Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd yr ap hwn

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei apiau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r ap hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae rhai teils yn yr ap yn defnyddio lluniau nad oes ganddynt destun amgen. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth ynddynt ar gael i ddefnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun) CHCG 2.1.

Nid oes enwau gan rai teils ac eiconau yn yr ap. Golyga hyn na fydd defnyddwyr sy'n defnyddio lleferydd i destun yn gallu cael mynediad iddynt. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.5.3 (Labelu Enw) CHCG 2.1.

Mae rhai eiconau a botymau yn yr ap yn rhy fach. Golyga hyn y gallai fod yn anodd i rai defnyddwyr eu hysgogi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.5.5 (Maint Targed (AAA)) CHCG 2.1.

Nid oes gan rai teils yn yr ap gyferbyniad digonol rhwng lliw'r testun a lliw'r cefndir. Golyga hyn fod y testun yn anodd ei ddarllen i ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG 2.1.

Mae rhai teils yn yr ap wedi'u marcio fel botymau ond nid oes gweithred yn gysylltiedig â hwy. Mae hyn yn ddryslyd i'r holl ddefnyddwyr oherwydd maent yn disgwyl gweithred wrth ysgogi'r botwm.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth) CHCG 2.1.

Nid oes gan rai teils a dolenni yn newislen yr ap enwau na thestun cyswllt. Golyga hyn nad yw defnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gwybod beth mae pob un o'r teils neu'r eitemau ar y ddewislen yn ei wneud. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1.

Baich anghymesur

Yn fuan byddwn yn symud i Fersiwn 3 o MyDay, y fersiwn ddiweddaraf o'r ap hwn, a ddarperir gan Collabco. Golyga fod y manteision o wneud gwelliannau i'r fersiwn gyfredol o'r ap yn fach a byrhoedlog.  Credwn y byddai gwneud y gwelliannau hyn nawr yn faich anghyfartal o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn uwchraddio i'r fersiwn ddiweddaraf o'r ap hwn a byddwn yn sicrhau bod unrhyw addasiadau yn hygyrch.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 8 Mehefin 2021. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 8 Mehefin 2021.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 1 Mehefin 2021. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw ac awtomataidd.