Ymchwil cywarch i ddarganfod driniaethau newydd i anifeiliaid

28 Mai 2021

Mae ymchwil i ddefnydd cywarch fel triniaeth ar gyfer afiechydon anifeiliaid wedi dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae cais newydd am batent gan Brifysgol Aberystwyth a TTS Pharma yn amlinellu sut y gallai nodweddion echdynnyn cywarch helpu arwain at driniaeth newydd ar gyfer llid, gan gynnwys endometritis.

Mae endometritis yn gyflwr llidiol sy’n effeithio ar leinin y groth ac fe’i hachosir gan heintiad fel arfer. Mae’r cyfryw gyflyrau yn effeithio ar anifeiliaid, gan gynnwys pobl.

Mae’r datblygiad yn rhan o bartneriaeth hir dymor rhwng y diwydiant a Phrifysgol Aberystwyth i ymchwilio i ystod eang o ddefnyddiau potensial cywarch.

Yn dilyn treialon cychwynnol o’r cyfansoddion newydd fel triniaethau gwrthlidiol mewn gwartheg, mae’r prosiect hwn yn ystyried a ellid defnyddio’r driniaeth arloesol hon mewn da byw eraill.

Fe allai’r driniaeth newydd hon ddod â buddion meddygol sylweddol, a lleihau’r angen am wrthfiotigau, ac felly lleihau’r risg o facteria yn datblygu ymwrthedd.

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i ddefnydd yr echdynnyn hwn o gywarch fel triniaeth ar gyfer afiechydon mewn da byw. Gallai’r gwaith ddarparu sylfaen ar gyfer ymchwil yn y dyfodol i fuddion iechyd cywarch mewn pobl.

Dywedodd Dr Debbie Nash o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’r ymchwil hwn yn dyst i botensial mawr cywarch fel triniaeth meddygol ar gyfer da byw. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein partneriaid masnachol a’r llywodraeth wrth i ni barhau â’n hymchwil. Wrth edrych i’r dyfodol, rydym yn gobeithio y bydd y cyfansoddion hyn o fudd sylweddol i’r diwydiant amaeth.

“Mae ein modelau in vitro yn cael eu defnyddio i sgrinio cynnyrch TTS drwy asesu eu nodweddion gwrthlidiol. Yn y pendraw, wedi rhagor o brofi, rydym yn gobeithio y gall y rhain helpu trin endometritis mewn gwartheg, sy’n her sylweddol i’r diwydiant llaeth. Rydym ar fin cychwyn prosiect newydd y bydd yn ymchwilio i’w ddefnydd ar gyfer endometritis mewn ceffylau a moch, gan ddefnyddio modelau in vitro unwaith eto. Mae endometritis mewn gwartheg, moch a cheffylau yn achosi anffrwythlondeb, fodd bynnag, mae cyflyrau yn digwydd yn ystod gwahanol adegau yn y broses bridio yn yr anifeiliaid hyn, felly mae’r astudiaethau yn rhai rhywogaeth benodol.”

Mae’r ymchwil yn ehangu drwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) rhwng Prifysgol Aberystwyth a TTS Pharma, sy’n arbenigwyr mewn cynnyrch fferyllol ac iechyd ac yn rhan o’r prosiect Ymchwil a Datblygu cydweithredol a ariennir gan raglen Arbenigedd SMART Llywodraeth Cymru.

Nod Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yw helpu busnesau i wella eu cynhyrchedd a’u gallu i gystadlu drwy ddefnydd gwell o wybodaeth, technoleg a sgiliau o fewn y Deyrnas Gyfunol.

Cyd-ariennir y prosiect Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth hwn gan Ymchwil ac Arloesi’r Deyrnas Gyfunol drwy Innovate UK a TTS Pharma.

Dywedodd Mark Tucker, Prif Weithredwr TTS Pharma:

“Yn dilyn prosiect a gafodd ei ariannu gan Arbenigedd SMART a gafodd ei arwain gan Dr Debbie Nash a’i thîm, mae hon yn garreg filltir bwysig i ni. Mae’r ymchwil hwn, sy’n cael ei arwain gan y tîm Gwyddoniaeth Anifeiliaid, yn torri tir newydd ac yn adeiladu ar brosiectau ymchwil eraill sydd ar y gweill ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae tîm Dr Nash yn cloriannu ystod o bosibiliadau ffytoweithredol ac mae ein fformwleiddiadau cywarch yn wahanol i gyfansoddion eraill.

“Mae’r canlyniadau hyd yn hyn yn cadarnhau ein ffydd yn y planhigyn a’i botensial fel triniaeth feddygol, os yw’n cael ei ddatblygu yn gywir, ar gyfer y farchnad gofal iechyd anifeiliaid a phobl. Mae’r math hwn o ymchwil yn ein helpu ni i ddeall yr hyn sy’n digwydd dan yr wyneb a’r afiechydon penodol y gallai’r driniaeth fod yn gymwys iddynt a’n helpu ni i sicrhau bod triniaethau yn cael eu datblygu o lwyfannau ymchwil credadwy.

“Mae gan Brifysgol Aberystwyth yr holl adnoddau sydd eu hangen er mwyn cloriannu’r planhigyn cywarch, p’un ai ein bod yn edrych ar enynnau’r hedyn neu’r defnydd terfynol clinigol. Dyma’r cymhwysiad masnachol cyntaf sy’n deillio o sawl blwyddyn o bartneriaeth amlweddog gyda’r Brifysgol sy’n tyfu. Mae’r bartneriaeth hon yn gyfle ardderchog i ni adeiladu’r banc data a chynhyrchu’r sail wyddonol ar gyfer holl gylch oes y cynnyrch ac i’w rannu gyda’r gymuned yn ehangach. Mae gennym lawer o waith i’w wneud cyn i’r ymchwil gyrraedd prif-ffrwd y maes gofal iechyd, ond mae’n enghraifft wych o sut mae gwyddoniaeth y Deyrnas Gyfunol yn gallu arwain y ffordd yn y farchnad fyd-eang ac rydym yn llawn cyffro am y rhaglen datblygu sydd o’n blaenau ni.”