Llety Haf

Angen rhywle i fyw yn ystod yr haf (Mehefin - Medi)? Os byddwch yn fyfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yna does dim angen edrych ymhellach gan ein bod yn darparu llety Prifysgol Aberystwyth yn ystod y cyfnod hwn. Felly p'un ai eich bod yn byw mewn neuadd ar hyn o bryd ac eisiau ymestyn eich cyfnod yma neu yn byw mewn tŷ sector preifat ar hyn o bryd, mae llety haf ar gael i chi!

Disgwylir i geisiadau am lety haf agor am 9.00 y bore Dydd Llun 25 Ebrill 2022

Dyma’r llety fydd ar gael yn y Brifysgol:

Cwrt Mawr, Band Pris 1 (llety hunanarlwyo, gydag ystafelloedd sengl).  Y gost wythnosol yw £95.41(£13.63 bob nos).  Bydd y llety hwn ar gael rhwng 24 Mehefin 2022 a 30 Medi 2022.

Rosser (llety hunanarlwyo, en-suite, gydag ystafelloedd sengl).  Y gost wythnosol yw £119.79 (£17.11 bob nos).  Bydd y llety hwn ar gael rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 9 Medi 2022.

Mae'r costau wythnosol yn cynnwys ynni, rhyngrwyd/WiFi, lefel uchel o yswiriant cynnwys personol, ac Aelodaeth Platinwm o’r Ganolfan Chwaraeon AM DDIM ar gyfer eich iechyd a'ch lles.

Mae llety haf y Brifysgol ar gael i fyfyrwyr cofrestredig Prifysgol Aberystwyth yn unig.

Nid yw ceisiadau am lety haf 2023 ar agor eto

 

Sut i Wneud Cais

Mae ceisiadau ar agor o 09:00yb ar ddydd Llun 25 Ebrill 2022.

I ofyn am lety ar gyfer yr haf bydd angen cwblhau ffurflen gais ar-lein:

  1. Mewngofnodwch i’r Porth Llety fel 'Myfyriwr Presennol’ gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr Aberystwyth a’ch cyfrinair.
  2. Dewiswch 'Archebu Llety ar gyfer yr Haf'
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer dewis y dyddiadau ar gyfer eich llety.

Noder:

  • Cynigir ystafelloedd ar sail y cyntaf i’r felin yn ôl y dyddiad a’r amser y byddwch yn cyflwyno eich ffurflen gais am lety ar-lein yn llwyddiannus. Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr fydd yn parhau i astudio yn ystod yr haf. 
  • Ein nod fydd neilltuo lle gyda’i gilydd i fyfyrwyr fydd yn aros am yr un cyfnod. Yn anffodus, ni allwn hwyluso ceisiadau i ffrindiau fyw gyda’i gilydd.
  • Ni fydd ceisiadau ar gyfer llety haf yn cael eu hystyried os oes gennych ddyled am lety gyda PA neu os ydych wedi cael eich gwahardd o Neuaddau PA yn ystod cyfnod eich trwydded ar gyfer y tymor. 
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus yn cael gwybod yn yr wythnos sy’n dechrau dydd Llun, 9 Mai 2022, neu cyn hynny. Felly, gofynnwn i chi barhau i edrych ar eich cyfrif e-bost PA yn rheolaidd. 
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cynnig o lety haf trwy e-bost a fydd yn cynnwys manylion ynglŷn â sut i gwblhau’r Pecyn Trwydded Llety Haf erbyn y dyddiad a nodir. Ni chewch hawl mynediad i lety haf heb ichi gwblhau’r pecyn trwydded hwn yn llwyddiannus.
  • Rhoddir cyfle i ymgeiswyr aflwyddiannus gael eu gosod ar restr aros ar gyfer lle gwag.

Beth yw fy opsiynau os ydw i'n graddio eleni?

Ni fyddwch bellach yn fyfyriwr cofrestredig.

Os nad ydych yn fyfyriwr sydd wedi cofrestru gyda PA gallwch geisio cysylltu a'r Swyddfa Gynadleddau am lety arall.  Fel arall, gallwch wirio argaeledd gwestai/gwely a brecwast lleol.

 

Pryd alla i symud i lety haf?

Ydych chi'n byw yn llety’r Brifysgol ar hyn o bryd?

Os ydych chi’n byw mewn llety prifysgol ar hyn o bryd, bydd eich llety haf ar gael i chi o'r dyddiad y daw eich Cytundeb Trwydded tymor i ben.

Cewch ragor o fanylion am symud i mewn i'ch llety haf trwy e-bost cyn i chi symud, felly cadwch olwg ar eich cyfrif e-bost PA yn rheolaidd.

Ydych chi'n byw yn y Sector Preifat ar hyn o bryd?

Os ydych chi’n byw yn y sector preifat ar hyn o bryd, yna bydd eich llety haf ar gael i chi o 24 Mehefin 2022 ar gyfer Cwrt Mawr ac 1 Gorffennaf 2022 ar gyfer Rosser.  Yn anffodus, ni allwn gynnig llety haf i chi cyn y dyddiadau hyn. Os ydych chi angen llety cyn y dyddiadau hyn, cysylltwch â'r Swyddfa Gynadleddau i weld a yw ein Byncws ar gael.

A oes raid aros am gyfnod penodol?

Isafswm hyd yr arosiad yw 3 wythnos.

Tan ba bryd y bydd llety haf ar gael?

Bydd llety haf ar gael tan 10.00yb ar ddydd Iau Medi 30ain 2022.

Byddwch yn derbyn rhagor o fanylion ynglŷn â’r trefniadau symud allan wrth ichi gyrraedd.

Beth os ydw i hefyd yn mynd i fod yn byw mewn llety PA ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23? A allaf aros tan bod fy llety tymor yn barod i mi symud i mewn?

Mae ein Cytundeb Trwydded Llety tymor 2022/23 yn dechrau dydd Gwener 23 Medi 2022.

Os ydych wedi sicrhau lle mewn llety haf PA a hefyd wedi sicrhau lle mewn llety PA ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 yna gallwch barhau i fyw gyda ni nes bydd eich llety tymor ar gael yn syml trwy ddewis y dyddiadau priodol ar y ffurflen gais.

Sut mae talu am lety haf?

Fel rhan o’ch Pecyn Trwydded Llety, er mwyn sicrhau eich llety, gofynnir i chi dalu wythnos o rent ymlaen llaw a sefydlu cynllun talu er mwyn talu am weddill eich ffioedd llety haf. Os oes gennych gwestiynau ynghylch talu ffioedd, cysylltwch â’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr ffioedd@aber.ac.uk

A fydd angen i mi dalu blaendal?

Gofynnir am daliad o wythnos o rent ymlaen llaw i sicrhau llety haf sy’n ddaladwy wrth i chi gwblhau eich pecyn trwydded.

Ceir manylion am ad-dalu blaendal yn y Cytundeb Trwydded Llety sydd ar gael yn y Llawlyfr i Breswylwyr.

A fydd unrhyw Arolygiadau yn ystod fy arhosiad?

Bydd arolygiadau yn parhau i gael eu cynnal trwy gydol yr haf gyda manylion pellach yn cael eu hanfon atoch gan y Tîm Rheoli Bywyd Campws. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn ag arolygiadau i'w gweld ar ein gwefan.