Dysgu, gloywi a mentora i staff

Mae cynnig cyfleoedd ac anogaeth i staff ddysgu a gloywi’r Gymraeg yn rhan bwysig o genhadaeth y Ganolfan. Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau bod staff yn cael siawns i ddefnyddio’r Gymraeg, boed yn ddysgwyr neu’n siaradwyr rhugl. Ceir amserlen lawn a gwybodaeth am y cyrsiau Cymraeg sydd ar gael yn y gymuned ar wefan Dysgu Cymraeg.

Rydym hefyd yn trefnu sesiynau blasu byr yn achlysurol sydd wedi eu teilwra i anghenion adrannau penodol neu i garfannau penodol o staff. Cysylltwch â’r Ganolfan (canolfangymraeg@aber.ac.uk) os hoffech ragor o wybodaeth am hyn.

Os ydych yn aelod o staff yn y Brifysgol ac yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau yn y Gymraeg ar gyfer y gweithle, gellir cofrestru ar gwrs Cymraeg Gwaith fel rhan o gynllun sydd wedi ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd y cyrsiau hyn ar amrywiaeth o lefelau o ddechreuwyr hyd lefel Uwch yn cael eu cynnal ar Zoom gyda chyfleoedd i gwrdd wyneb yn wyneb ar y campws ar adegau. Bydd cyrsiau hunan-astudio ar-lein hefyd ar lefel Mynediad a Sylfaen. Noder y bydd angen i chi gael caniatâd rheolwr llinell cyn cofrestru.

Diddordeb?

Os oes diddordeb gennych gofrestru neu am drafod cyrsiau posib arall cysylltwch ag Olwen Morus: olm25@aber.ac.uk.

Os ydych chi yn aelod o staff sy’n dysgu Cymraeg ac am ymarfer sgwrsio, beth am fynychu’r sesiynau canlynol?  Maent am ddim ac yn hollol anffurfiol yn y lleoliadau canlynol:  

Lefel Lleoliad Amser Dyddiad

Pob lefel

Bar top, Canolfan y Celfyddydau

1–1.30 pm

Dydd Iau 22 Mai 2025

Dydd Iau 5 Mehefin 2025

Dydd Iau 19 Mehefin 2025

Dydd Iau 3 Gorffennaf 2025

Pob lefel

Y Neuadd Fwyd

1.00-2.00 pm

Dydd Mawrth 13 Mai 2025

Dydd Mawrth 3 Mehefin 2025

Dydd Mawrth 24 Mehefin 2025

Dydd Mawrth 15 Gorffennaf 2025

Dewch draw am sgwrs!

Am fwy o fanylion am gyrsiau Cymraeg yn y Gweithle cysylltwch gydag: olm25@aber.ac.uk

Mae’r Ganolfan yn cydweithio â’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd i ddarparu’r cynllun hwn ac yn trefnu bod siaradwyr Cymraeg rhugl yn gweithredu fel mentor i ddysgwyr er mwyn rhoi’r cyfle iddynt siarad Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol ac anfygythiol.

Canllawiau Cynllun Mentora (Dysgwyr)

Canllawiau Cynllun Mentora (Mentoriaid)

Cysylltwch â’r Ganolfan ar canolfangymraeg@aber.ac.uk os ydych yn ddysgwr sydd â diddordeb yn y cynllun neu yn siaradwr Cymraeg rhugl sy’n awyddus i fod yn fentor.

Mae gan y Ganolfan drefn o dalu am ffioedd staff sy’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg a drefnir gan Dysgu Cymraeg.

Rhaid llenwi Ffurflen Hawlio Ffioedd Dysgu Cymraeg a'i hanfon at Ganolfan Gwasanaethau'r Gymraeg er mwyn i'r ffioedd gael eu talu.

NODYN PWYSIG: Bydd disgwyl i chi ad-dalu'r ffioedd i'r Brifysgol os nad ydych yn cwblhau'r cwrs.
(Mynychu'r 3 thymor gan gynnwys o leiaf un sesiwn o fewn 4 wythnos olaf y cwrs)