Gwybodaeth i fyfyrwyr am ddysgu Cymraeg a gloywi iaith

Mae sawl ffordd o ddysgu Cymraeg fel myfyriwr yn y Brifysgol. Bellach, mae cyrsiau Cymraeg y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am ddim i’r rheiny rhwng 16 a 25 mlwydd oed. Darperir y cyrsiau’n lleol gan dîm Dysgu Cymraeg Ceredigion Powys a Sir Gâr a leolir yn y Brifysgol.

Modiwlau i ddechreuwyr

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn cynnig dau fodiwl i ddechreuwyr:

Mae'n bosib y bydd yn opsiwn ichi ddilyn y modiwlau hyn ar eich cynllun gradd er eich bod chi'n astudio mewn adran arall.  Bydd angen ichi drafod hyn â'ch adran wrth gofrestru.

Gwersi Cymraeg i oedolion

Gallwch ymuno ag un o ddosbarthiadau dysgu Cymraeg y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a redir yn lleol gan dîm Dysgu Cymraeg Ceredigion Powys a Sir Gâr a leolir yn y Brifysgol. Ceir dosbarthiadau yn ystod y dydd a'r hwyrnos a gallwch ddewis rhwng cwrs dwys o ddwy awr ddwywaith yr wythnos, neu, yn fwy hamddenol, un wers ddwy awr yr wythnos. Mae’r cyrsiau am ddim i bobl rhwng 16 a 25 mlwydd oed a ceir hefyd ffioedd gostyngedig i fyfyrwyr. Mae’r dosbarthiadau ar gael i siaradwyr ar bob lefel o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl.  Cysylltwch â dysgucymraeg@aber.ac.uk neu 0800 876 6975 am ragor o wybodaeth.

Gwersi UMCA

Gallwch ddilyn y ffordd fwy anffurfiol o ddysgu Cymraeg drwy ymuno â dosbarthiadau UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) sydd am ddim.  Dysgir y dosbarthiadau gan fyfyrwyr o'u gwirfodd.  Mae hyn yn ffordd wych i gwrdd â myfyrwyr eraill sy'n siarad neu'n dysgu Cymraeg.  Mae dosbarthiadau ar gael ar sawl lefel.  Cysylltwch ag umca@aber.ac.uk am ragor o wybodaeth. 

Gwella eich Cymraeg

Efallai astudioch chi drwy'r Gymraeg neu ddilyn cwrs Cymraeg Ail Iaith yn yr ysgol ond eich bod chi wedi colli hyder neu'n ofni eich bod wedi anghofio yr hyn a ddysgoch chi.  Mae sawl opsiwn ar gael.

Modiwlau Cymraeg ail iaith

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn cynnig nifer o fodiwlau i fyfyrwyr ail iaith sy'n datblygu eu sgiliau ysgrifennu a llafar yn Gymraeg, megis:

  • CY11620 - Trafod y Byd Cyfoes trwy'r Gymraeg
  • CY11700 - Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Mae'n bosib y bydd yn opsiwn ichi ddilyn y modiwlau hyn ar eich cynllun gradd er eich bod chi'n astudio mewn adran arall.  Bydd angen ichi drafod hyn â'ch adran wrth gofrestru.

Modiwlau Cymraeg iaith gyntaf

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn cynnig nifer o fodiwlau gloywi iaith i fyfyrwyr iaith gyntaf, megis:

Mae'n bosib y bydd yn opsiwn ichi ddilyn y modiwlau hyn ar eich cynllun gradd er eich bod chi'n astudio mewn adran arall.  Bydd angen ichi drafod hyn â'ch adran wrth gofrestru.

Cyrsiau Gloywi Iaith

Gallwch ymuno ag un o ddosbarthiadau gloywi iaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a redir yn lleol gan dîm  a leolir yn y Brifysgol. Ceir dosbarthiadau yn ystod y dydd a'r hwyrnos.  Cysylltwch â dysgucymraeg@aber.ac.uk neu 0800 876 6975 am ragor o wybodaeth.

Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae’r Dystysgrif Sgiliau Iaith wedi ei datblygu er mwyn galluogi myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru i ennill tystysgrif sy’n dangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith, a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. I baratoi myfyrwyr at y dystysgrif, mae Tiwtor Sgiliau Iaith ar gael sy'n cynnig sesiynau grŵp gloywi iaith am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn y meysydd canlynol:

  • Gwallau iaith cyffredin
  • Trawsieithu
  • Gwneud cyflwyniadau llafar
  • Ysgrifennu rhydd

Mae’r tiwtor hefyd yn gallu darparu cymorth un wrth un. Mae'r sesiynau grŵp a'r cymorth un wrth un yn agored i bob myfyriwr boed yn bwriadu sefyll y dystysgrif ai peidio. Yn ogystal, mae cyfres o adnoddau i ddatblygu sgiliau iaith ar gael ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cysylltwch â'r Tiwtor Sgiliau Iaith am ragor o wybodaeth ar sgiliau@aber.ac.uk.