Trosolwg
Cynlluniwyd Rosser G yn benodol i uwchraddedigion. Saif ar ben uchaf Campws Penglais wrth ymyl blociau eraill Rosser, a neuaddau preswyl Cwrt Mawr a Threfloyne - sydd yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr i gyd. Mae gan lawer o'r ystafelloedd olygfeydd braf ar y dref a'r bae, sydd ryw gwta ddeng munud o dro i ffwrdd ar droed.
Llety
Mae Rosser G yn gartref i hyd at 60 o fyfyrwyr o fewn 1 bloc. Mae'r bloc yn cynnwys 6 fflat hunangynhwysol, a 10 ystafell wely sengl ym mhob un. Bydd gan y preswylwyr eu hystafell ymolchi eu hunain, a byddant yn rhannu cegin a man seddi esmwyth.
Arlwyo
Mae myfyrwyr yn Rosser G yn hunanarlwyo.
Mae Rosser G wedi’i lleoli o fewn 5 munud o gerdded i archfarchnad CK’s, neu gall preswylwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mwy o faint yn y dref.
Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!
Adnoddau
Dyma rai o'r brif gyfleusterau Rosser G:
- Llety hunanarlwyo.
- Ystafelloedd gwely en-suite.
- Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
- Teledu fflat ar y wal (trwydded teledu yn gynwysiedig).
- Cyfleusterau Golchdy.
- Gwasanaeth glanhau yn y mannau cyhoeddus tu allan i'ch fflat - mynedfeydd, pen y grisiau, y grisiau a choridorau.
- Mynediad i'r Canolfannau Dysgu (Lolfa @ Rosser neu Lolfa @ PJM).
- Storfa ddiogel i gadw beiciau.
- Mannau casglu sbwriel ac ailgylchu.
- Parcio (cyfyngedig, rhaid cael trwydded)
- Mae Cynorthwywyr Preswylfa'n darparu cymorth a cyngor.
Beth sydd yn eich ystafell?
- Gwely dwbwl bachl (4 troedfedd) a matres.
- Cwpwrdd dillad.
- Desg a chadair cyfrifiadur.
- Lamp ddesg.
- Silffoedd llyfrau.
- Hysbysfwrdd.
- Bin gwastraff.
Ystafell ymolchi en-suite:
- Cawod.
- Toiled.
- Basn ymlochi (sinc) a drych.
- Rheilen dyweli boeth.
Beth sydd yn eich ardaloedd cymunedol?
Cegin
- 1 Oergell ac 1 Rhewgell, neu 2 Oergell/Rhewgell.
- 2 ffwrn â gril/hob.
- Popty ping.
- Tegell.
- Tostiwr.
- Teledu sgrin wastad ar y wal (darperir trwydded).
- Bar brecwast gyda stolion.
- 2 Soffa.
- Bwrdd coffi.
- Haearn.
- Bwrdd smwddio.
- Bwced a mop.
- Padell lwch a brwsh.
- Brwsh llawr.
- Hysbysfwrdd.
- Hwfer.
- Biniau – Ailgylchu sych cymysg, gwydr, bwyd a gwastraff cyffredinol.
Lleoliad
Cliciwch ar y map i weld union leoliad Rosser G
O fewn pum munud o gerdded o Rosser G gallwch gyrraedd:
- Archfarchnad CK’s
- Siop pysgod a sglodion
- Arhosfan bws
- Y mwyafrif o’r Adrannau Academaidd
- Llyfrgelloedd y Brifysgol
- Undeb y Myfyrwyr
- Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
- Canolfan Chwaraeon y Brifysgol
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Oriel
360 - Rosser(Ôl-radd), Ystafell Wely
360 - Rosser (Ôl-radd), Cegin
Ffioedd
Math o ystafell |
Cost Wythnosol 2023/ 2024 |
Hyd y Contract 2023/ 2024 |
Cost Wythnosol 2024/ 2025 |
Hyd y Contract 2024/ 2025 |
---|---|---|---|---|
En-suite sengl | £153.27 |
50 wythnos*
|
£159.40 |
50 wythnos**
|
*O 10.00yb ar 22/09/2023 - 10.00yb ar 06/09/2024
**O 10.00yb ar 20/09/2024 - 10.00 ar 05/09/2025