Amdanom Ni
Pwrpas y Gwasanaeth Gyrfaoedd yw darparu gwasanaethau rhagorol a chynhalgar sy’n fodd i fyfyrwyr a graddedigion unigol gyflawni eu dyheadau, gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch bywyd, a chyflawni eu potensial.
Mae’n gwasanaethau i gyflogwyr yn eu galluogi i gysylltu’n uniongyrchol â’n myfyrwyr a graddedigion gan hybu twf cyflogwyr yn nhermau recriwtio staff, cyd-weithio a chreu cyfleoedd newydd.
Gweler ein cenhadaeth llawn yma - Ein Cenhadaeth. Anelwn at wneud ein gwasanaethau'n gyfleus ac yn agored i'n holl ddefnyddwyr ac rydym yn fwy na bodlon i drafod anghenion penodol. Gweler manylion pellach yma - Gwneud Ein Gwasanaethau Yn Fwy Cyfleus (PDF).
Myfyrwyr a Graddedigion
Rydym yma i’ch helpu i ddeall sut mae gwenud y defnydd gorau o’ch gradd, a’r holl brofiadau amrywiol a gynigir i chi tra’n y Brifysgol, wrth lunio llwybr gyrfa i’r dyfodol.
Bydd ein staff profiadol a phroffesiynnol yn eich cynorthwyo i
- ddewis a darganfod opsiynau profiad gwaith
- adnabod y sgiliau daw yn rhinwedd eich astudiaethau a’u defnydd i gyflogwyr
- gynllunio llwybr(au) gyrfa addas
- ymgeisio am swyddi gyda hyder
- asesu perthnasedd cyrsiau uwch-raddedig i’ch dyheadau gyrfaol
- ddeall sut i fynd ati i sefydlu busnes eich hun a’r camau angenrheidiol nesaf
- gysylltu â chyflogwyr, cyn-raddedigion a chyrff proffesiynnol i hyrwyddo a datblygu eich cynlluniau gyrfaol
Drwy gynnig gwasanaethau ar-lein, ar sail un-i-un, a thrwy gweminarau a gweithgareddau tebyg, edrychwn ymlaen at eich helpu gyda phob agwedd o’ch siwrne a’ch llwyddiant gyrfaol.
Cyflogwyr
Cynigiwn ystod o wasanaethau fel y gallwch gysylltu’n uniongyrchol gyda’n myfyrwyr a graddedigion, yn ogystal â chyd-weithio gyda’n hadrannau academaidd i ddatblygu a chreu cwricwlwm cyfredol ac addas i anghenion byd gwaith. Gweler restr o’r cyfleoedd rhyng-weithiol a ddarparwn ar ein tudalen i Gyflogwyr.
Gwybodaeth Diogelu Data
I ddarparu ein ystod llawn o wasanaethau i chi, rydym yn cadw ac yn gwneud defnydd o’ch manylion personol ar sail diddordeb cyfiawn. Gweler ein Gwybodaeth am Ddiogelu Data cyflawn myfyrwyr a graddedigion yma - Gwybodaeth am Ddiogelu Data Myfyrwyr a Graddedigion
Gweler ein Gwybodaeth am Ddiogelu Data perthnasol i gyflogwyr a rhyngddeiliaid yma - Gwybodaeth am Ddiogelu Data Cyflogwyr/Rhyngddeiliad
Cysylltwch â Ni
O ganlyniad i’r sefyllfa coronavirus presennol mae ein holl wasanaethau yn cael eu cynnig drwy dechnoleg am y tro. I drefnu apwyntiad neu i anfon ymholiad penodol atom defnyddiwch ein porth ar-lein gyrfaoeddABER gan ddewis y tab Archebu neu’r botwm Ymholiad. Neu gallech ein galw ar 01970 622378 neu anfon ebost at gyrfaoedd@aber.ac.uk. Gwnawn ymateb i bob ymholiad electroneg o fewn tri diwrnod gwaith. Os oes angen cymorth helaethach arnoch yna gwnawn awgrymu dylech drafod gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd. Bydd rhain yn cael eu cynnal drwy alwad ffôn neu Skype/MS Teams o dan yr amgylchiadau presennol.
Rydym yn parhau i weithredu oriau gwaith arferol:
Llun i Iau 9:00yb-5:00yp
Gwener 9:00yb-4:00yp
Cyfarfod â'r Tîm
Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr a Gyrfaoedd
Caryl Davies
Mae gan Caryl brif gyfrifoldeb am y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr a Gyrfaoedd yn eu cyfanrwydd.
Ebost: ccd@aber.ac.uk
Dirprwy Bennaeth Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr a Gyrfaoedd
Siân Furlong-Davies
Fel rhan o dim rheoli yr adran mae gan Siân gyfrifoldeb am y Gwasanaeth Gyrfaoedd, ei gyfeiriad strategol a'i dargedau a dangosyddion perfformiad.
E-bost: ssd@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Tîm Rheng-Flaen
Sue Evans
Rheolwraig Cyflogadwyedd Myfyrwyr
Mae Sue yn rheoli, yn hwyluso ac yn gweithredu'r gwasanaethau rheng flaen yr adran i holl fyfyrwyr a graddedigion y Brifysgol. Mae hi hefyd yn trefnu ac yn darparu cyngor gyrfaoedd a gwybodaeth i fyfyrwyr a graddedigion. Yn ogystal, mae hi'n monitro llinellau cyllideb a chyllid adrannol ar sail barhaus.
E-bost: sej@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622376
Summer McDonnell
Ymgynghorydd Cyflogadwyedd Myfyrwyr
Mae Summer yn gyfrifol am hwyluso a gweithredu'r gwasanaethau rheng flaen yr adran i holl fyfyrwyr a graddedigion y Brifysgol. Mae hi hefyd yn gyfrifol am adnoddau a mewnbynnu swyddi gwag ar gyrfaoeddABER yn ogystal â sicrhau bod ystod eang o adnoddau gwybodaeth berthnasol a chyfredol ar gael yn rhwydd ar gyfer ein myfyrwyr a graddedigion.
E-bost: slm17@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr
Gwen Adams
Rheolwraig Cyflogadwyedd
Gwen sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am y gwaith ymgysylltu â chyflogwyr a wnaed gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd, a gynlluniwyd i hysbysu, annog a chefnogi datblygiad sgiliau hunan-ymwybyddiaeth, cyflogadwyedd a chynllunio gyrfa. Mae ei rôl yn cynnwys goruchwylio gwaith ymgysylltu â chyflogwyr i drafod a darparu cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd a chymryd rhan mewn digwyddiadau ar y campws, a chydlynu AberYmlaen, rhaglen unigryw o ran mentrau cyflogadwyedd yn cyfuno hyfforddiant a lleoliad gwaith, gyda'r nod clir o helpu myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Aberystwyth i deimlo'n hyderus ac yn barod i gwrdd â her y farchnad swyddi i raddedigion.
E-bost: gwa3@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 621536
Jacqui Ho
Swyddog Cydlynu â Chyflogwyr
Mae Jacqui yn gyfrifol am gysylltu cyflogwyr gyda myfyrwyr presennol trwy ddigwyddiadau ar gampws i hyrwyddo interniaethau a chyfleoedd i raddedigion. Mae hi'n adnabod ac yn dod o hyd i ystod eang o gyflogwyr sy'n cyfateb i fyny ag anghenion ein myfyrwyr ac adrannau academaidd er mwyn cefnogi datblygiad cwricwla a helpu ein myfyrwyr i fod mor barod i waith ac sy’n bosib.
E-bost: jah30@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 628670
Tîm Ymgynghorydd Gyrfaoedd
James Cuffe
Ymgynghorydd Gyrfaoedd
James yw Ymgynghorydd Gyrfaoedd IBERS sydd â chyfrifoldeb dros gyrsiau sy'n amrywio o amaethyddiaeth i sŵoleg. Mae’n cyflwyno darlithoedd, gweithdai, digwyddiadau, ymgynghoriadau unigol a sesiynau grŵp rhyngweithiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o addysg, gwybodaeth a chyfarwyddyd gyrfaol. Mae hefyd yn gyfrifol am gydlynu datblygiadau o fewn gyrfaoeddABER, porth swyddi gwag a digwyddiadau’r Gwasanaeth Gyrfaoedd.
E-bost: jpc11@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Bev Herring
Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Bev yw'r Ymgynghorydd Gyrfaoedd gyda chyfrifoldeb am yr Ysgol Fusnes, yr adran IMLA, a hefyd yr Ysgol i Raddedigion. Mae hi'n cyflwyno darlithoedd, gweithdai, digwyddiadau, ymgynghoriadau unigol a sesiynau grŵp rhyngweithiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn yr adrannau yna, gan gynnwys ymchwilwyr PhD a myfyrwyr Meistr ar draws y brifysgol yn elwa o addysg, gwybodaeth a cyfarwyddyd gyrfaol.
E-bost: bch@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Joanne Hiatt
Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Jo yw’r Ymgynghorydd Gyrfaoedd sy'n gyfrifol am yr adrannau Addysg, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Ieithoedd Modern, Celf, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Mae hi'n cyflwyno darlithoedd, gweithdai, digwyddiadau, ymgynghoriadau unigol a sesiynau grŵp rhyngweithiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o addysg, gwybodaeth a chyfarwyddyd gyrfaol. Hi hefyd yw Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Gwasanaeth Gyrfaoedd gyda chyfrifoldeb am gydlynu datblygiadau o fewn y maes hwn.
E-bost: jeb@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Morwenna Jeffery
Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Morwenna yw'r Ymgynghorydd Gyrfaoedd sy'n gyfrifol am yr adrannau Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg. Mae hi'n cyflwyno darlithoedd, gweithdai, digwyddiadau, ymgynghoriadau unigol a sesiynau grŵp rhyngweithiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o addysg, gwybodaeth a chyfarwyddyd gyrfaol. Mae hi hefyd yn gyfrifol am gydlynu gwaith ddatblygu a diweddaru gwefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
E-bost: mrj11@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Anna McAdam
Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Anna yw’r Ymgynghorydd Gyrfaoedd sy'n gyfrifol am yr adrannau Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Seicoleg, ac Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Mae hi'n cyflwyno darlithoedd, gweithdai, digwyddiadau, ymgynghoriadau unigol a sesiynau grŵp rhyngweithiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o addysg, gwybodaeth a chyfarwyddyd gyrfaol. Mae hi hefyd yn gyfrifol am gydlynu, datblygu a hyrwyddo cynllun eFentora y Brifysgol sy'n cysylltu myfyrwyr presennol gyda chyn-fyfyrwyr.
E-bost: anm43@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Tony Orme
Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Tony yw'r Ymgynghorydd Gyrfaoedd sy'n gyfrifol am Ysgol y Gyfraith, Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Hanes a Hanes Cymru. Mae’n cyflwyno darlithoedd, gweithdai, digwyddiadau, ymgynghoriadau unigol a sesiynau grŵp rhyngweithiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o addysg, gwybodaeth a chyfarwyddyd gyrfaol. Mae hefyd yn gyfrifol am bob agwedd ar helpu myfyrwyr, graddedigion a staff sydd â diddordeb mewn menter, hunan-gyflogaeth a chychwyn busnes newydd, i droi eu syniadau da yn fusnesau da.
E-bost: awo@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Tîm GO Wales
Lewis Richards
Rheolwr Strategol GO Wales
Lewis yw’r Rheolwr Strategol ar gyfer GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith. Mae Lewis yn goruchwylio’r rhaglen hon o gymorth a chyfleoedd wedi'u teilwra ar gyfer myfyrwyr ifanc sy'n wynebu rhwystrau i brofiad gwaith. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
E-bost: lhr@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622099
Christina Evans
Ymgynghorydd Datblygiad GO Wales
Mae Christina yn Ymgynghorydd Datblygiad ar gyfer y rhaglen a ariennir gan ESF, GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith. Mae Christina wedi gweithio i'r Gwasanaeth Gyrfaoedd am nifer o flynyddoedd, yn cysylltu â chyflogwyr ledled Cymru i ddatblygu cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd ar gyfer myfyrwyr a graddedigion.
E-bost: cre@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 628509
Lorraine Spencer
Ymgynghorydd Datblygiad GO Wales
Mae Lorraine yn Ymgynghorydd Datblygiad ar gyfer y rhaglen a ariennir gan ESF, GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith. Mae Lorraine yn cysylltu â chyflogwyr ledled Cymru i ddatblygu cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd ar gyfer myfyrwyr a graddedigion.
E-bost: lms9@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 628517
Cheryl Skelton
Swyddog Gweinyddol GO Wales
Cheryl yw Swyddog Gweinyddol ar gyfer y rhaglen a ariennir gan ESF, GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith. Mae Cheryl yn darparu cymorth gweinyddol gyda hawliadau ariannol, dogfennaeth a llwybrau archwilio ar gyfer y prosiect gan gynnwys gefnogi'r Ymgynghorwyr ym mhob agwedd o'i dasgau o ddydd i ddydd.
E-bost: cas66@aber.ac.uk
Ffôn:(01970) 628518
Menter
Louise Somerfield
Swyddog Gweinyddol Menter