Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2025-26

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu unigolion am eu cyfraniad i’r Gymraeg. 

Mewn seremoni wobrwyo ddydd Iau 5 Mawrth, cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2025-26 wedi iddynt gael eu henwebu gan staff a myfyrwyr y Brifysgol.  

Yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf, yn fyfyrwyr ac yn staff, gwobrwywyd yr enillwyr ar gyfer y gwobrau canlynol: 

  • Dysgwr Disglair (Staff) – Moyra Morris
  • Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle – Huw Roberts
  • Astudio trwy’r Gymraeg (Myfyriwr) – Holly Purdey
  • Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr) – Sioned Walters
  • Cefnogi’r Gymraeg yn y Gweithle – Donia Richards a Glesni Davies, Cofrestrfa Academaidd

Dyfarnwyd Gwobr Arbennig y Panel i’r Athro Hazel Davey, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol (DIGCG) Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr yng Nghyfadran y Gwyddorau am ei holl waith yn hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn y Brifysgol.

Derbyniodd pob un o’r enillwyr englyn personol gan naill ai’r Athro Mererid Hopwood, Dr Eurig Salisbury (Darlithydd Ysgrifennu Creadigol o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd), neu Dr Hywel Griffiths, (Darllenydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol).

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Dr Gwawr Taylor, Ysgrifennydd y Brifysgol a Chyfarwyddwr y Gymraeg: ’’Mae heddiw yn gyfle i longyfarch a dathlu ymroddiad unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad hollbwysig i’r Gymraeg yn y Brifysgol.  Estynnwn longyfarchiadau mawr iddynt ac rydym yn ddiolch am eu holl frwdfrydedd a’u dyfalbarhad.”

 

Yr Enillwyr  

Moyra Morris (Dysgwr Disglair):  Wedi ei geni ym Melfast, symudodd Moyra i Gymru i fynychu’r Brifysgol yn Aberystwyth yn yr 80au gan ymgartrefu yn yr ardal.  Dechreuodd ddysgu Cymraeg gyda’i phlant pan roeddynt yn mynychu Ysgol Gynradd Mynach ym Mhontarfynach.  Bu’n athrawes gan ddysgu Cymraeg fel ail iaith i blant cynradd cyn ymddeol a dechrau gweithio yn y Brifysgol yn Aberystwyth yn cefnogi myfyrwyr awtistig gyda’r adran Cefnogi Myfyrwyr.  Bellach yn gweithio yn y Brifysgol ers pum mlynedd, mae Moyra wedi parhau i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg ac ar hyn o bryd yn mynychu dau ddosbarth yn rheolaidd sef Dosbarth Cymraeg Gwaith a dosbarth gyda’r hwyr ym Mhontarfynach.  Yn byw yn ardal Cwmystwyth mewn cymuned Gymreig, mae’n hoff o sgwrsio yn Gymraeg gyda chymdogion ac yn y gwaith gyda staff a myfyrwyr.  Mae’n gwirfoddoli gyda chynllun cymunedol y Ffynnon yn Aberystwyth ac yn mwynhau darllen nofelau a gwrando ar bodlediadau yn Gymraeg.

Huw Roberts (Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle): Yn enedigol o Aberystwyth, ac wedi gyrfa lewyrchus dros gyfnod o 18 mlynedd gyda’r BBC, dychwelodd Huw a’i deulu yn ôl i’r ardal i gynllunio ac agor Gwesty Cymru yn 2007.  Bu’n rhedeg y Gwesty a’r Bwyty poblogaidd yn Aberystwyth am dair blynedd ar ddeg gan ennill cydnabyddiaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am gyfraniad i faes lletygarwch, twristiaeth a’r iaith Gymraeg. Wedi cyfnod yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn ailagor Canolfan Groeso Ynys Las ymunodd Huw â’r   Brifysgol ym 2021. Mae’n Rheolwr Cynorthwyol Adeiladau Preswyl, yn sicrhau bod llety’r Brifysgol yn ddiogel, yn cydymffurfio â'r rheoliadau ac yn darparu cartref oddi cartref cyfforddus i fyfyrwyr.  Mae Huw yn angerddol dros y Gymraeg gan fanteisio ar bob cyfle i’w hybu, annog ei defnydd a chodi ymwybyddiaeth ymhlith cydweithwyr, myfyrwyr ac ymwelwyr i’r Brifysgol.    

Holly Purdey (Astudio trwy’r Gymraeg): Mae Holly yn fyfyrwraig yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Yn enedigol o ardal Hastings, magwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg. Nid oedd gan Holly gysylltiad â Chymru yn ystod ei phlentyndod ond roedd â diddordeb mawr mewn ieithoedd. Penderfynodd fynychu Prifysgol Aberystwyth am ei bod am astudio Astudiaethau Celtaidd gan ddysgu’r Gymraeg a’r Wyddeleg. Yn dilyn cwblhau ei chwrs gradd, mae Holly yn ystyried astudio cwrs pellach a gyrfa ym maes cyfieithu neu addysgu.

Sioned Walters (Pencampwr y Gymraeg): Mae Sioned yn astudio Gradd cyd anrhydedd mewn Seicoleg a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn wreiddiol o ardal Llandysul, fe’i magwyd ar aelwyd Gymraeg gan fynychu Ysgol Penboyr, Drefach ac yna Ysgol Bro Teifi. Mae’r Gymraeg yn hollbwysig i Sioned ac mae’n weithgar iawn yn hybu a hyrwyddo’r iaith.  Ar hyn o bryd, hi yw cynrychiolydd y Gymraeg yn yr Adran Seicoleg ac mae’n rhan o’r Cynllun Cymorth Cyfoedion sy’n cefnogi myfyrwyr blwyddyn gyntaf.  Wedi iddi raddio, mae Sioned yn ystyried astudio Cwrs Meistr gyda’r Adran Seicoleg a gyrfa fel Seicolegydd Addysg. 

Donia Richards a Glesni Davies, Tîm Swyddfa (Cefnogi’r Gymraeg yn y gweithle): Mae Donia Richards a Glesni Davies yn gweithio fel Swyddogion Academaidd  i’r Gofrestrfa Academaidd yn y Brifysgol a hyd at yn ddiweddar buont yn gweithio am  bum mlynedd ar hugain yn Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn darparu cefnogaeth weinyddol trwy gyfrwng y Gymraeg i’r Adran hynny ac Adran Hanes a Hanes Cymru. Maent bellach yn gweithio yn yr Hwb Myfyrwyr yn Adeilad Edward Llwyd ar gampws y Brifysgol. Mae’r Gymraeg yn holl bwysig iddynt ac maent yn hybu ac yn annog cydweithwyr a myfyrwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob ffordd posib.  

Yr Athro Hazel Davey (Gwobr Arbennig y Panel): Wedi ei magu yn Fillongley ger Coventry, Swydd Warwick ar aelwyd ddi-Gymraeg, daeth Hazel ar wyliau i Aberystwyth a phenderfynu mynychu’r Brifysgol yn y dref.  Graddiodd mewn Sŵoleg a Microbioleg ac ar ôl cwblhau doethuriaeth, dechreuodd weithio fel ymchwilydd yn y Brifysgol cyn cael ei phenodi yn ddarlithydd yn 2010.  Mae Hazel bellach yn Athro ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol (DIGCG) Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr yng Nghyfadran y Gwyddorau. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 1993 gan fynychu dosbarthiadau nos ac yn ddiweddarach cyrsiau yn Nant Gwrtheyrn yn ogystal â chael cefnogaeth holl bwysig gan gydweithwyr i sgwrsio a’i chefnogi gyda’r Gymraeg. Trwy gydol ei chyfnod yn y Brifysgol, mae Hazel wedi bod yn ymroddedig ac yn weithgar iawn dros y Gymraeg yn annog a chreu cyfleoedd gan gynnwys cyfleoedd i fyfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig

Yn ogystal â dyfarnu’r gwobrau uchod, cyflwynwyd Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig gan y panel i’r myfyrwyr Séamus Fennell, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Tom Ansell, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; Stefan Bridle, Adran Ieithoedd Modern ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol; Nel Jones, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Adran Hanes a Hanes Cymru; Maddie Malpas, Adran Cyfrifiadureg ac i’r aelodau staff Dr Tristan Webb, Adran y Gyfraith a Throseddeg a Betty Wile, Canolfan Addysg Gofal Iechyd am eu hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.