Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Lliw

Does dim digon o gyferbyniad lliw ar rannau o’r testun ar y mwyafrif o’r tudalennau. Gall hyn olygu na all pobl â namau penodol ar eu golwg ddarllen y cynnwys hwn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1, sef Cyferbyniad (Lleiaf).

Ar rai tudalennau mae lliw’n cael ei ddefnyddio i ddangos bod cam wedi'i gwblhau. Gall hyn olygu na fydd pobl â namau penodol ar eu golwg yn gallu gweld a yw’r cam wedi'i gwblhau ai peidio. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.1 WCAG 2.1, sef Defnyddio Lliw

Ffurflenni

Nid yw’r labeli wedi’u gosod yn gywir ar rai meysydd. Gall hyn olygu nad yw'n glir i bobl sy’n llenwi'r ffurflen pa ddata y dylen nhw ei roi yn y maes. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef  Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Does dim priodweddau awtolenwi wedi’u diffinio ar gyfer rhai meysydd mewn ffurflenni. Gall hyn olygu ei bod yn anos i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata a ddylai gael ei roi yn y maes. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.5 WCAG 2.1, sef Adnabod Diben y Mewnbwn

Penawdau

Mae gan rai tudalennu nifer o benawdau lefel 1. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Mae rhai tudalennau'n sgipio un lefel pennawd. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Dolenni

Mae rhai o'n dolenni yn agor mewn ffenestr newydd yn y porwr. Gall hyn beri dryswch i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.2.5 WCAG 2.1, sef Newid ar Gais.

Mae gan rai tudalennau ddolenni sy’n defnyddio testun nad yw'n dweud wrth y defnyddiwr i ble y bydd y ddolen yn mynd â nhw. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1, sef Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun).

Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni sy’n defnyddio'r un testun. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1, sef Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun).

Tablau

Ar rai tudalennau, mae tablau sydd heb benawdau. Gall hyn olygu ei bod yn anos i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata sydd yn y tabl. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Baich anghymesur

Mae sawl mater hygyrchedd yn bresennol yn y porth llety presennol, lle byddai angen gwneud cryn dipyn o waith i’w datrys. Rydym yn anelu at ddisodli'r porth yn y dyfodol agos, ac felly byddai manteision gwella’r system bresennol yn fach, a thros dro yn unig y bydden nhw’n para. Rydym yn credu y byddai gwneud y gwelliannau hyn nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn sicrhau bod y system newydd yn hygyrch.

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydyn ni wrthi’n gweithio i gyflwyno system lety newydd, a fydd yn cynnwys gwelliannau hygyrchedd o’i gymharu â fersiwn cyfredol y porth. Yn y cyfamser, byddwn yn diweddaru'r templed a ddefnyddir gan y system bresennol i sicrhau’r gwelliannau hygyrchedd rydyn ni wedi'u gwneud i'n prif wefan.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn 

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 10/9/20. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 10/9/20.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 10/9/20. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw ac awtomataidd.