w gadarnhau Diweddarwyd: Tachwedd 2025
