Pacio odyn gydag AI er mwyn lleihau allyriadau

04 Awst 2025

Mae arbenigwyr mathemateg yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i helpu’r diwydiant cerameg cywasgu mwy o wrthrychau mewn odyn er mwyn lleihau ei ôl troed carbon.

Graddedigion Mathemateg 2025

22 Gorffennaf 2025

Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr Mathemateg wnaeth raddio'r wythnos ddiwethaf.



Yn dilyn y seremoni roedd yn bleser cyflwyno gwobrau i nifer o’n graddedigion am eu perfformiadau eithriadol mewn Mathemateg.

Cyhoeddi enwau enillwyr Ysgoloriaeth Isabel Ann Robertson

13 Chwefror 2025

Mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi enwau enillwyr ysgoloriaeth bwysig newydd i hyrwyddo astudiaethau ôl-raddedig mewn mathemateg, ffiseg a chyfrifiadureg.

Gwobrau am gyflawniad eithriadol myfyrwyr mewn Mathemateg

04 Hydref 2024

Rydym wedi dyfarnu gwobrau i fyfyrwyr sydd wedi dychwelyd am eu perfformiad rhagorol mewn modiwlau Mathemateg dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Nataliia mewn Gwersyll Modelu

04 Hydref 2024

Fe wnaeth Nataliia Adukova, myfyriwr PhD o’r Adran Fathemateg, fynychu Gwersyll Modelu ar gyfer graddedigion yn Sefydliad Isaac Newton yng Nghaergrawnt yn ddiweddar.  Mae’r gwersyll yn cynnig profiad ymarferol i fathemategwyr gyrfa gynnar o fodelu mathemategol o heriau byd go iawn mewn gwyddoniaeth a pheirianneg.

Graddio Mathemateg 2024

19 Gorffennaf 2024

Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr Mathemateg wnaeth raddio'r wythnos yma.
Yn dilyn y seremoni roedd yn bleser cyflwyno gwobrau i nifer o’n graddedigion am eu perfformiadau eithriadol mewn Mathemateg.

Cyhoeddiad Dathlu 150 Mlynedd

04 Mehefin 2024

Mae'r llyfryn o vignettes cyn-benaethiaid adran, a luniwyd i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu Adran Mathemateg Prifysgol Aberystwyth, bellach ar gael ar-lein.

Academyddion talentog o Aberystwyth wedi'u dewis ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru

23 Mai 2024

Mae academyddion o Brifysgol Aberystwyth sy'n ymchwilio i gam-drin domestig a phobl hŷn, problemau pacio, a sut y gellid defnyddio ystadegau ym maes bioleg wedi cael eu dewis ar gyfer rhaglen nodedig i ddatblygu arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.  

Interniaeth ymchwil rhyngwladol fawreddog i fyfyriwr Mathemateg

23 Mai 2024

Bydd myfyriwr israddedig Mathemateg yn treulio'r haf yn gweithio yng Nghanada ar ôl derbyn interniaeth ymchwil fawreddog.

Adar o Gymru ac Iwerddon sydd dan fygythiad yn cael eu gyrru i gynefinoedd newydd oherwydd newid hinsawdd

07 Medi 2023

Mae aderyn sy’n frodorol i Gymru ac Iwerddon a dan fygythiad gwirioneddol yn cael eu gorfodi i gynefinoedd peryclach o ganlyniad i newid hinsawdd yn ôl ymchwil newydd.