Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Animeiddio

Mae gan y tudalen hafan sioe sleidiau â delweddau sy'n ymyrryd â gallu darllenwyr sgrin i ddarllen y testun ar y tudalen. Mae hyn yn golygu nad yw'r cynnwys yn gwneud synnwyr i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin. Nid yw hyn yn bodloni gofyniad cydymffurfio 5.2.5 WCAG 2.1, sef Peidio ag Ymyrryd.

Mae gan y tudalen hafan sioe sleidiau â delweddau sy'n symud yn awtomatig. Does dim modd rhewi’r animeiddiad. Gall hyn dynnu sylw rhai pobl yn ddybryd a’i gwneud yn anodd iddyn nhw gyrchu’r wybodaeth ar y sleidiau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.2.2 WCAG 2.1, sef Rhewi, Stopio, Cuddio.

Lliw

Does dim digon o gyferbyniad lliw ar rannau o’r testun. Gall hyn olygu na all pobl â namau penodol ar eu golwg ddarllen y cynnwys hwn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1, sef Cyferbyniad (Lleiaf).

Dogfennau

Ar ffurf PDF yn unig y mae dogfennau ar gael. Gall hyn olygu nad yw pobl yn gallu chwyddo’r testun yn y ddogfen heb orfod sgrolio o'r chwith i'r dde i'w ddarllen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.10 WCAG 2.1, sef Ail-lifo.

Nid yw rhai o’r dogfennau sydd ar gael ar ein gwefan yn hygyrch am eu bod heb destun amgen ar ddelweddau, heb eu strwythuro'n gywir neu am fod yna broblemau ynglŷn â thablau, penawdau a rhestrau. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Ffurflenni

Mae rhai ffurflenni sydd heb labeli wedi'u gosod yn gywir ar gyfer rhai meysydd ac sy’n defnyddio dalfan yn hytrach na label. Gall hyn olygu nad yw'n glir i bobl sy’n llenwi'r ffurflen pa ddata y dylen nhw ei roi yn y maes. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Penawdau

Mae gan rai tudalennu nifer o benawdau lefel 1. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Mae rhai tudalennau'n sgipio un lefel pennawd. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Mae yna destun sy'n cael ei dagio fel pennawd, ond nad yw'n cael ei ddefnyddio fel pennawd. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Tirnodau

Mae rhywfaint o’r cynnwys ar ein tudalennau y tu allan i unrhyw dirnod. Gallai hyn beri dryswch i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.1 WCAG, sef Osgoi Rhwystr.

Mae yna lawer o brif dirnodau. Gallai hyn beri dryswch i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Dolenni

Mae gan rai tudalennau ddolenni sy’n defnyddio testun nad yw'n dweud yn glir wrth y defnyddiwr i ble y bydd y ddolen yn mynd â nhw. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1, sef Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun).

Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni sy’n defnyddio'r un testun. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1, sef Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun).

Rhestrau

Mae rhestrau sy'n cynnwys un eitem yn unig. Mae hyn yn golygu y gall y rhestrau beri dryswch i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Testun

Does dim modd gwrth-wneud uchder llinell y testun. Mae hyn yn golygu bod pobl sydd angen newid y bylchau rhwng llinellau’r testun yn methu gwneud hynny. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.12 WCAG 2.1, sef Bylchu’r Testun.

Baich anghymesur

Mae sawl mater hygyrchedd yn bresennol yn y porth llety presennol, lle byddai angen gwneud cryn dipyn o waith i’w datrys. Rydym yn anelu at ddisodli'r porth yn y dyfodol agos, ac felly byddai manteision gwella’r system bresennol yn fach, a thros dro yn unig y bydden nhw’n para. Rydym yn credu y byddai gwneud y gwelliannau hyn nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn sicrhau bod y system newydd yn hygyrch.

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydyn ni’n gweithio i wneud gwelliannau i'n tudalennau swyddi gwag mewn cydweithrediad â'r cwmni sy'n gyfrifol am y system (Hireserve).

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn 

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 21/9/20. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 21/9/20.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 21/9/20. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw ac awtomataidd.