Yr hedyn Miscanthus cyntaf ar fin cyrraedd y farchnad

Dr Joe Jackson yn 'Cereals'

Dr Joe Jackson yn 'Cereals'

19 Mehefin 2013

Mae ymchwilwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth ar fin llwyddo i leihau costau ymsefydlu a lluosogi croesiadau Miscanthus cynhyrchiol iawn.

Mae Miscanthus (a elwir hefyd yn laswellt Eliffant) yn laswellt cyffredin o Asia, ac mae bridio a dethol wedi creu mathau sy’n gynhyrchiol iawn ac sydd angen ychydig iawn o fewnbwn. Mae planhigion o’r fath yn arbennig o ddefnyddiol o safbwynt datblygu bio-ynni, sy’n ran hanfodol o’r ymdrech i ddod o hyd i danwyddau i gymryd lle tanwyddau ffosil.
Mae croesiadau Miscanthus seiliedig ar hadau a fridiwyd yn Texas a De Ewrop gyda’n partneriaid diwydiannol, CERES, Inc yn cael eu profi mewn sawl safle yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r Unol Daleithiau eleni. Mae ymchwilwyr IBERS yn gobeithio y bydd yr hadau cyn-fasnachol ar gael i ffermwyr yn 2014.  Mae dulliau agronomeg yn amrywio yn ôl yr amodau hinsoddol lleol, ac mae tîm agronomeg wedi cael ei sefydlu i gymryd y croesiadau seiliedig ar hadau o’r labordy i’r farchnad mor gyflym â phosib.

Dyma’r tro cyntaf i Miscanthus gael ei gyflwyno i fyd amaeth fel cnwd a heuir fel hadau. Difrodwyd enw da Miscanthus yn y DU oherwydd y costau ymsefydlu uchel, ac mae hyn wedi creu ansicrwydd yn y farchnad i fuddsoddwyr a’r gadwyn bio-ynni gyfan. Felly, mae llwyddo i leihau’r costau ymsefydlu yn ddatblygiad arwyddocaol.
Mae hwn yn ddatblygiad o bwys i bawb sy’n ymwneud â datblygu cadwyni cyflenwi bio-ynni, yn arbennig y ffermwyr sy’n dymuno tyfu cnydau ynni. Y nod yw helpu i sicrhau cyflenwad ynni yn y dyfodol yn ogystal â gostwng lefelau carbon drwy ddisodli tanwyddau ffosil, sy’n cyfrannu at gynhesu byd-eang.

IBERS yw’r prif sefydliad ym Mhrydain ym maes datblygu Miscanthus ar gyfer bio-ynni. Meddai Dr John Clifton-Brown, Ymchwilydd ac Arweinydd Prosiect y rhaglen fridio Miscanthus yn IBERS: 'mae’r systemau cynhyrchu hadau a ddatblygwyd ar gyfer rhygwellt parhaol yn Aberystwyth yn cael eu cymhwyso i Miscanthus i leihau’r costau ymsefydlu ac i ddarparu’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion’.
Ariennir y rhaglen fridio Miscanthus ar hyn o bryd drwy’r rhaglen Sustainable Renewable Materials LINK (GIANT LINK 2011-2016), ac mae’n cynnwys y partneriaid canlynol: CERES, Blankney Estates, E.ON, Biocatalysts, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Sefydliad Julius Krone yn Braunschweig a Phrifysgolion Aberdeen a Catania. Mae’r prosiectau LINK yn hyrwyddo cydweithio rhwng partneriaid academaidd a diwydiant mewn ymchwil cyn-gystadleuol, gan ddod â chwmnïau a phartneriaid gwyddonol allweddol ynghyd.

Mae’r rhaglen fridio gydweithredol hon yn cysylltu gwaith ymchwil blaenorol ar Miscanthus gan IBERS - a ariannwyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn 2004-2010 a Ceres, Inc., cwmni hadau cnydau ynni integredig (o 2007 ymlaen) - â chyfres o brosiectau ymchwil a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, ETI, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a rhaglen Fframwaith 7 yr Undeb Ewropeaidd.
Bu IBERS yn arddangos yr ymchwil sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd ar y rhaglen Miscanthus, ynghyd â Beacon a Quoats, yn Cereals 2013. Mae rhaglen Beacon, sy’n werth miliynau o bunnoedd, yn anelu at ddatblygu’r economi werdd drwy helpu busnesau i ddarganfod ffyrdd newydd o drosi cnydau megis rhygwellt, ceirch a Miscanthus yn gynnyrch megis cynhyrchion fferyllol, cemegau, tanwyddau a cholur.

Mae Quoats yn brosiect ymchwil pum mlynedd i ddatblygu a chymhwyso’r offer ddiweddaraf i wella geneteg ceirch drwy fynd i’r afael â nodweddion allweddol a fydd yn cynyddu gwerth ceirch i wella iechyd pobl; manteisio ar werth ceirch fel grawnfwyd mewnbwn isel; cynyddu cynaladwyedd amgylcheddol ac economaidd cylchdroadau sy’n seiliedig ar rawnfwydydd;  gwireddu potensial ceirch fel porthiant anifeiliaid gwerthfawr, a datblygu cyfleoedd newydd i ddefnyddio ceirch drwy ffracsiynu uwch.
Cereals yw’r prif ddigwyddiad technegol ar gyfer diwydiant âr Prydain, a gynhaliwyd yn Swydd Lincoln ar 12-13 Mehefin 2013.