Pantycelyn - Archebu Ystafell Gymunedol

Er bod rhai o'r ardaloedd cymunedol at ddefnydd trigolion Pantycelyn yn unig, mae'r ystafelloedd astudio, cyfarfod, ymarfer ac ymlacio canlynol ar gael i rai nad ydynt yn breswylwyr eu harchebu.

Ystafell Gyfarfod 1

  • Uchafswm Niferoedd:
    • 10 person
  • Cyfleusterau:
    • Bwrdd cyfarfod a chadeiriau
    • Teledu / sgrin gyfrifiadur
    • Cynadledda ffôn

Ystafell Gyfarfod 2

  • Uchafswm Niferoedd:
    • 10 person
  • Cyfleusterau:
    • Bwrdd cyfarfod a chadeiriau
    • Teledu / sgrin gyfrifiadur
    • Cynadledda ffôn

Ystafell Gyffredin Hŷn

  • Uchafswm Niferoedd:  
    • 20 person (yn eistedd o amgylch y bwrdd)
  • Cyfleusterau:
    • Bwrdd cyfarfod mawr
    • Teledu / sgrin gyfrifiadur
    • Cynadledda ffôn
    • Mynediad i’r teras awyr agored

Ystafell Astudio 1

  • Uchafswm Niferoedd:  
    • 22 person
  • Cyfleusterau:
    • Teledu / sgrin gyfrifiadur mawr
    • Darlithell integredig
    • 9 cyfrifiadur rhwydwaith (+ socedi cysylltu ychwanegol ar gyfer dyfeisiau personol)

 

Y Lolfa Fach

Wedi'i defnyddio'n draddodiadol fel gofod ymarfer, mae'r Lolfa Fach hefyd yn ystafell digwyddiadau modern a all gynnal amrywiaeth o weithgareddau.

  • Uchafswm Niferoedd:  
    • 50+ person
  • Cyfleusterau:
    • Sgrin daflunio mawr
    • Darlithell integredig
    • Piano
    • Cyfuniad hyblyg o fyrddau a chadeiriau
    • Mynediad i’r teras awyr agored

I archebu ystafell ewch i ystafellaberrooms.simplybook.it

  1. Dewiswch ‘Archebu Nawr’
  2. Dewiswch yr ystafell yr hoffech
  3. Ewch i’r mis rydych chi ei angen
  4. Dewiswch ddyddiad
  5. Dewiswch amser o’r opsiynau sydd ar gael
  6. Llenwch y ffurflen fer
  7. Cytunwch â’r amodau a’r telerau
  8. Os oes ond angen un awr, cliciwch ‘Cadarnhau Archeb’
  9. Os oes angen mwy o amser neu amserau eraill / ystafelloedd gwahanol, dewiswch ‘Ychwanegu archeb arall’
  10. Dilynwch gamau 2-6
  11. Pan fyddwch wedi dewis yr holl ystafelloedd / amserau sydd angen, gwasgwch ‘Cadarnhau Archeb’

Noder - Os oes angen cymorth paratoi ar gyfer eich digwyddiad gyda dodrefn neu offer arbennig, dylech archebu 7 diwrnod o flaen llaw. Dylid hefyd gynnwys amser o fewn eich archeb i osod yr ystafell, ac amser i’w gadael fel ag yr oedd cyn eich digwyddiad.

Os oes angen adnoddau ychwanegol, archebion cyson, neu os ydych am archebu ar gyfer sefydliad allanol e-bostiwch undeb@aber.ac.uk

Ar gyfer unrhyw archebion allanol (pobl nad ydynt yn Staff neu’n Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth), cysylltwch â'r Swyddfa Gynadleddau - cynadleddau@aber.ac.uk / Cynadleddau, Digwyddiadau a Chyfleusterau  : Cynadleddau a Digwyddiadau , Prifysgol Aberystwyth