myf.cymru

Beth yw myf.cymru?

Nod myf.cymru yw gwella mynediad i adnoddau a chefnogaeth iechyd meddwl a lles i fyfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Beth sydd ar gael?

Mae modd cael mynediad at wybodaeth am hunan ofal, cyflyrau iechyd meddwl, clywed am brofiadau myfyrwyr eraill a lawer mwy mewn nifer o ffyrdd: 

  • Gwefan - myf.cymru - ar y wefan, ceir cynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a hefyd adnoddau am iechyd meddwl sydd wedi'u hadolygu gan therapyddion Cymraeg eu hiaith. Mae’r adran Iechyd Meddwl A-Y yn darparu gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl; ac o fewn adran Hwb Myf mae cynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr ar ystod eang o faterion sy’n effeithio eu hiechyd meddwl a lles. 
  • Ap - mae myf.cymru wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'r rhaglen Symud Ymlaen / Moving On In My Recovery© i gyfieithu eu ap i'r Gymraeg. Yn llawn adnoddau defnyddiol ac ymarferol i'ch cefnogi ar eich taith adferiad, a bydd o gymorth i unrhyw un lywio heriau bywyd o ddydd i ddydd. Ar gael ar Google Play:  https://bit.ly/3GRMxVt a Apple App Store: https://apple.co/3wl6dvT
  • Podlediad Sgwrs? - mae nifer o fyfyrwyr yn trin a thrafod y materion o bwys sy’n ymwneud a’u hiechyd meddwl a lles yng nghwmni’r cyflwynydd radio a theledu Trystan Ellis-Morris ar cwnselydd Endaf Evans. Mae’r penodau i gyd ar gael ar YouTube:  https://bit.ly/3wjHTKQ ac a’r prif blatfformau ffrydio.
  • Cyfryngau Cymdeithasol - am y newyddion diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook, Instagram a TikTok @myf.cymru

 

Oes modd i mi gyfrannu neu gymryd rhan?

Awydd cyfrannu at y drafodaeth?  Rydym o hyd yn chwilio am gynnwys newydd sbon gan fyfyrwyr boed ar gyfer ein sianelau cyfryngau cymdeithasol, y wefan, cymryd rhan mewn fideos a phodlediadau.  Mi allwch hefyd ysgrifennu erthyglau a blogiau, creu barddoniaeth neu gelf wreiddiol.  I wybod mwy, e-bostiwch myf.cymru@bangor.ac.uk.