Symud Allan

A allaf symud allan gynnar?

Gallwch symud allan o’ch llety cyn diwedd eich Contract, ond, bydd rhaid i chi barhau i dalu tan ddiwedd eich Contract a chi fydd yn dal i fod yn gyfrifol am lendid unrhyw ardaloedd cymunedol.

 

Beth sy’n digwydd os wyf fi’n ymadael â’r brifysgol?

Dim ond lle i fyfyrwyr cofrestredig sydd gennym yn llety’r Brifysgol. Felly, os ydych chi’n penderfynu ymadael â’r Brifysgol mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Llety ar unwaith yn ogystal â llenwi’r ffurflenni ymadael angenrheidiol gan Cymorth i Fyfyrwyr a’ch Adran Academaidd (os yw’n berthnasol).

Ni allwn eich rhyddhau o’ch contract llety nes ein bod wedi cael cadarnhad gan y Swyddfa Academaidd eich bod wedi ymadael. Byddwch wedyn yn gorfod talu tan y dyddiad y gwnaethoch symud allan / cael eich ad-dalu am unrhyw ffioedd ychwanegol yr ydych wedi’u talu (pan fo’n berthnasol). Os ydych chi’n gadael eich ystafell heb roi gwybod i ni neu fod eich cais i dynnu allan yn cael ei wrthod, byddwch yn parhau i orfod talu am eich llety.

 

A oes rhaid imi symud allan dros y Nadolig a'r Pasg?

Os ydych wedi archebu ystafell ym Mhantycelyn bydd rhaid symud allan dros y Nadolig a'r Pasg.

Os ydych wedi archebu ystafell mewn unrhyw Neuadd arall, cewch aros yn eich llety am gyfnod llawn eich Contract ac nid oes raid i chi symud allan nes bod eich Contract wedi gorffen. I wirio pryd mae eich Contract yn gorffen, mewngofnodwch i’r Porth Llety.

 

A allwch chi roi cyfeiriad imi ar gyfer fy landlord newydd?

Nid ydym yn rhoi geirda i unrhyw fyfyriwr; ond gallwch ddarparu copi o’ch Contract Meddiannaeth i roi tystiolaeth o hyd eich trwydded, trwy fewngofnodi i’r Porth Llety.