Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Lliw

Does dim digon o gyferbyniad lliw mewn rhywfaint o’r testun. Mae hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o ddolenni ar rai blogiau, gan ddibynnu ar y thema blog sy'n cael ei defnyddio. Gall hyn olygu na all pobl â nam ar eu golwg ddarllen y testun. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1, sef Cyferbyniad (Lleiaf).

Penawdau

Mae gan rai tudalennau nifer o benawdau lefel 1. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Mae rhai tudalennau'n sgipio un lefel o benawdau. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Delweddau

Mae rhai delweddau heb destun fel dewis amgen. Mae hyn yn golygu nad yw'r wybodaeth yn y delweddau ar gael i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1, sef Cynnwys Annhestunol.

Dolenni

Mae gan rai penawdau, sydd hefyd yn ddolenni, deitlau, felly mae’r testun yn cael ei ddarllen ddwywaith gan Ddarllenwyr Sgrin. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1, sef Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun).

Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni sy’n defnyddio'r un testun. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1, sef Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun).

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn ymchwilio i themâu gwahanol yn WordPress a allai fod yn fwy hygyrch. Rydyn ni hefyd yn gwirio dogfennau i weld a oes modd gwneud newidiadau mwy sylfaenol i safleoedd blog, gan gynnwys atal teitlau blog rhag bod yn bennawd lefel 1 a newid sut mae teitlau’n cael eu defnyddio ar ddolenni sydd eisoes yn cynnwys testun. Efallai na fydd yn bosibl gwella’r hygyrchedd ym mhob maes, gan ddibynnu ar gyfyngiadau'r feddalwedd. 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn 

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 3/9/20. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 3/9/20.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 3/9/20. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw ac awtomataidd.