Trosolwg
Mae Pentre Jane Morgan (PJM), y 'Pentre Myfyrwyr', i'w gael wrth ymyl Fferm Penglais, ar ochr arall y ffordd i Gampws Penglais, ac mae modd cyrraedd y campws yn ddiogel dros y bont droed. Mae gan lawer o'r ystafelloedd lan y grisiau yn y tai olygfeydd braf ar y dref a'r bae, sydd ryw gwta ddeng munud o dro i ffwrdd ar droed.
Llety
Mae Pentre Jane Morgan yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr rhwng 177 o dai.
Mae gan bob tŷ 5 ystafell wely. Mae gan 2 o’r tai DDA fflat hunan-gynhwysol sy’n cynnwys ystafell ymolchi a chegin addasadwy gydag ystafell i ofalwr drws nesaf os oes angen. Mae gan yr ystafelloedd gwely eraill yn y tŷ fynediad i ystafell ymolchi a chegin a rennir. Mae’r tŷ arall yn cynnwys un ystafell wely sengl gydag ystafell wely en-suite, 4 ystafell wely safonol gydag ystafell wely a rennir; mae gan yr holl ystafelloedd gwely fynediad i gegin addasadwy a rennir.
Arlwyo
Mae myfyrwyr yn PJM yn hunanarlwyo.
Mae Pentre Jane Morgan wedi’i leoli o fewn 5 munud o gerdded o archfarchnad CK’s, neu gall preswylwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mwy o faint yn y dref.
Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!
Adnoddau
Dyma rai o'r brif gyfleusterau Pentre Jane Morgan:
• Llety hunanarlwyo.
• Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
• Mynediad i'r canolfan ddysgu (Lolfa @ PJM neu Lolfa @ Rosser).
• Cyfleusterau golchi dillad.
• Mannau casglu sbwriel ac ailgylchu.
• Storfa ddiogel i gadw beiciau.
• Parcio (cyfyngedig, angen trwydded).
• Mae Cynorthwywyr Preswylfa'n darparu cymorth a cyngor.
Lleoliad
Cliciwch ar y map i weld union leoliad Pentre Jane Morgan
O fewn pum munud o gerdded o Bentre Jane Morgan gallwch gyrraedd:
- Archfarchnad CK’s
- Siop pysgod a sglodion
- Arhosfan bws
- Y mwyafrif o’r Adrannau Academaidd
- Llyfrgelloedd y Brifysgol
- Undeb y Myfyrwyr
- Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
- Canolfan Chwaraeon y Brifysgol
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Oriel
Ffioedd
Math o ystafell |
Cost Wythnosol 2022/ 2023 |
Hyd y Contract 2022/ 2023 |
Cost Wythnosol 2023/ 2024 |
Hyd y Contract 2023/ 2024 |
---|---|---|---|---|
Sengl | £108.91 | 39 wythnos* | £121.99 | 39 wythnos** |
*O10.00yb ar 23/09/2022 - 10.00yb ar 23/06/2023
**O10.00yb ar 22/09/2023 - 10.00yb ar 21/06/2024