Penodi Athro yn y Gyfraith yn Aberystwyth yn ymgynghorydd arbenigol ar fasnachu pobl

02 Mai 2023

Cafodd yr Athro Ryszard Piotrowicz, sy’n arbenigwr ym maes cyfraith ymfudo a masnachu pobl, ei benodi’n ymgynghorydd arbenigol i Bwyllgor Dethol Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin, i gynorthwyo’r ymchwiliad i’r fasnach mewn pobl.

Ap newydd o Gymru â photensial i adfer cynefinoedd o amgylch y byd

04 Mai 2023

Mae ap newydd allai ddiogelu ac adfer ecosystemau a chynefinoedd o amgylch y byd yn cael ei lansio gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw.

Mae myfyrwyr y DU yn cefnu ar ddysgu iaith, felly rydym yn chwilio am ddull mwy creadigol

05 Mai 2023

Mewn erthygl yn The Conversation mae Dr Alex Mangold o’r Adran Ieithoedd Modern yn trafod y gostyngiad yn y nifer sy'n manteisio ar ieithoedd modern mewn addysg uwch a sut gall fwy o greadigrwydd yn y pwnc helpu i wneud dysgu iaith yn fwy deniadol.

ArloesiAber yn Dathlu Llwyddiant Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop gydag Anerchiad gan Weinidog yr Economi Llywodraeth Cymru

05 Mai 2023

Ddydd Iau, 4 Mai 2023, cynhaliodd ArloesiAber ddigwyddiad i ddathlu llwyddiant ei gefnogaeth a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Roedd y digwyddiad yn cynnwys anerchiad fideo personol gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn tynnu sylw at y cyfraniadau sylweddol y mae'r Campws eisoes wedi'u gwneud i'r economi yn y rhanbarth ers iddo agor ddiwedd 2020, yn ogystal ag edrych ymlaen at ddyfodol ymchwil ac arloesedd yn y sectorau bwyd ac economi gylchol.

Cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth mentergarwch ar gyfer myfyrwyr

11 Mai 2023

Cwmni sydd am gynaeafu a harneisio ychwanegyn bwyd o goed Cymreig sy’n cyfoethogi porthiant anifeiliaid yn naturiol yw enillydd cystadleuaeth flynyddol syniad busnes myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Eurovision 2023: pam mai'r llwyfan ei hun yw seren dawel y gystadleuaeth

11 Mai 2023

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Lara Kipp, Darlithydd mewn Theatr a Senograffeg, yn tynnu sylw at bwysigrwydd llwyfan yr Eurovision – nad yw'n cael y sylw dyledus yn aml - a sut mae'r senograffeg yn seiliedig ar syniadau am genedl, cenedligrwydd a chenedlaetholdeb.

Cynhadledd i ddathlu canmlwyddiant deiseb heddwch hanesyddol

12 Mai 2023

Caiff cynhadledd undydd arbennig ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Mai 2023 i nodi canmlwyddiant deiseb heddwch hanesyddol a lofnodwyd gan bron i 400,000 o fenywod Cymru.

Penodi Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi newydd

12 Mai 2023

Mae’r Athro Angela Hatton wedi’i phenodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Parlys cwsg: pam fod y byd arswyd modern wedi’i hudo gan hen ofergoelion am ddiffyg cwsg

12 Mai 2023

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Alice Vernon o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn trafod y diddordeb o’r newydd sydd mewn parlys cwsg, diolch i duedd ddiweddar mewn ffilmiau arswyd.

Grant ymchwil i helpu i gynhyrchu bwydydd cynaliadwy newydd

15 Mai 2023

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at brosiect ymchwil gwerth miliynau o bunnoedd i gynhyrchu protein amgen cynaliadwy i helpu i fwydo poblogaeth gynyddol y byd.

Academydd blaenllaw i drafod diwygio democrataidd yn Aberystwyth

15 Mai 2023

Bydd y rhagolygon ar gyfer diwygio gwleidyddol ym Mhrydain yn cael eu trafod ym Mhrifysgol Aberystwyth y mis hwn, pan fydd yr Athro Alan Renwick yn traddodi Darlith Flynyddol Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.

Gwobr fawreddog y DG i brosiect iechyd anifeiliaid academydd

16 Mai 2023

Mae gwaith arloesol academydd o Brifysgol Aberystwyth i helpu i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthfiotig wedi ennill y prif wobr mewn seremoni yn Llundain.

Her Tri Chopa’r Brifysgol yn codi miloedd at Uned Cemotherapi Bronglais

19 Mai 2023

Mae staff Undeb y Myfyrwyr a Phrifysgol Aberystwyth wedi cwblhau Her Tri Chopa Cymru i godi arian tuag at Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais.

Prifysgol Aberystwyth i agor labordy cartref clyfar er mwyn profi technoleg ansawdd bywyd i'r henoed

19 Mai 2023

Bydd cadeiriau olwyn ac anifeiliaid anwes awtonomaidd ymhlith y dechnoleg a fydd yn cael ei dreialu mewn cartref clyfar newydd a blaengar ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n anelu at wella ansawdd bywyd i'r henoed neu bobl â chyflyrau iechyd.

Academyddion Cymru yn helpu asiantaethau gofod i fesur carbon coedwigoedd y byd

23 Mai 2023

Mae cyfraniad academyddion Aberystwyth at fapio biomas coedwigoedd y byd ar gyfer Asiantaeth Gofod Ewrop (ESA) yn cynorthwyo ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd. 

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Elizabeth Treasure yn cyhoeddi ei hymddeoliad

23 Mai 2023

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei phenderfyniad i ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn.

Llond lle o hwyl mewn gŵyl i ymarfer siarad Cymraeg

23 Mai 2023

Daeth dros 100 o ddysgwyr a’u teuluoedd ynghyd ar gampws Llanbadarn Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 13 Mai 2023 ar gyfer yr Ŵyl Haf gyntaf erioed i’w chynnal gan Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr.  

Straeon ffoaduriaid Cymru i’w gweld yn San Steffan

24 Mai 2023

Mae arddangosfa sy’n adrodd hanesion pobl sydd wedi cael lloches yng Nghymru dros y blynyddoedd wedi cael ei hagor ym Mhalas San Steffan yn Llundain.  

Hwb o £9.8 miliwn ar gyfer ymchwil cnydau IBERS yn Aberystwyth

26 Mai 2023

Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn hwb ariannol o £9.8 miliwn ar gyfer eu gwaith ar gnydau gwydn.

IBERS yn dod yn ganolfan ragoriaeth ymchwil ffermio cynaliadwy

30 Mai 2023

Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â rhwydwaith ffermio cynaliadwy y Deyrnas Gyfunol o ganolfannau arloesi a ffermydd arddangos sy’n arwain y byd.

Myfyrwyr yn ennill taith i ŵyl ffilm fawreddog yn Efrog Newydd

30 Mai 2023

Bydd pedwar myfyriwr ffilm a theledu o Brifysgol Aberystwyth yn hedfan i’r Unol Daleithiau ym mis Mehefin 2023 i fynychu un o wyliau ffilm mwyaf blaenllaw’r byd.

Penodi Eurig Salisbury’n Fardd y Dref yn Aberystwyth

31 Mai 2023

Mae’r Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol a’r bardd arobryn Eurig Salisbury wedi cael ei benodi’n Fardd y Dref yn Aberystwyth, ac ef fydd y person cyntaf erioed i gyflawni’r swydd hon.

Prosiect ymchwil ar brotein pys gwerth £1 filiwn am leihau mewnforion soia

31 Mai 2023

Bydd prosiect newydd gwerth £1 filiwn yn ymchwilio i fathau newydd o bys i leihau dibyniaeth y Deyrnas Gyfunol ar fewnforion soia, cyhoeddwyd heddiw.