Waitrose yn ystyried defnyddio glaswellt o Gymru ar gyfer pecynnu bwyd

Dr Joe Gallagher

Dr Joe Gallagher

21 Mawrth 2013

Bydd y prosiect Cynhyrchion Rhygwellt Cynaliadwy (STARS) yn cael ei arwain gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chanolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor ac yn defnyddio gwybodaeth gan bartneriaid yn y diwydiant, yn cynnwys Waitrose.

Mae cyllid o bron i £ 600,000 trwy’r rhaglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B), Llywodraeth Cymru  yn cefnogi'r prosiect, a fydd yn gweld proses bioburo i ynysu a thynnu siwgr a chydrannau eraill o rygwellt a’u troi i mewn i gynnyrch carbon isel.

Bydd y rhain yn cynnwys biodanwydd, cemegau llwyfan a chynhyrchion pecynnu mwydion-mowldio at bwrpas manwerthu megis deunydd pecynnu bwyd.
Bydd y prosiect yn cydweithio gyda chwe phartner diwydiannol sy'n cynrychioli’r holl gysylltiadau yn y gadwyn gyflenwi SME - o amaethu a chynaeafu biomas i brosesu a masnachu’r defnydd terfynol - a bydd yn dangos sut i gynhyrchu’r deunyddiau hyn ar raddfa beilot.

Er mwyn llywio'r broses, bydd Waitrose yn cynnal ymchwil i ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â’r bioeconomi a mabwysiadu cynhyrchion gwyrdd.
Dywedodd Quentin Clark, Pennaeth Cynaliadwyedd yn Waitrose: "Mae Waitrose yn gweithio'n galed i ddefnyddio deunyddiau pecynnu cynaliadwy sy’n hawdd i'w ailgylchu, felly mae perthynas naturiol rhwng y prosiect hwn ag ymgyrch ‘Treading Lightly’ Waitrose sy’n ceisio lleihau ein hôl troed amgylcheddol.

"Mae symud i ddefnyddio deunydd pacio ffibr-seiliedig ac sy’n hawdd ei ail-gylchu os yw hynny’n dangos budd amgylcheddol cadarnhaol, yn rhywbeth yr ydym yn awyddus i ddatblygu. Mae elfen allweddol o'r prosiect hwn yn cynnwys ymgysylltu â'r cyhoedd o’r dechrau i sicrhau ein bod yn darparu atebion sy'n diwallu eu hanghenion. Rydym yn edrych ymlaen at dreialu prototeipiau gyda’r rhanddeiliaid allweddol. "
Dywedodd Edwina Hart AC, Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth "Mae'n dda gweld dau sefydliad o Gymru yn gweithio gydag amrywiaeth mor eang o bartneriaid busnes, rhai cynhenid ac aml-genedl, a hynny ar brosiect newydd gyda photensial masnachol.

"Rwy'n falch bod y rhaglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau yn cefnogi’r cydweithio hyn rhwng diwydiant a'r byd academaidd gyda'r nod o ddatblygu a dod â chynnyrch newydd i'r farchnad."
Ychwanegodd Dr Joe Gallagher o IBERS, Prifysgol Aberystwyth: '' Mae'r prosiect STARS yn cymryd ymchwil blaenorol yn y maes hwn i'r lefel nesaf gan ddefnyddio  adnoddau peilot BEACON i arddangos ar raddfa fasnachol berthnasol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi i ddod â'r cysyniad i sylw'r cyhoedd.
"Mae'r prosiect yn cyd-fynd â strategaeth llywodraeth y DG o liniaru newid yn yr hinsawdd a'r angen i gefnogi'r economi wledig."
Bydd STARS hefyd yn elwa o ymchwil perthnasol arall a rhaglenni arloesol fel BEACON www.beaconwales.org sy’n canolbwyntio ar fioburo a chynhyrchion bio o fwyd adnewyddol fel planhigion.  

Croesawodd Dr Adam Charlton, Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect a dywedodd y byddai'r arbenigedd cyflenwol y ddwy brifysgol a phartneriaid diwydiannol yn allweddol i'w lwyddiant.
Dywedodd: "Un o amcanion allweddol y prosiect fydd creu cynhyrchion gydag allbwn carbon is na'r rhai a gynhyrchir o olew. Mae ysgogi diwydiant gwyrdd yn y modd hwn yn nod byd-eang ac rydym yn gobeithio dangos dull integredig i ddefnydd tir.
"Nid ydym am ddisodli gweithgarwch amaethyddol presennol, ond ein nod yw rhoi cyfle i ffermwyr arallgyfeirio a dod o hyd i ddefnydd arall ar gyfer unrhyw laswellt dros ben a gynhyrchir yn y DG.
"Trwy feithrin perthynas gyda sefydliadau sydd â mewnwelediad sylweddol yn y farchnad, mae'r prosiect yn cynnig posibilrwydd gwirioneddol i fasnacheiddio cynnyrch o rygwellt mewn nifer o ddulliau gwahanol."