Clirio

A fydd llety ar gael i fyfyrwyr Clirio?

Gwarentir llety i fyfyrwyr clirio os ydych chi’n gwneud cais erbyn y 1af o Fedi yn y flwyddyn mynediad ac yn derbyn y cynnig o lety a wneir i chi erbyn y dyddiad cau a nodir yn y Cynnig Llety. 

Nodwch fod lle mewn llety dan berchenogaeth neu lety dan reolaeth Prifysgol wedi'i warantu, ond nid math penodol o ystafell neu leoliad - gweler ein polisi blaenoriaethau ar gyfer gwybodaeth ychwanegol

Sut / pryd ydw i'n gwneud cais am lety?

Ar ôl i chi gael cadarnhad o le i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd y Swyddfa Llety’n cysylltu â chi i’ch gwahodd i wneud cais am lety. Byddant yn cysylltu â chi drwy e-bost felly os ydych eisoes wedi ysgogi eich cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei wirio’n rheolaidd.

Bydd y gwahoddiad yn rhoi gwybodaeth i chi am sut i wneud cais. Byddwch angen eich rhif adnabod personol UCAS 10 digid, cyfenw a dyddiad geni i fewngofnodi a gwneud cais am lety. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar – Sut i wneud Cais.

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi wneud cais am lety?

Mae Llety yn cael ei ddyrannu yn gyfrifiadurol ar sail ‘y cyntaf i’r felin’, yn nhrefn y dyddiad a’r amser y cyflwynoch eich cais am lety yn llwyddiannus. 

Anfonir cynigion llety yn ddyddiol wrth i ymgeiswyr fodloni telerau eu cynigion, yn nhrefn blaenoriaethau a nodir yn ein Polisi Blaenoriaethau. Mae gennym hefyd ganllaw cam-wrth-gam hwylus ar Beth fydd yn digwydd nesaf ar ôl gwneud cais am lety.

Sut ydw i’n rhoi fy nghyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth ar waith?

Bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon cyfarwyddiadau llawn yn dangos i chi sut i wneud hyn yn fuan ar ôl i’ch lle gael ei gadarnhau. Dylech roi eich cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth ar waith cyn gynted ag y gofynnir i chi wneud hynny. Bydd hyn yn sicrhau nad fydd unrhyw oedi wrth sicrhau eich llety. Ar ôl i chi ddechrau defnyddio eich cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth, anfonir pob gohebiaeth i’r cyfeiriad hwnnw yn unig ac mae’n bwysig felly eich bod yn cadw golwg arno yn rheolaidd.

Pam na roddwyd fy newis cyntaf o lety i mi?

Byddwn yn neilltuo lle i chi yn y neuaddau, gan gymryd i ystyriaeth eich blaenoriaethau chi, a byddwn yn ceisio cynnig un o’ch dewisiadau uchaf i chi. Serch hynny, oherwydd bod y neuaddau yn amrywio o ran y nifer o leoedd sydd ynddynt, ac oherwydd bod rhai yn fwy poblogaidd na’i gilydd, ni allwn addo y cewch eich rhoi yn un o’ch dewisiadau uchaf. Os nad oes lle ar gael yn eich dewis cyntaf, byddwn yn ystyried eich dewisiadau eraill yn nhrefn eich blaenoriaethau nes ein bod yn dod o hyd i le gwag i chi.

Noder – mai rhai myfyrwyr yn cael blaenoriaeth ac mae’n bosib y bydd eu llety nhw wedi cael ei glustnodi fel blaenoriaeth uwch na chi, yn unol â’n Polisi Blaenoriaethau.  

A oes modd newid neuadd os nad wyf yn hapus â’r cynnig?

Os nad ydych yn hapus â’ch cynnig llety, cysylltwch â’r Swyddfa Llety fel bod modd i aelod o’r tîm edrych i weld a oes lleoedd ar gael yn un o’r neuaddau eraill.                                        

Beth fydd yn digwydd os byddaf ar wyliau pan fyddwch yn anfon fy nghynnig llety ataf?

Bydd eich cynnig o lety yn cael ei anfon atoch yn electronig a dylai'r mwyafrif o leoedd gynnig cysylltiad rhyngrwyd er mwyn i chi wirio'ch e-byst yn rheolaidd. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw broblemau, yna cysylltwch â'r Swyddfa Llety.

Faint yw’r Ffi Dderbyn?

 Y Ffi Dderbyn yw £100, a fydd yn daladwy drwy gerdyn credyd/debyd trwy ein system dalu ar-lein.

Pryd fydd angen i mi dalu’r Ffi Dderbyn?

Ar ôl i chi dderbyn eich cynnig llety, gofynnir i chi gwblhau’r Contract Meddiannaeth erbyn y dyddiad cau penodedig. Bydd yn ofynnol i chi dalu’r Ffi Dderbyn, ynghyd â chytuno â thelerau ac amodau eich Contract Meddiannaeth, trefnu cynllun talu ar gyfer eich ffioedd llety, a chwblhau ein rhaglen gyflwyno cyn cyrraedd (sy’n cynnwys dewis dyddiad ac amser cyrraedd).

A allaf wneud cais i fyw yn yr un fflat/tŷ gyda fy ffrind sydd hefyd yn dod i Brifysgol Aberystwyth?

Gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwch yn rhannu eich llety â myfyrwyr blwyddyn gyntaf eraill, a byddem felly yn eich annog i fanteisio ar y cyfle i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Serch hynny, os ydych yn adnabod rhywun sydd wedi cael cynnig lle yn yr un llety â chi, gallwch lenwi ffurflen i wneud cais i fyw gyda ffrindiau. 

Os hoffech gysylltu gyda'ch ffrindiau fflat newydd, bydd cyfle i chi rannu eich manylion ar y cyfryngau cymdeithasol fel y gallwch wneud cysylltiadau cyn i chi gyrraedd.

Dim ond gyda'ch cyd-letywyr y bydd eich manylion yn cael eu gweld a'u rhannu. Does dim rhaid i chi rannu eich manylion os nad ydych chi eisiau, a gallwch eu diweddaru neu eu dileu ar unrhyw adeg.

Gallwch hefyd dewis ystafell yn yr un fflat â'ch ffrind, os oes digon o le.

Pryd fydda i’n gwybod pa ystafell y byddaf yn byw ynddo?

Cewch wybod pa fflat/tŷ y byddwch yn byw ynddo a rhif eich ystafell pan fyddwch yn dewish eich ystafell ar y Porth Llety.

Pryd byddaf yn gallu symud i mewn?

Mae ein tudalen Symud i Mewn yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â phryd y gallwch symud i fewn.

O ble ydw i’n nôl fy allwedd?

Gweler ein tudalen Symud i Mewn am wybodaeth am beth i ddod gyda chi, gan gynnwys rhestr wirio cyn cyrraedd a manylion am pryd ac o ble i nôl allwedd eich ystafell.