Trosolwg
Saif Cwrt Mawr ar ben uchaf Campws Penglais, ger neuaddau preswyl Trefloyne a Rosser. Mae gan lawer o'r ystafelloedd hefyd olygfeydd braf ar y dref a'r bae, sydd ryw gwta ddeng munud o dro i ffwrdd ar droed.
Llety
Mae Cwrt Mawr yn cynnwys fflatiau o fewn blociau. Mae pob bloc yn cynnwys 6 fflat hunangynhwysol, gyda rhwng 6 a 10 ystafell wely sengl ym mhob un. Bydd gan y preswylwyr gyfleusterau cawod a thai bach sy'n cael eu rhannu, yn ogystal â rhannu cegin a man seddi esmwyth, ac mae basn ymolchi ym mhob un ystafell wely.
Arlwyo
Llety hunanarlwyo yw Cwrt Mawr; mae'r myfyrwyr yn rhannu ceginau mewn fflatiau hunangynhwysol.
Mae Cwrt Mawr wedi’i leoli 5 munud ar droed o archfarchnad CK's, neu gall myfyrwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mawr yn y dref.
Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!
Adnoddau
Dyma rai o'r brif gyfleusterau Cwrt Mawr:
- Llety hunanarlwyo.
- Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
- Cyfleusterau golchi dillad.
- Gwasanaeth glanhau yn y mannau cyhoeddus tu allan i'ch fflat - mynedfeydd, pen y grisiau, y grisiau a choridorau.
- Mynediad i'r canolfan Ddysgu (Lolfa @ Rosser neu Lolfa @ PJM).
- Storfa feiciau diogel sy’n dal hyd at 60 beic.
- Mannau casglu Sbwriel ac Ailgylchu.
- Parcio (cyfyngedig, rhaid cael trwydded).
- Mae Cynorthwywyr Preswylfa'n darparu cymorth a cyngor.
Beth sydd yn eich ystafell?
- Gwely sengl (3 troedfedd) a matres.
- Cwpwrdd dillad.
- Desg a chadair cyfrifiadur.
- Lamp ddesg.
- Silffoedd llyfrau.
- Hysbysfwrdd.
- Bin gwastraff.
- Basn ymolchi (sinc) â drych.
Beth sydd yn eich Lle Cymunedol?
Cegin
- 1 Oergell ac 1 Rhewgell, neu 2 Oergell/Rhewgell.
- 2 ffwrn â gril/hob.
- Popty ping.
- Tegell.
- Tostiwr.
- Bar brecwast gyda stolion.
- 2 Soffa.
- Bwrdd coffi.
- Haearn.
- Bwrdd smwddio.
- Padell lwch a brwsh.
- Bwced a mop.
- Brwsh llawr.
- Hysbysfwrdd.
- Hwfer.
- Biniau – Ailgylchu sych cymysg, gwydr, bwyd a gwastraff cyffredinol.
Ystafell ymolchi
- 2 doiled.
- Glanweithydd dwylo / basn ymolchi (sinc).
- 2 gawod.
Lleoliad
Cliciwch ar y map i weld union leoliad Cwrt Mawr.
Mae Cwrt Mawr o fewn 5 munud ar droed i:
- Archfarchnad CK’s
- Siop Pysgod a Sglodion
- Safle Bws
- Y rhan fwyaf o’r Adrannau academaidd
- Llyfrgelloedd y Brifysgol
- Undeb y Myfyrwyr
- Canolfan y Celfyddydau
- Canolfan Chwaraeon y Brifysgol
- https://www.llyfrgell.cymru/
Oriel
Ffioedd
Math o Ystafell |
Cost Wythnosol 2023/ 2024 |
Hyd y Contract 2023/ 2024 |
Cost Wythnosol 2024/ 2025 |
Hyd y Contract 2024/ 2025 |
---|---|---|---|---|
Sengl | £110.31 | 33 wythnos* | TBC | 33 wythnos** |
*O 10.00yb ar 22/09/2023 - 10.00yb ar 21/06/2024