Pantycelyn, neuadd breswyl enwocaf Cymru, yn cynnig llety en-suite ar gyfer hyd at 200 o fyfyrwyr, sy’n dymuno byw trwy gyfrwng y Gymraeg, gofod cymdeithasol cyffrous, cyfleusterau gemau ac ystafelloedd astudio gyda’r offer diweddaraf.
Bum munud ar droed o gampws Penglais ac o’r dref, Pantycelyn yw calon cymuned fywiog myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.
Yn unol â thraddodiad Pantycelyn, bydd y breswylfa yn neuadd agored ac ar gael i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ac unrhyw fyfyrwyr sy'n edrych i ddysgu'r Gymraeg.
Mae hefyd yn gartref i UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – tîmau chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol Y Geltaidd, ac Aelwyd Pantycelyn.
Mae Pantycelyn yn unigryw gan ei bod neuadd arlwyo rhannol sy’n cynnig cyfle i breswylwyr gyd-fwyta a chymdeithasu amser bwyd yn y ffreutur ar y llawr gwaelod.
Hefyd ar y llawr gwaelod fe welwch nifer o ystafelloedd cymunedol amlbwrpas, sy'n cynnig ystod eang o gyfleusterau a gwasanaethau.
Pantycelyn, dy gartref oddi cartre, a llawer mwy.