Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Lliw

Does dim digon o gyferbyniad lliw ar rannau o’r testun ar rai tudalennau. Gall hyn olygu na all pobl â namau penodol ar eu golwg ddarllen y cynnwys hwn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1, sef Cyferbyniad (Lleiaf). Bydd y system Cwestiynau Cyffredin yn cael ei diweddaru i ddefnyddio’n CSS diweddaraf a fydd yn datrys y mwyafrif o'r materion hyn sy'n ymwneud â chyferbyniad lliw.

Penawdau

Mae rhai tudalennau'n sgipio un lefel o benawdau. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd. Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin newydd, byddwn yn sicrhau bod penawdau'n cael eu gosod yn y drefn gywir. Byddwn yn gweithio’n ffordd drwy'r Cwestiynau Cyffredin, gan ddiweddaru’r tudalennau i gywiro trefn y penawdau.

Delweddau

Mae rhai delweddau heb destun fel dewis amgen. Mae hyn yn golygu nad yw'r wybodaeth yn y delweddau ar gael i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1, sef Cynnwys Annhestunol. Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin newydd, byddwn yn sicrhau bod gan bob delwedd destun amgen. Byddwn yn gweithio’n ffordd drwy'r Cwestiynau Cyffredin, gan ychwanegu testun amgen priodol at y delweddau presennol

Dolenni

Mae gan rai tudalennau ddolenni sy’n defnyddio testun nad yw'n dweud wrth y defnyddiwr i ble y bydd y ddolen yn mynd â nhw. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun). Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin newydd, byddwn yn sicrhau bod yr holl destun mewn dolenni’n ddefnyddiol ac nad yw'n dibynnu ar y cyd-destun. Byddwn yn gweithio’n ffordd drwy'r Cwestiynau Cyffredin, gan ddiweddaru testun dolenni yn ôl yr angen.

Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni sy’n defnyddio'r un testun. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1, sef Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun). Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin newydd, byddwn yn sicrhau nad ydym yn defnyddio’r un testun ar gyfer nifer o ddolenni. Byddwn yn gweithio’n ffordd drwy'r Cwestiynau Cyffredin, gan ddiweddaru testun dolenni yn ôl yr angen.

Tablau

Ar rai tudalennau, mae tablau lle nad oes gan benawdau'r tabl y set rhychwantau gywir. Gall hyn olygu ei bod yn anos i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata sydd yn y tabl. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd. Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin newydd, byddwn yn sicrhau bod penawdau tablau'n cael eu defnyddio’n gywir. Byddwn yn gweithio’n ffordd drwy'r Cwestiynau Cyffredin, gan ddiweddaru penawdau’r tablau presennol.

Testun

Nid yw rhai rhestrau bwled wedi'u fformatio'n gywir ac mewn gwirionedd maent yn gasgliad o restrau ar wahân yn hytrach nag un rhestr lawn. Gall hyn beri dryswch a phoendod i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd. Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin newydd, byddwn yn sicrhau bod rhestrau bwled yn cael eu fformatio'n gywir. Byddwn yn gweithio drwy'r Cwestiynau Cyffredin yr effeithir arnynt i gywiro hyn.

Baich anghymesur

Mae sawl mater hygyrchedd yn bresennol yn y porth llety presennol, lle byddai angen gwneud cryn dipyn o waith i’w datrys. Rydym yn anelu at ddisodli'r porth yn y dyfodol agos, ac felly byddai manteision gwella’r system bresennol yn fach, a thros dro yn unig y bydden nhw’n para. Rydym yn credu y byddai gwneud y gwelliannau hyn nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn sicrhau bod y system newydd yn hygyrch.

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydyn ni wrthi’n gweithio’n ffordd drwy'r materion a nodwyd er mwyn gwella’n Cwestiynau Cyffredin. Y flaenoriaeth gychwynnol fydd ychwanegu testun amgen at ddelweddau a diweddaru’r dolenni fel ei bod yn glir i ble maen nhw'n mynd â’r defnyddwyr.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn 

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 10/9/20. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 10/9/20.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 10/9/20. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw ac awtomataidd.