Amdano'r Llety

Pryd fyddaf i'n gwybod ble byddaf yn byw?

Byddwch yn gallu dewis eich ystafell tra'ch bod yn archebu llety.

 

 

A gaf fi fyw gyda ffrindiau?

Gallwch ddewis ystafell yn yr un fflat â'ch ffrindiau.

A allaf weld fy ystafell cyn symud i mewn?

Yn anffodus, ni allwch weld eich llety cyn symud i mewn oherwydd ni fyddwch yn gwybod eich union gyfeiriad nes y byddwch yn cyrraedd.

I weld ein hystod o lety, ewch i’r dudalen dewisiadau llety i weld lluniau/teithiau rhithwir ohonynt, neu dewch i un o’n diwrnodau agored ble gallwch weld y llety eich hun.

 

Am ba hyd y mae fy Nghontract Meddiannaeth?

Mae hyd pob contract yn dibynnu ar y math o fyfyriwr ydych chi a'r breswylfa rydych chi'n ei ddewis (e.e. myfyrwyr semester 1)

I ddod o hyd i hyd eich Contract, mewngofnodwch i'r Porth Llety.

Beth sy’n cael ei ddarparu yn fy llety?

Mae’r hyn sy’n cael ei gynnwys yn y llety yn amrywio yn ôl pob neuadd.

Edrychwch ar y wybodaeth am y Dewisiadau Llety i gael manylion penodol.

Fydd angen yswiriant cynnwys arnaf?

Mae yswiriant cynnwys personol wedi ei gynnwys yn eich ffi llety. Fodd bynnag, ni fydd ond yn ymdrin â nifer penodol o eitemau.

I gael rhagor o wybodaeth am beth sydd wedi’i gynnwys, neu sut i ychwanegu eitemau ychwanegol, gweler ein tudalen yswiriant cynnwys personol.

 

 

 

A fydd arnaf angen trwydded Deledu?

Mae arnoch angen trwydded deledu er mwyn gwylio neu recordio rhaglenni teledu byw ar unrhyw sianel, neu lawrlwytho neu wylio rhaglenni’r BBC ar iPlayer. 

Os yw eich llety yn cynnwys teledu sydd wedi’i ddarparu gennym ni, byddwn ni’n darparu’r drwydded deledu felly nid oes angen ichi bryderu. 

Os teimlwch nad oes angen trwydded deledu arnoch, rhaid ichi ddatgan y wybodaeth hon ar wefan TV Licensing.